Araith gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rhoddwyd yr araith yng Nghynhadledd y Brifysgol Agored yng Nghymru/Wonkhe ‘Delivering Diamond’.
Bore da bawb. Mae'n dda cael bod yma gyda chi heddiw.
Hoffwn ddiolch i Wonkhe a'r Brifysgol Agored yng Nghymru am y gwahoddiad.
Mae'r digwyddiad hwn, yn fy marn i, yn gyfraniad answyddogol, ond pwysig, i'r broses ymgynghori a lansiwyd gennyf bythefnos yn ôl.
Fel y gwyr llawer ohonoch, bydd y broses ymgynghori honno yn dod i ben ar 14 Chwefror.
Nawr, ar ôl yr ymateb cadarnhaol a gafwyd ar y cyfan i gynigion y llywodraeth, nid wyf yn disgwyl cyflafan Dydd San Ffolant ar ddiwrnod olaf yr ymgynghoriad!
Yn wir, rwy'n mawr obeithio ein bod ar y trywydd iawn i feithrin cydberthynas wych, neu 'the beginning of a beautiful friendship' yng ngeiriau Humphrey Bogart.
Un lle rydym yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng rhoi cymorth i fyfyrwyr pan fydd ei angen arnynt fwyaf, a galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n rhyngwladol. Fel y dywedodd Gavan Conlon o London Economics, "gwneud mwy, gyda llai, ond yn well!"
Mae gennych agenda lawn heddiw lle y byddwch, rwy'n siwr, yn trafod manylion pecyn Diamond. Felly, yn yr amser byr sydd gennyf cyn mynd ati i ateb unrhyw gwestiynau, efallai y byddai'n ddefnyddiol canolbwyntio ar dair elfen, sef sut, pwy a pham:
- yn gyntaf, af ati i drafod y ffordd y byddwn yn cyflwyno'r diwygiadau hyn
- yn ail, af ati i nodi'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn arloesol yn y maes hwn, yn fy marn i
- ac yn drydydd, ceisiaf osod ein diwygiadau mewn cyd-destun ehangach.
Wrth gwrs, man cychwyn yn unig fydd hwn gan mai dim ond tua deg munud sydd gennym. Ond rwyf am rannu rhai o'n syniadau.
Roeddem yn ffodus i gael rhywun o safon Syr Ian - a'i banel o arbenigwyr - yn arwain yr adolygiad. Roedd gennym arweinwyr sefydliadau yma yng Nghymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r pleidiau, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) a diwydiant. Ond mae llygad craff Syr Ian, ynghyd â'i arweinyddiaeth a'i waith dadansoddi cadarn, wedi bod yn hanfodol, yn fy marn i, er mwyn cyrraedd y pwynt hwn.
Mae'r adroddiad, ac yn wir ein hymateb, wedi'u hadeiladu ar sylfeini sy'n hanfodol ar gyfer unrhyw broses ddiwygio flaengar.
Rydym wedi gallu cyfuno egwyddorion â ffactorau ymarferol a sicrhau cydbwysedd rhyngddynt.
Roedd y mater dan sylw yn glir.
Nid yw'r system gyfredol yn gynaliadwy. Ond efallai'n bwysicach na hynny, a oedd y system honno'n cynorthwyo myfyrwyr yn y ffordd orau posibl? A oedd yn helpu ein sector i weithredu yn y ffordd orau posibl i Gymru? Ac a oedd yn cefnogi'r broses o ehangu mynediad, drwy astudiaethau rhan amser ac ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.
Felly, yn seiliedig ar yr heriau hynny, nodais fy egwyddorion ar gyfer system gymorth flaengar a chynaliadwy i fyfyrwyr. Cafodd yr egwyddorion hyn gefnogaeth y Cabinet, gan ddarparu fframwaith ar gyfer datblygu ein hymateb i'r adolygiad.
Er mwyn eich atgoffa, dyma'r egwyddorion hynny:
- ein bod yn cynnal egwyddor o gyffredinoliaeth mewn system flaengar
- bod dull gweithredu 'system gyfan' ar waith
- y caiff buddsoddiad ei rannu rhwng y Llywodraeth a'r sawl sy'n cael budd uniongyrchol ohono
- ein bod yn gwella hygyrchedd, gan fynd i'r afael â rhwystrau fel costau byw
- a bod y cymorth a roddir i fyfyrwyr ar gael unrhyw le yn y DU.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu cyfuno cymorth cyffredinol a chymorth ar sail prawf modd; ymrwymo i ddiogelu'r sawl sy'n rhan o'r system bresennol; ac ymestyn yr eithriadau sy'n gysylltiedig â chymwysterau lefel mynediad (ELQ) yn hytrach na'u dileu yn gyfan gwbl.
Ac, ar bob cyfrif, ceisio osgoi canlyniadau anfwriadol sydd, os wyf yn onest, wedi'u gweld yn llawer rhy aml yn sgil y gwahanol ddiwygiadau ar draws y ffin.
Ac mae hynny'n fy arwain at fy ail bwynt.
Mae addysg uwch yn gweithredu ledled y DU, gan gynnig llawer o fanteision. Mae'r Brifysgol Agored ei hun yn enghraifft dda o sefydliad pedair gwlad sy'n cael budd o'r ffaith ei fod yn gweithredu ledled y DU, ond sy'n ddigon hyblyg i weithredu ar lefel genedlaethol yng Nghymru. Ond mae hefyd yn creu llawer o heriau.
Mae'r penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn effeithio ar y tair gwlad arall yn y DU - yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
Ond yr hyn nad yw'n wir yn sicr yw'r canfyddiad mai polisïau yn Lloegr yw'r norm y gallwn ni yng Nghymru wyro oddi wrtho.
Mae hyn yn ddifrïol ac yn ein portreadu fel rhywun sy'n creu helynt neu gefnder cyfeiliornus.
Mewn gwirionedd, mae diwygiadau Diamond yn dangos bod Cymru yn wlad arloesol a rhyngwladol ac y gallai fod yn ysbrydoliaeth.
Rydym eisoes yn cael galwadau gan weinyddiaethau eraill. Fel y rhagfynegodd David Morris ar Wonkhe ym mis Medi:
"bydd cwestiynau'n cael eu gofyn ym mhob cwr o'r DU ynghylch sut y gall Cymru fod cymaint yn fwy hael i'w myfyrwyr. Gallai Diamond arwain at newidiadau ar draws y DU gyfan."
Fel y gwyr fy swyddogion yn ein his-adran ysgolion, rwy'n cael fy ysgogi gan uchelgais bod Cymru yn dysgu gan y gorau, fel y gallwn ninnau wedyn fod yn fodel arfer gorau.
Rwyf am weld llunwyr polisïau rhyngwladol yn ymweld â Chymru er mwyn dysgu sut mae codi safonau, lleihau'r blwch cyrhaeddiad a chyflwyno cwricwlwm newydd.
Does bosibl nad yw pobl wedi syrffedu erbyn hyn ar ymweld â'r Ffindir neu Korea - gadewch i ni fod yn ddigon nodedig i'w denu i Abergwaun neu Gaernarfon yn lle hynny!
Rwyf am weld y gwaith sy'n cael ei wneud gennym i ddiwygio addysg uwch yn cael ei ddefnyddio fel templed ar gyfer systemau eraill.
Byddai'n newid calonogol pe bai Is-gangellorion Cymru yn penderfynu hysbysu eu cymheiriaid yn Lloegr am y penderfyniadau beiddgar a gymerwyd ar y cyd gennym yma. Os bydd hynny'n dechrau digwydd, rwy'n gwybod y byddaf ar y trywydd iawn i gyflawni fy uchelgais!
Ac yna efallai y dechreuaf fod yn fwy cydymdeimladol tuag at ofynion eraill ynglyn ag efelychu agweddau penodol ar y system yn Lloegr.
Yn drydydd, hoffwn ddychwelyd at bwynt a wnes yn fy natganiad i'r Cynulliad ym mis Medi pan groesewais yr adroddiad yn wreiddiol.
Yn ei ragair, soniodd Syr Ian am yr egwyddor adnabyddus yn Adroddiad Robbins, sef y dylai mynediad i brifysgol fod yn seiliedig ar allu'n unig, ac nid y gallu i'w fforddio.
Noda Adroddiad Robbins hefyd fod yn rhaid barnu bod y system gyfan yn ddiffygiol os nad yw'n darparu'n ddigonol i bawb, pwynt a gaiff ei anwybyddu'n aml wrth bennu nodau system addysg uwch.
Fel y cyntaf yn y DU ac, yn wir, efallai'r cyntaf yn Ewrop, i sicrhau bod cymorth cynhaliaeth cyfatebol ar gael ar gyfer pob dull a lefel o astudio, credaf ein bod yn symud tuag at system sy'n darparu i bawb.
Mae UCM Cymru, drwy ei ymchwil a'i waith adeiladol parhaus, wedi mynd i'r afael â blaenoriaethau cyllido myfyrwyr yn uniongyrchol. Ac mae wedi cyflwyno achos dros gynnwys pob math o fyfyrwyr, nid dim ond myfyrwyr traddodiadol 18 oed.
Dyna pam i mi gael fy synnu mewn cyfweliad diweddar gyda Times Higher Education pan awgrymwyd ein bod yn gweithredu system debyg i'r un a welir yn Lloegr.
Gadewch i mi fod yn glir, rwy'n ymrwymedig i'r syniad o system addysg uwch sydd o fudd i bawb. Ac un ffordd o ddangos hyn yw drwy rannu costau rhwng y myfyriwr, y sefydliad a'r llywodraeth.
Ond ni ellir cyfyngu hyn i un math o fyfyriwr. Nid yw hynny'n flaengar nac yn briodol ar gyfer economi a chymdeithas gystadleuol a modern.
Felly, yr opsiynau sydd ar gael yw naill ai system sy'n trin pob myfyriwr yn yr un modd gyda'r llywodraeth yn tynnu'r cymorth i fyfyrwyr yn ôl yn gyfan gwbl, neu ymrwymiad llawn i bartneriaeth lle rydym yn rhannu'r costau hynny pan fydd myfyrwyr angen i ni wneud hynny fwyaf.
Diolch i Becyn Diamond, mae gennym system ymarferol, flaengar a chyson sy'n sicrhau bod Cymru yn gallu dewis yr ail opsiwn.
Ac rwyf am danlinellu ein newid sylfaenol tuag at ddull gweithredu 'system gyfan' y soniais amdano yn gynharach.
Drwy sicrhau y rhoddir yr un cymorth i fyfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedigion, mae gennym gyfle gwirioneddol i fynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau parhaus hynny a welir ym maes symudedd cymdeithasol, canlyniadau cyflogaeth, mynediad i'r proffesiynau, amrywiaeth yn y byd academaidd a'r gwaith hollbwysig o hyrwyddo dysgu gydol oes.
I gloi, hoffwn hefyd bwysleisio bod y newid i'r cymorth a roddir i fyfyrwyr yn rhoi cyfle i ni fod yn graff ac yn gynaliadwy wrth fynd ati i gyllido addysg uwch.
Wrth gwrs, caiff penderfyniadau ariannol eu gwneud mewn trafodaethau ynghylch y gyllideb yn y dyfodol. Ond rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod gennym system addysg uwch a gefnogir i gyflawni ym maes symudedd cymdeithasol, ymchwil ac ysgoloriaethau, democratiaeth agored, entrepreneuriaeth a ffyniant cenedlaethol.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o'r ymdrech gyfunol i ddiwygio addysg yng Nghymru, gan adeiladu dyfodol gwell i'n dinasyddion ac i'n cenedl. Mae ein newidiadau arfaethedig i'r broses o gyllido cymorth myfyrwyr a chyllid addysg uwch yn agwedd uchelgeisiol ond hanfodol ar y genhadaeth honno.
Diolch am y gwahoddiad heddiw i rannu rhai o'm syniadau ynghylch cyflawni argymhellion Diamond. Edrychaf ymlaen at glywed eich cwestiynau.