Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 12 Gorffennaf 2011, gwnaed datganiad gan y Prif Weinidog ynghylch Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Yn y datganiad hwnnw cyhoeddodd y byddai Bil Addysg yn 2012.
Heddiw [10 Hydref 2011] yr wyf yn cyhoeddi Papur Gwyn yn gofyn am sylwadau ynghylch y cynigion ar gyfer Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru). Yr wyf yn cynnig bod y Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer y meysydd canlynol:
- Ymyrryd mewn ysgolion sy'n achosi pryder;
- Canllawiau ar Wella Ysgolion;
- Trefniadaeth ysgolion;
- Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
- Cyfarfodydd Blynyddol â'r Rhieni;
- Dysgwyr ôl-16 ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mewn ysgolion;
- Brecwast am ddim mewn ysgolion;
- Cwnsela mewn ysgolion;
- Codi taliadau hyblyg am brydau ysgol.
Dyma newidiadau pwysig sy'n rhan o'r pecyn o ddiwygiadau yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno ym maes addysg yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 5 Ionawr 2012, a byddaf yn cymryd yr ymatebion i ystyriaeth wrth baratoi'r ddeddfwriaeth. Yr wyf yn gobeithio cyflwyno'r Bil i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod gwanwyn 2012.