Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Mae’n bleser gennyf wneud y datganiad hwn ynghylch penodi ail Gomisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Saith mlynedd yw hyd swydd y Comisiynydd; mae cyfnod y Comisiynydd presennol, Meri Huws, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019. Rwy’n falch i gyhoeddi fy mhenderfyniad i gynnig y swydd i Aled Roberts.
Roedd y panel dethol yn cynnwys Rhian Huws Williams fel cadeirydd ac uwch aelod annibynnol; Bethan Sayed AC, a enwebwyd gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad Cenedlaethol; Chris Burns, fel un ag enwebwyd gan Weinidogion Cymru am fod ganddo brofiad perthnasol; a Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr Isadran y Gymraeg Llywodraeth Cymru. Hysbysebwyd y swydd dros yr haf 2018 ac mae’n dda gen i ddweud bod y panel wedi’u plesio gyda nifer a safon y ceisiadau a ddaeth i law.
Ar ôl ystyried argymhellion y panel dethol, rwy’n ffyddiog bod gan Aled y sgiliau, y profiadau, a’r hygrededd i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg ac i fod yn flaengar yn y drafodaeth gyhoeddus am y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd heriol sydd i ddod. Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, ac yn hynny o beth bydd y penodiad hwn yn allweddol o safbwynt gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn Strategaeth Cymraeg 2050.
Mae Aled yn gyfreithiwr, yn gyn-arweinydd llywodraeth leol, yn llywodraethwr ysgol ac wrth gwrs yn gyn-Aelod Cynulliad uchel ei barch. Fe fydd nifer ohonoch chi’n cofio Aled o’i amser fel Aelod o’r Cynulliad ac yn cofio ei fod yn eiriolwr brwd dros y Gymraeg. Yn fwy diweddar mae Aled wedi arwain y gwaith o gynnal arolwg o'r system ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg gan weithio’n ddyfal gydag Awdurdodau Lleol i wella’u Cynlluniau ar gyfer Addysg Gymraeg. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am y gwaith hwn. Mae Aled wedi cytuno rhoi’r gorau i’r rôl hon er mwyn medru cael ei benodi fel Comisiynydd y Gymraeg.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn yn ogystal i ddiolch i Meri Huws am yr hyn mae hi wedi cyflawni yn ystod ei thymor fel Comisiynydd y Gymraeg. Mae Meri wedi mynd ati gydag arddeliad i sicrhau mwy o hawliau i siaradwyr Cymraeg ac wedi rhoi sylfaen cryf yn ei le ar gyfer yr ail Gomisiynydd.