Carwyn Jones, y Prif Weinidog, ac Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog
Yn dilyn y cyhoeddiad gan y Prif Swyddog Cyfrif fod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid y cynnig a gyflwynwyd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, hoffem longyfarch ein cyfeillion yn y Cynulliad a diolch i chi am eich cyfraniad i'r digwyddiad gwirioneddol hanesyddol hwn. Rydym yn croesawu'r canlyniad hwn yn fawr ac yn edrych ymlaen at weld y Cynulliad yn arfer pwerau deddfu a neilltuwyd i Gymru.
Yn unol ag adran 105 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, bydd Gweinidogion Cymru yn paratoi ac yn gosod gerbron y Cynulliad Orchymyn Cychwyn, a fydd yn dod â darpariaethau Deddfau'r Cynulliad i rym. Bydd rhaid i Orchymyn drafft gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad cyn iddo gael ei wneud. Os caiff y Gorchymyn ei gymeradwyo ar ffurf drafft, a'i wneud, bydd darpariaethau Deddfau'r Cynulliad yn dod i rym ar 5 Mai, gan olygu y bydd hi'n bosibl cynnig Deddfau Arfaethedig o dan y pwerau newydd o ddechrau'r Cynulliad newydd.
Bydd Deddfau Arfaethedig y Cynulliad yn galw am ofynion statudol ychwanegol: Sêl Gymreig a Breinlythyrau. Mae'r rhain yn ofynnol er mwyn gallu dynodi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Arfaethedig y Cynulliad. Bydd fersiwn ddwyieithog ar y Gorchymyn Breinlythyrau yn y Cyfrin Gyngor yn cael ei gyflwyno i'r Cyfrin Gyngor gyda hyn. Bydd y Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffurf Breinlythyrau, a'r modd y cânt eu paratoi a'u cyhoeddi, sydd i'w llofnodi i ddynodi Cydsyniad Ei Mawrhydi i Ddeddf Arfaethedig a basiwyd gan y Cynulliad. Rhaid i'r Breinlythyrau hyn gael eu pasio hefyd o dan y Sêl Gymreig, ac eir ati maes o law i ddatblygu'r Sêl Gymreig gyntaf ers dyddiau Owain Glyndŵr.
Bydd datganiad mwy cynhwysfawr yn cael ei wneud yn y Cynulliad yr wythnos nesaf.