Araith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Cyflwyniad
Bore da bawb. Good morning everyone.
Rwyf wedi sôn o'r blaen ein bod yn ffodus i allu cyfarfod bob blwyddyn fel hyn.
Mae'n gyfle i'n holl benaethiaid a'n partneriaid yn y sector gyfarfod o dan un to er mwyn rhannu newyddion, safbwyntiau ac arfer gorau.
Nifer fach o wledydd eraill sydd â'r fantais hon.
Er mwyn i'n gwaith diwygio ar y cyd fod yn llwyddiannus, bydd cyfathrebu'n hollbwysig.
Heddiw yw pen-blwydd y diwrnod y rhoddwyd patent ar y teleffon a ddyfeisiwyd gan Alexander Graham Bell, a hefyd y diwrnod pan gafodd yr alwad drawsatlantig gyntaf ei gwneud.
Er na fydd y gynhadledd heddiw o bosibl yn gwneud hanes yn yr un modd, mae'n gyfle gwych.
Wrth gwrs, nid y gynhadledd hon yw eich unig gyfle i siarad â ni. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd eich adborth yn bwysicach nag erioed.
Nid oes angen dweud y byddwn yn ceisio adborth drwy gydol y broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Rwy'n credu fy mod yn Weinidog sy'n awyddus i wrando ac sy'n gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol, ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n credu hynny hefyd.
Fel y gwyddoch, yr haf diwethaf, cymerais yr amser i ystyried sgyrsiau ag athrawon, rhieni ac addysgwyr yn y system ynghylch y broses o weithredu'r cwricwlwm newydd.
Y consensws oedd y bydd cyflwyno'r cwricwlwm yn ofalus a thrwy gydweithio yn sicrhau bod gan ysgolion ac athrawon ddigon o amser i baratoi.
Nid amser i sefyll yn stond ydyw, ond amser i roi adborth, ymgysylltu ymhellach â'r cwricwlwm newydd a bod yn hollol barod ar gyfer y dull gweithredu newydd.
Felly, bydd y cwricwlwm newydd a'r trefniadau asesu ar gael i ysgolion roi adborth arnynt, eu profi a'u mireinio yn ystod Pasg 2019.
Yn dilyn y cyfnod hwnnw, bydd pob ysgol yn gallu defnyddio'r cwricwlwm terfynol o 2020, a bydd hyn yn galluogi pob ysgol i fod yn hollol barod i'w gyflwyno'n statudol ym mis Medi 2022.
Mae angen i ni glywed gennych dros y ddau ddiwrnod nesaf, a hefyd yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Rydym wedi llwyddo i wneud llawer ers yr alwad gyntaf honno ar draws yr Atlantig. Gwnaeth yr alwad honno gysylltu dwy wlad sydd dros 3,000 o filltiroedd oddi wrth ei gilydd. Gan fod Cymru'n wlad fechan, dychmygwch yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd.
Rhyngwladol
Nawr, wrth gwrs, nid yw'r ffaith ein bod yn wlad fechan yn golygu na ddylem anelu'n uchel.
Fel Ysgrifennydd y Cabinet, rhai o fy ngeiriau cyntaf o gyngor i swyddogion oedd dod o hyd i syniadau a thystiolaeth o bob cwr o'r byd.
Yn rhy aml yn y gwledydd Celtaidd, rydym yn gweld pethau o safbwynt profiad Lloegr.
Oherwydd y dylanwad hwnnw a'i faint, rydym weithiau yn anghofio mai eithriad i ymarfer a datblygiadau rhyngwladol yw polisïau ac egwyddorion dros y ffin, yn hytrach na rhywbeth arferol.
Felly, dros y 18 mis diwethaf, cafodd llawer o'n datblygiadau pwysicaf yma yng Nghymru eu llywio gan safbwynt rhyngwladol gwirioneddol.
Mae ein gwrthwynebiad i wahanu a dethol mewn ysgolion yn seiliedig ar enghreifftiau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
Mae pwysigrwydd lleihau maint dosbarthiadau er mwyn helpu i gau'r bwlch cyrhaeddiad, codi safonau a chefnogi athrawon yn seiliedig ar brofiad Gogledd America yn benodol.
Mae arfer gorau yn Ontario wedi llywio ein gwaith buddsoddi mewn addysg wledig.
Ar ôl cael gwahoddiad i ymuno ag Atlantic Rim Collabatory – sy'n gweithio gyda gwledydd fel Iwerddon a'r Ffindir, yn ogystal â Chaliffornia – gallwn brofi'r ffordd rydym yn sicrhau llesiant ac yn lleihau biwrocratiaeth, yn ogystal â'n barn gyfredol ar atebolrwydd a mesur perfformiad.
Ac mae ein gwaith diwygio ehangach ym meysydd addysg bellach ac addysg uwch yn cael ei arwain gan waith ymchwil yr arweinwyr a'r arbenigwyr gorau yn rhyngwladol.
Felly, fel rwy'n ei ddweud yn aml, er mwyn sicrhau mai chi yw'r wlad orau, mae'n rhaid i chi ddysgu gan y goreuon.
Rwy'n falch o ddweud bod Steve, Marco ac, wrth gwrs, Graham, yma heddiw i rannu eu safbwyntiau a chlywed gennych.
Rwyf yr un mor awyddus, wrth i ni arloesi, ein bod yn dylanwadu ar ddulliau gweithredu rhyngwladol hefyd.
Dyna pam rydym wedi bod yn gweithio gydag Iwerddon er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ein model ysgol arloesi.
Dyna pam rydym wedi bod yn briffio Ontario ar y gwaith sy'n cael ei wneud gennym i ddiwygio'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu.
Dyna pam rydym wedi bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Alban am lwyddiant gwaith rhanbarthol.
Ac nid mentrau sy'n cael eu harwain gan y Llywodraeth yn unig ydynt; mae cyfleoedd i athrawon ac eraill gymryd rhan.
Mae'n rhaid i ni ymddiried yn ein gwaith diwygio, ein dull gweithredu a'n gallu i godi safonau ar y cyd.
Pedwar amcan galluogi
Gwyddoch fod ein cynllun gweithredu, Cenhadaeth ein Cenedl, a gyhoeddwyd y llynedd yn nodi'r pedwar amcan a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein cenhadaeth i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n annog hyder yn gyhoeddus.
Mae'r pedwar amcan hwn yn ategu'r gwaith o gyflawni ein cwricwlwm newydd.
Yr amcanion hynny yw:
- Datblygu proffesiwn addysg o safon uchel.
- Arweinwyr sy'n ysbrydoli ac sy'n cydweithio i godi safonau.
- Ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i sicrhau rhagoriaeth, tegwch a lles; ac yn olaf
- Trefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn i ategu system hunanwella.
Yn y gynhadledd hon, byddwn yn canolbwyntio ar yr amcan olaf; trefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn.
Asesu, gwerthuso, atebolrwydd
Felly, wrth i ni ddatblygu a chynllunio ein cwricwlwm newydd a'r trefniadau asesu, rydym yn ystyried ac yn mynd i'r afael â chwestiynau ynghylch atebolrwydd.
I ddechrau:
Bydd trefniadau asesu a gwerthuso ysgolion a threfniadau o'r fath ar lefel system yn llywio gwelliant i bob dysgwr;
Rydym yn sicrhau ac yn gwella hyder y cyhoedd yn ein system;
Rydym yn cydnabod y gwerth sy'n cael ei ychwanegu gan athrawon ac ysgolion yn well;
Mae hunanwerthusiad ac adolygiad gan gymheiriaid ar bob lefel o'r system.
Bydd sesiynau eraill heddiw yn rhoi rhagor o wybodaeth am ein syniadau presennol, sydd wedi cael eu llywio eisoes gan sawl pennaeth, undeb, arbenigwr rhyngwladol a thystiolaeth, a sawl un arall yn ein system.
Bwlch cyrhaeddiad
Soniais am yr angen i fesur yn well y gwerth sy'n cael ei ychwanegu gan athrawon ac ysgolion yn y system.
Rwy'n eich sicrhau y byddwn yn symud yn gryf i'r cyfeiriad hwnnw.
Gwyddom, er gwaethaf ein holl gryfderau a'n gwelliannau, fod llawer o heriau yn wynebu'r maes addysg yng Nghymru o hyd.
Nid oes yr un her yn fwy na mynd i'r afael â'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng plant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig a'u cyd-ddisgyblion.
Rwy'n deall bod tlodi, a'i rwystr parhaus i ddysgu, yn dechrau ymhell cyn i blentyn ddechrau yn yr ysgol. Nid oes gan ysgolion ateb i bob problem.
Ond, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fy swydd i yw sicrhau, pan fydd y bobl ifanc hyn yn ein gofal, y byddwn yn eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial o'r diwrnod cyntaf, a'ch swydd chi fel arweinwyr ysgol yw gwneud hyn hefyd.
Rwyf wedi siarad sawl gwaith am fy nyheadau i gael system sy'n ategu ac yn cyfuno tegwch a rhagoriaeth. Mae'n un o themâu allweddol Cenhadaeth ein Cenedl.
Rydym wedi gwneud cynnydd da dros y blynyddoedd diwethaf; mae'r bwlch yn sicr wedi culhau. Rhaid diolch i chi a gwaith caled eich staff am hynny. Rhaid i ni barhau â'r momentwm a'r ffocws hwnnw.
Mae'r Grant Datblygu Disgyblion, polisi y gwyddoch sy'n agos at fy nghalon, yn parhau i wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu'r disgyblion hyn.
Mae tystiolaeth yn dangos bod ysgolion byth a hefyd yn dysgu ffyrdd newydd ac arloesol o sicrhau bod pob ceiniog o'r grant hwn yn gwneud gwahaniaeth. Rwy'n annog pob un ohonoch i ystyried y dystiolaeth gynyddol a pharhau i ddysgu gan eich gilydd yn ein system hunanwella gynyddol.
Rwyf hefyd yn ymwybodol, er y gallem ganmol ein hunain fel llywodraeth am y cynnydd sy'n cael ei wneud, na ddylem laesu dwylo.
Ni ddylem byth ddisgwyl llai gan unrhyw berson ifanc, ni waeth beth fo'i gefndir – tegwch a rhagoriaeth i bawb.
Dyna pam na fyddaf yn ymddiheuro am barhau i bwyso arnoch yn lle dewis yr opsiwn hawdd a gwneud cynnydd heb lawer o ymdrech.
Rwy'n croesawu'r camau gweithredu cryf a gymerwyd i symud disgyblion o BTEC Gwyddoniaeth i TGAU Gwyddoniaeth.
Efallai y bydd hyn yn effeithio ar ein canlyniadau TGAU yn gyffredinol ac yn ei gwneud yn hawdd i wrthwynebwyr a'r cyfryngau ein beirniadu.
Ond, wyddoch chi beth? Gallwn fod yn falch o'r ffaith bod miloedd a miloedd yn fwy o ddisgyblion yng Nghymru bellach yn astudio ar gyfer cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth, yn hytrach na chymhwyster BTEC yn unig. Mae hynny'n codi safonau ac yn gwella'r cyfleoedd i'n holl ddysgwyr, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dod o gefndir tlotach.
Penderfyniad anodd, ond y penderfyniad cywir.
Cyflawniadau
Rydym yn cyflawni llawer wrth symud ymlaen gyda'n gilydd fel system hunanwella.
Erbyn hyn:
- mae gennym fodel rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion sy'n seiliedig ar lawer o egwyddorion system hunanwella,
- rydym wedi atgyfnerthu'r syniad o system hunanwella drwy rôl ysgolion yn y gwaith o arwain eraill, er enghraifft,
- y Rhwydwaith Arloesi,
- y System Genedlaethol Categoreiddio Ysgolion sy'n canolbwyntio ar gefnogi,
- partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon sy'n dod i'r amlwg,
- y nifer gynyddol o ysgolion sydd wedi ymrwymo i ddatblygu fel sefydliadau dysgu,
- a sawl menter a gynlluniwyd i rannu arbenigedd mewn pwnc neu wrth arwain
Mae'r rhain yn dangos ein bod yn manteisio ar ein maint fel system.
Ein bod yn uchelgeisiol iawn, ond ein bod yn ddigon ystwyth i gydweithio er mwyn symud ymlaen â diben cyffredin.
Ariannu
Doeddwn i ddim yn meddwl ei bod yn iawn siarad â chi heddiw heb sôn am faterion ariannu.
Mae sawl pennaeth wedi codi'r ffaith bod ariannu ysgolion yn broblem.
Rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd y mater hwn. Rwy'n unigolyn sydd, drwy gydol fy mywyd gwleidyddol, wedi brwydro fel mater o flaenoriaeth dros roi arian ychwanegol i'n hysgolion i'w cefnogi.
Fel Aelod Cynulliad ac arweinydd gwrthblaid, gofynnais bob blwyddyn am arian ychwanegol i ysgolion yn ystod trafodaethau â Llywodraeth flaenorol Cymru, yn gyfnewid am gefnogi ei chyllideb.
Arweiniodd hyn at sefydlu'r Grant Datblygu Disgyblion sydd – fel y soniais yn gynharach – yn werth £90m ychwanegol i ysgolion bob blwyddyn yng Nghymru.
Ers cael fy mhenodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, rydym ni fel llywodraeth wedi mynd hyd yn oed ymhellach drwy ddyblu'r gefnogaeth hon i'n dysgwyr ieuengaf.
Rwyf hefyd wedi gwrando ar athrawon yn y rheng flaen sy'n codi'r problemau sy'n eu hwynebu wrth addysgu dosbarthiadau mawr. Mewn ymateb, byddwn yn trosglwyddo £36m dros dymor y Cynulliad hwn i gefnogi'r polisi newydd hwn. Mae sawl Aelod Cynulliad wedi ceisio gwrthwynebu'r gefnogaeth hon – ond rydym wedi gwrando ar y rhai sy'n gweithio yn y rheng flaen.
Wyddoch chi beth? Nid wyf wedi anwybyddu'r ffaith bod pwysau ariannol penodol.
Rwy'n clywed yn ddigon aml, gan benaethiaid ledled y wlad, fod amser yn cael ei wastraffu ac arian yn cael ei wario ar gynnal a chadw ysgolion, yn hytrach nag ar gefnogi dysgwyr.
Felly, dyna pam y cyhoeddais dros y penwythnos y byddwn ni fel llywodraeth yn trefnu bod £14 miliwn ychwanegol ar gael, a fydd yn cael ei ddyrannu'n uniongyrchol i ysgolion.
Bydd hyn yn mynd i'r afael â chostau cynnal a chadw ar raddfa fach. Bydd pob ysgol yng Nghymru yn elwa ar yr arian hwn, a bydd yn mynd yn uniongyrchol i'r rheng flaen.
Ond, credwch chi fi pan ddywedaf fy mod yn cydnabod, hyd yn oed gyda'r adnodd ychwanegol hwn, nad yw cyllidebau ysgolion yn ddigon. Mae'n gyfnod anodd. Mae'r agenda caledi barhaus wedi arwain at leihau cyllideb Cymru ymhell dros biliwn o bunnoedd. Yn anffodus, dydw i ddim yn credu y daw'r cyfnod anodd hwn i ben yn fuan.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fynnu bod arian ychwanegol yn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus, a fyddai'n golygu y gallem gefnogi ein hysgolion ymhellach.
Er hynny, rwy'n cydnabod hefyd nad arian yw'r ateb i bopeth.
Nid yw gwario mwy a mwy o arian yn gwella safonau – pe bai hynny'n wir, byddem wedi datrys y problemau erbyn hyn.
Ni allwn ganiatáu i gyllideb lai ein rhwystro rhag bod yn uchelgeisiol. Mae ein pobl ifanc yn haeddu gwell na hynny.
Felly, mae'n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar genhadaeth ein cenedl o ran diwygio addysg: codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n annog hyder yn gyhoeddus.
PISA
Nawr, alla' i ddim eich gadael heddiw heb sôn am PISA.
Rhaid i bawb sy'n rhan o'n system ddeall bod PISA yn ein galluogi i gymharu ein hunain yn erbyn y byd. Mae'n dal i fod yn feincnod rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer sgiliau.
Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i ddangos i'n hunain, ac i'r byd, y gall ein pobl ifanc gystadlu â'r goreuon.
Efallai nad yw PISA yn rhan o fesurau perfformiad ysgolion, ond mae'n bwysig iawn i'n cenedl.
Os ydych yn cytuno â Chenhadaeth ein Cenedl, a gobeithio eich bod yn cytuno â hi, rhaid i chi hefyd gytuno bod PISA yn bwysig – gan fod canlyniadau gwell yn y tablau rhyngwladol hyn yn rhan annatod o'r gwaith o sicrhau bod ein system addysg yn meithrin balchder cenedlaethol a hyder yn gyhoeddus, pethau rydym i gyd am eu gweld.
Casgliad
Felly, efallai bod yr alwad drawsatlantig gyntaf honno y soniais amdani ar y dechrau yn rhywbeth hanesyddol, ond wyddoch chi beth? Roedd y sgws a gafwyd ar yr alwad bwysig honno am y tywydd, mewn gwirionedd.
I bob un ohonom sydd yma heddiw, mae beth rydym yn ei gyfathrebu yn bwysicach na sut rydym yn cyfathrebu.
Rydym ni, fel gwlad, yn gwneud gwaith diwygio cyffrous a fydd, mewn un ffordd neu'r llall, yn trawsnewid bywydau cenhedlaeth yn y dyfodol.
Eu bywydau nhw, ein cymdeithas ni – yn cael eu llywio gan y bobl yn yr ystafell hon.
Mae hynny'n well o lawer na siarad am y tywydd. Gyda'n gilydd, rydym yn gwneud hanes hefyd.
Diolch yn fawr.