Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwy’n ysgrifennu i ddiweddaru aelodau ar ein cynlluniau ar gyfer Seilwaith Trafnidiaeth yn y Gogledd.
Bydd aelodau’n ymwybodol o’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol, a ddiweddarwyd yn 2017 ac sy’n amlinellu ein rhaglen ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt, ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi dros £600 miliwn mewn gwelliannau i’r seilwaith trafnidiaeth ledled y Gogledd dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd moderneiddio trafnidiaeth yn y Gogledd yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant. Bydd yn darparu’r cyfrwng priodol i gyflawni datblygiad economaidd cynaliadwy, cysylltu pobl, cymunedau a busnes â chyflogaeth, gwasanaethau, cyfleusterau a marchnadoedd trwy seilwaith cadarn, dibynadwy. Bydd hefyd yn cefnogi dull integredig o bontio i gymdeithas carbon is sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.
Un o themâu allweddol Bargen Twf y Gogledd yw gwell cysylltedd, gyda galw am amseroedd teithio byrrach ar y ffyrdd ac ar y rheilffyrdd. Mae prosiectau penodol yn dal i gael eu hystyried ac yn cynnwys cymysgedd o gynigion lleol a rhanbarthol.
Mae gennym weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth yn y Gogledd, ond ni allwn gyflawni’r weledigaeth hon yn annibynnol. Bydd angen i ni gydweithredu ag amryw o asiantaethau o boptu’r ffin i gyflawni system drafnidiaeth sy’n diwallu anghenion pobl yn y rhanbarth a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal, gan alluogi gwell mynediad at gyfleoedd cyflogaeth sy’n bodoli’n barod a’r rhai sydd yn yr arfaeth.
Gall partneriaid o boptu’r ffin gyfrannu at gyflawni’r weledigaeth trwy dargedu eu hadnoddau eu hunain i ddatblygu newid mawr yn y maes.
O ran prosiectau penodol, mae’r rhestr ganlynol yn rhoi manylion y prosiectau ffordd sydd ar y gweill yn y Gogledd:
Cynllun Gwella Coridor Glannau Dyfrdwy yr A494/A55/A548
A487 Ffordd Osgoi Caernarfon i Bontnewydd
Trydedd Bont dros y Fenai
Cynllun Gwella Cyffyrdd 15 – 16 ar yr A55
A55 Abergwyngregyn – Cynllun Gwella Tai’r Meibion
Gwella Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494
Gwella Cyffyrdd 3 – 6 ar yr A483 – Ffordd Osgoi Wrecsam
Gwella’r A5/A483 i’r De o Ffordd Osgoi Wrecsam i’r Ffin â Lloegr
Mae'r lleoliadau canlynol hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o’r £24 miliwn rhaglen pwynt pwyso a chyfleoedd goddiweddyd a chychwynnodd yn 2017:
A483 Ffordd Osgoi Wrecsam
A5/A483 Cylchdro Halton
A55 J20 Bae Colwyn Slipffyrdd Gorllewinol
A55/A470 J19 Cyfnewidfa Glan Conwy a Chylchdro Black Cat
A55 Prosiect Cydnerthedd
A487 Cylchdro Parc Busnes Menai
Mae’r astudiaeth i gydnerthedd coridor yr A55 a’r A494, sy’n adolygu gofynion y llwybr o Gaer i Gaergybi, eisoes wedi cynhyrchu prosiectau atebion cyflym a thymor byr. Mae opsiynau gwella tymor byr, canolig a hir pellach a nodwyd trwy’r astudiaeth yn cael eu datblygu trwy Gam 2 astudiaeth WelTAG ar gyfer arfarniad pellach.
Y llynedd, cyhoeddais fy mwriad i ddatblygu achosion busnes ar gyfer cynlluniau gwella rheilffyrdd yn y Gogledd a’r De. Mae’r Athro Mark Barry wedi arwain datblygiad yr achos dros fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd. Cyhoeddwyd y crynodeb o’r achos dros fuddsoddi yn yr haf, ac mae’n amlinellu gweledigaeth a chyfres o amcanion trosfwaol ar gyfer prif linellau’r Gogledd, a llinell Wrecsam i Lannau Mersi. Y cam cyntaf yn y broses honno yw datblygu’r achosion strategol ac economaidd dros fuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru yn yr ardaloedd hyn, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar y cynnydd rydym wedi’i wneud gyda’r astudiaeth hon. Mae’r gwaith hwn eisoes yn llywio achosion busnes amlinellol strategol y cynlluniau unigol sydd wrthi’n cael eu datblygu gan yr Adran Drafnidiaeth ac rwy’n disgwyl iddynt fframio datblygiad rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol, ymarferol a theg ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu ag aelodau Growth Track 360 a phartneriaid, gan gynnwys Warrington Cheshire East, Network Rail (Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr). Mae’n bwysig bod y berthynas hon yn parhau i gynnal yr aliniad trawsffiniol ar welliannau i reilffyrdd a gwthio am fuddsoddiad mewn seilwaith.
Mae’r gwaith ar gyflenwi Metro Gogledd-ddwyrain Cymru yn mynd yn ei flaen yn dda ac mae ymgysylltu da â phartneriaid allweddol o boptu’r ffin. Bydd Cynllun Glannau Dyfrdwy, Prosbectws Twf Cynghrair Afonydd Mersi a Dyfrdwy a Phrosbectws Rheilffyrdd Cymru a Gorllewin Lloegr i gyd yn helpu i lywio datblygiad pellach gweledigaeth Metro Gogledd-ddwyrain Cymru. Mae datblygiad cynlluniau ar gyfer gorsaf integredig yn Shotton a gorsaf newydd ar gyfer Deeside Parkway yn parhau. Mae cynigion ar gyfer hyb trafnidiaeth integredig yn Wrecsam yn cael eu datblygu fel rhan o astudiaeth ehangach o goridor datblygu Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam. Mae hyn ar ben y £10 miliwn rwyf wedi’i ymrwymo i wella seilwaith rheilffyrdd yn ardal Wrecsam a fydd yn mynd tuag at alluogi mwy o drenau i deithio trwy Wrecsam a’r cyffiniau. Darparwyd cyllid hefyd i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer cynlluniau i wella mynediad i ac o fewn parc Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy gyda ffocws ar fws a theithio llesol, ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer gwelliannau i orsaf fysiau Wrecsam.
Er gwaethaf setliadau cyllideb heriol gan Lywodraeth y DU, rydym wedi cynnal dyraniadau Grant Cymorth Gwasanaethau Bws i awdurdodau lleol ar £25 miliwn y flwyddyn. Mae pob awdurdod lleol yn pennu pa wasanaethau bws a gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol i’w cefnogi gan ddefnyddio BSSG a’i gyllidebau ei hun, yn unol â’i asesiad o flaenoriaethau ac amgylchiadau lleol.
Mae’r opsiynau ar gyfer gwella trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau bws wedi dechrau cael eu hystyried. Mae ffocws arbennig yn cael ei roi ar y posibilrwydd o greu Rhwydwaith Bws Cenedlaethol, gwell integreiddio gwasanaeth a thocyn, gwell swyddogaethau swyddfa gefn, sicrhau fframwaith deddfwriaethol ategol a darparu pecyn ariannu cynhwysfawr a strategol. Mae Papur Gwyn i ddatblygu’r cynigion hyn ymhellach wrthi’n cael ei baratoi.
Rydym hefyd yn cefnogi Awdurdodau Lleol trwy ddarparu gyllid fel y gallant gwblhau prosiectau Trafnidiaeth Leol a Theithio Llesol. Mae manylion y ceisiadau llwyddiannus ar gyfer 2018/19 isod.
Cyllid Trafnidiaeth Leol:
Ynys Môn - £441,008
Conwy - £1,472,366
Sir Ddinbych - £424,464
Sir y Fflint - £1,237,301
Gwynedd - £460,300
Wrecsam - £483,191
Cronfa Teithio Llesol:
Ynys Môn - £0
Conwy - £191,000
Sir Ddinbych - £330,000
Sir y Fflint - £1,767,000
Gwynedd - £0
Wrecsam - £120,000
Rwyf wedi cyhoeddi eisoes fwriad Trafnidiaeth Cymru i sefydlu Uned Fusnes yn Wrecsam, a byddaf yn darparu diweddariad pellach ar gynnydd yn gynnar yn 2019. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio o’n swyddfa yng Nghyffordd Llandudno i helpu Llywodraeth Cymru i gyflenwi’r rhaglen Metro. Maent hefyd yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol yn y rhanbarth fel rhan o’r Adolygiad o Wasanaethau Bws.
Mae yna botensial mawr i sicrhau twf economaidd yn y Gogledd. Mae system drafnidiaeth integredig fodern o safon uchel yn hollbwysig er mwyn cyflawni’r potensial hwnnw ac rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y gwaith hwnnw i sicrhau bod y rhanbarth hwn yn rhan gystadleuol a chysylltiedig o economi’r DU.
Mae mwy o wybodaeth am ddiweddariad 2007 o’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol ar gael ar ein gwefan yn: