Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Mae Rhifyn 10 o Bolisi Cynllunio Cymru, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn rhoi lle canolog i'r syniad o greu lleoedd o fewn polisi cynllunio cenedlaethol. Diben hyn yw sicrhau bod penderfyniadau cynllunio'n ystyried pob agwedd ar lesiant ac yn sicrhau datblygiadau newydd sy'n gynaliadwy ac sy'n diwallu anghenion pawb.
Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi'i ddiwygio'n sylweddol er mwyn adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae'r 7 nod llesiant a'r 5 dull o weithio yn creu cysylltiadau drwy'r ddogfen ac mae'r ddogfen ei hun bellach yn canolbwyntio ar 4 thema (Dewisiadau Strategol a Gofodol; Lleoedd Actif a Chymdeithasol; Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus a Lleoedd Unigryw a Naturiol). Mae'r rhain, gyda'i gilydd, yn hyrwyddo'r syniad o greu lleoedd er mwyn cyflawni lleoedd cynaliadwy.
Mae cynnwys Polisi Cynllunio Cymru o ran polisïau wedi ei ddiweddaru er mwyn cyflawni amcanion ehangach Llywodraeth Cymru. Caiff ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio ei nodi'n glir ym Mholisi Cynllunio Cymru, a hynny drwy ddefnyddio'r system gynllunio i hyrwyddo cerdded a beicio a thrwy gyflwyno hierarchiaeth ynni. Y nod yw hyrwyddo'r gwaith o gynhyrchu ynni gan sicrhau bod cyn lleied â phosibl o danwyddau ffosil yn cael eu hechdynnu (gan gynnwys ffracio).
Ynghlwm i’r gwaith hwn, rwyf hefyd wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Hysbysu, sy'n golygu bod yn rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol hysbysu Llywodraeth Cymru os ydynt yn bwriadu cymeradwyo ceisiadau ar gyfer datblygiadau glo a phetroliwm newydd. Mae Polisi Cynllunio Cymru'n gosod y fframwaith polisi a chaiff y ceisiadau hyn eu hystyried yn unol ag ef.
Mae cyhoeddi Polisi Cynllunio Cymru'n gam bach ond pwysig tuag at sefydlu'r egwyddor o greu lleoedd. Mae gan Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Cynllunio Lleol, datblygwyr a rhanddeiliaid eraill oll swyddogaeth o safbwynt sicrhau bod yr egwyddor hon yn cael ei gweithredu. Gallwn oll gyfrannu at y gwaith o gyflawni datblygiadau o'r radd flaenaf sy'n cyfoethogi bywydau. Bydd gofyn i gynllunwyr bellach greu gwell lleoedd yn hytrach na rheoleiddio cynigion pobl eraill.
Mae fy swyddogion wrthi'n ystyried sut y gallwn gydweithio â'r sector er mwyn rhoi'r newid hwn ar waith. Byddwn yn mynd ati'n drylwyr i sicrhau bod egwyddorion Polisi Cynllunio Cymru yn cael eu rhoi ar waith. Fel rhan o hyn byddwn yn ystyried sut y dylem ymyrryd mewn perthynas â'r cynlluniau hynny nad ydynt yn dangos yn glir eu bod yn gweithredu'r egwyddorion sydd ynghlwm wrth greu lleoedd.
Hoffwn i Bolisi Cynllunio Cymru sbarduno newid o fewn y proffesiwn cynllunio yng Nghymru. Gan fod llawer o Awdurdodau Cynllunio Lleol wrthi'n adolygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol dyma'r amser delfrydol i gyflwyno'r newid hwn. Yn sicr bydd gofyn i bolisïau cynllunio lleol newydd adlewyrchu'r egwyddor o greu lleoedd. Ni ddylai cyhoeddi Polisi Cynllunio Cymru achosi oedi o safbwynt cyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol diwygiedig.