Bryn Terfel CBE
Gwobr Rhyngwladol enillydd 2014
Mae Bryn Terfel Jones CBE yn ganwr fas- bariton opera a chyngerdd Cymreig gyda bri byd-eang.
Yn frodor o Bant Glas yng Ngwynedd, dangosodd Bryn bod ganddo ddawn am gerddoriaeth o oedran ifanc iawn. Wedi ennill nifer o gystadlaethau, symudodd i Lundain yn 1984 i Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall i astudio o dan Rudolf Piernay. Graddiodd yn 1989, gan ennill Gwobr Goffa Kathleen Ferrier a'r Fedal Aur. Yn yr un flwyddyn daeth yn ail yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC. Ymddangosodd yn ei rôl operatig cyntaf yn 1990 fel Guglielmo yn Così fan tutte yn Opera Cenedlaethol Cymru, a chanodd y rôl deitl ym Mhriodas Ffigaro gydag Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1991. Dechreuodd ei yrfa operatig ryngwladol yr un flwyddyn gan ganu rôl y Llefarydd yn Die Zauberflöte Mozart ar lwyfan Théâtre de la Monnaie ym Mrwsel. Mae wedi perfformio ers hynny mewn rolau pwysig ym mron pob lleoliad operatig blaenllaw yn y byd, gan ennill clod arbennig am ei ddehongliadau o waith Wagner - yn 2013 rannodd Wobr Grammy am y "Recordiad Opera Gorau" ar gyfer recordiad Opera Fetropolitanaidd Efrog Newydd o Der Ring Des Nibelungen.
Mae Bryn yn gefnogwr brwd o'r Gymraeg a diwylliant Cymreig, ac yn aelod o'r Orsedd. Sefydlodd G?yl y Faenol (2000-2009), g?yl gerddoriaeth flynyddol yn cynnwys cantorion opera enwog yn rhyngwladol yn ogystal ag artistiaid poblogaidd Cymraeg. Sefydlodd Sefydliad Bryn Terfel yn 2008 er hybu'r celfyddydau yng Nghymru - mae'r Sefydliad yn gweithio ochr yn ochr ag Opera Cenedlaethol Cymru a Chanwr y Byd er mwyn helpu cantorion sydd newydd raddio wrthynt iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd. Mae e'n Lywydd Shelter Cymru a Noddwr Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru, sy'n darparu therapi arbenigol i blant â pharlys yr ymennydd.