Serai Hann
Mae Serai yn gweithio gyda ‘Movement for Change’ i fynd i’r afael â’r broblem niweidiol o gynnig benthyciadau llog uchel ar garreg y drws. Gweithiodd gyda phobl o bob cwr o Abertawe i sefydlu ymgyrch Credyd Teg Bae Abertawe.
Ymysg llwyddiannau’r ymgyrch mae’r canlynol; Cyngor Abertawe yn cytuno i rwystro mynediad at wefannau cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog ar gyfrifiaduron cyhoeddus; hysbysebu rhad ac am ddim ar gyfer undeb credyd lleol yn y Swansea Evening Post ynghyd â chyfres o erthyglau am gredyd teg.
Mae Serai wedi siarad yn gyhoeddus gerbron cynulleidfaoedd mawr am dlodi, benthyciadau diwrnod cyflog a’u heffaith ar deuluoedd. Gweithiodd gyda Bethan Jenkins AC, i ymgyrchu dros gynnwys addysg am arian yng nghwricwlwm yr ysgolion.
Helpodd Serai i ddatblygu a gweithredu rhaglen fentora â’r nod o helpu merched yn eu harddegau i ddeall yr her o fod yn fam ifanc. Mae Serai yn ddefnyddiwr gwasanaeth Gweithredu dros Blant sydd yn y broses o ymgeisio i fod yn wirfoddolwr Gweithredu dros Blant.