Leigh Halfpenny
Roedd 2013 yn flwyddyn ardderchog i Leigh Halfpenny. Yn sgil ei berfformiad ar y cae rygbi yn ystod y flwyddyn dros dimau Gleision Caerdydd, Cymru a’r Llewod cafodd nifer o wobrau a chlod.
Yn wreiddiol o Orseinon, chwaraeodd am y tro cyntaf dros Leision Caerdydd pan oedd yn 19 oed ym mis Mai 2008, ac enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn hydref y flwyddyn honno. Ers hynny mae wedi datblygu i fod yn aelod allweddol o dîm Cymru, yn chwarae ar yr asgell ac fel cefnwr, ei hoff safle.
Mae’n chwaraewr poblogaidd gyda’r cefnogwyr sy’n edmygu ei arddull brwdfrydig, eofn wrth amddiffyn, ei gyflymder wrth ymosod a’i giciau cywir tuag at y pyst. Mae wedi ennill 48 cap dros Gymru, ac wedi sgorio 344 o bwyntiau dros ei wlad, gan gynnwys 12 cais.
Chwaraeodd ran allweddol yng Nhamp Lawn Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012, ac roedd ei ddawn yn cicio dros y pyst yn hanfodol ar gyfer llwyddiant Cymru unwaith eto yn 2013. Pleidleisiodd y cyhoedd drosto fel chwaraewr gorau’r bencampwriaeth. Cafodd ei ddewis ar gyfer taith haf y Llewod i Awstralia, lle chwaraeodd bob un o’r tair gêm brawf, gan sgorio 49 pwynt yn y gemau hynny. Cafodd ei enwi fel chwaraewr gorau’r gyfres, ac yn ddiweddarach cyfrannodd y wobr ariannol honno i elusen.
Ef oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 2013 ac fe ddaeth yn ail yn fersiwn y DU o’r gystadleuaeth honno.