Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Ionawr 2018, cyhoeddais ddatganiad i'r aelodau ynghylch diagnosis, triniaeth a gofal i bobl sydd mewn cyflwr diymateb parhaol neu gyflwr lled-anymwybodol.
Yn dilyn hynny, cafwyd eglurder ar y sefyllfa gyfreithiol ynghylch rhoi’r gorau i roi maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol drwy Benderfyniad y Goruchaf Lys ym mis Gorffennaf 2018. Dyfarnodd y llys na fydd angen cymeradwyaeth farnwrol bellach er mwyn rhoi'r gorau i driniaeth sy'n ymestyn bywyd unigolion ag anhwylder ymwybyddiaeth cyfnod estynedig, sy'n cynnwys cyflwr diymateb parhaol a chyflwr lled-anymwybodol, ar yr amod bod cytundeb ynghylch yr hyn sydd er budd y claf, bod darpariaethau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 wedi'u dilyn a bod y canllawiau proffesiynol perthnasol wedi cael sylw.
Mae'r Farwnes Finlay o Landaf, cyn arweinydd gofal lliniarol clinigol Cymru a chadeirydd presennol Fforwm Galluedd Meddyliol Cymru a Lloegr, wedi arwain adolygiad o benderfyniadau o fewn achos unigol a dynnwyd at fy sylw yn flaenorol.
Rwy'n falch o nodi i'r adroddiad ganfod bod y gofal, y sylw a'r ymddygiadau gan staff yn ystod yr achos hwn o lefel uchel tu hwnt. Fodd bynnag, mae meysydd eraill o driniaeth a chanllawiau sydd angen ystyriaeth bellach er mwyn sicrhau bod y gofal gorau posib yn cael ei ddarparu i bob claf yng Nghymru a'u teuluoedd. Ceir copi o'r adroddiad yma: https://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/permanent-vegetative-or-minimal-conscious-states/?skip=1&lang=cy
Ar yr un pryd, gofynnais am alw grŵp gorchwyl a gorffen ynghyd i ystyried a oes angen datblygu rhagor o ganllawiau, addysg neu hyfforddiant ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Roedd adolygiad y Farwnes Finlay yn gwneud nifer o argymhellion manwl a ystyriwyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen ac sydd yn gyson â'i argymhellion.
Wedi ystyried yr argymhellion, mae'n amlwg bod rhai anawsterau’n codi o ran adnabod unigolion yn sgil natur yr anafiadau a ddioddefwyd a'r amrywiaeth o leoliadau lle gall gofal parhaus gael ei ddarparu.
Rwyf felly wedi gofyn i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru weithio gyda byrddau iechyd Cymru i gynnal asesiad o anghenion, datblygu llwybrau priodol a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu trefnu'n briodol. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth i deuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Fel rhan o hyn, bydd angen i fyrddau iechyd ystyried canllawiau i staff anarbenigol er mwyn helpu i adnabod unigolion sydd â'r cyflyrau hyn, ystyried yr hyfforddiant a roddir i weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i adnabod y cyflyrau hyn, sy'n aml yn anodd rhoi diagnosis iddynt, a sicrhau bod unigolion a'u teuluoedd yn cael y lefel o ofal sy'n ofynnol.
Hoffwn ddiolch i'r Farwnes Finlay, aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen a phawb sydd wedi cyfrannu tuag at y darn pwysig hwn o waith. Hoffwn hefyd ddiolch i holl aelodau'r GIG a gofal cymdeithasol sy'n gweithio yn y maes hwn, sy'n aml yn gorfod cael sgyrsiau anodd tu hwnt ac yn gwneud hynny mewn ffordd broffesiynol a charedig o ddydd i ddydd.
Rwyf am i'r gwaith hwn fod yn gam cyntaf er mwyn sicrhau bod pob un o'r unigolion yng Nghymru sydd o bosib neu'n bendant yn dioddef anhwylder ymwybyddiaeth cyfnod estynedig yn cael triniaeth deg, a'u teuluoedd yn cael cefnogaeth ar adeg aruthrol o anodd.