Warren Gatland
Yn enedigol o Hamilton yn Seland Newydd, symudodd Warren Gatland i Gymru i fod yn hyfforddwr y tîm rygbi cenedlaethol, ar ôl hyfforddi timau yn Iwerddon, Lloegr a Seland Newydd.
Cafodd effaith ar unwaith, gan ennill Camp Lawn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2008 yn ystod ei dymor cyntaf wrth y llyw. Arweiniodd dîm Cymru i rowndiau cynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd yn 2011, gyda’i dîm ifanc yn boenus o agos at gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Yna arweiniodd y tîm at Gamp Lawn arall ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012, cyn cael ei benodi’n hyfforddwr tîm y Llewod ar gyfer eu taith i Awstralia yn 2013, gan gymryd cyfnod sabothol o’i waith gyda thîm Cymru.
Dan ei hyfforddiant llwyddodd y Llewod i ennill y gyfres yn Awstralia, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers 1997. Mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys hyfforddwr y flwyddyn yng Nghymru a’r DU.
Cyn dechrau hyfforddi, chwaraeodd 140 o weithiau dros ranbarth Waikato yn Seland Newydd, yn safle’r bachwr. Er iddo chwarae dros Seland Newydd ar 17 achlysur, ni enillodd gap dros ei wlad.