Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Hoffwn rannu gydag Aelodau wybodaeth am aelodaeth y panel dethol a fydd yn gyfrifol am gyfweld ag ymgeiswyr a gwneud argymhellion i’r Prif Weinidog parthed penodiad Comisiynydd y Gymraeg.
Cymeradwywyd Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 (“y rheoliadau”) gan y Cynulliad ar 28 Mehefin a daethant i rym y diwrnod wedyn. Mae’r rheoliadau yn darparu y dylai’r panel dethol gynnwys: Aelod Cynulliad wedi’i enwebu gan Bwyllgor perthnasol o’r Cynulliad; aelod o staff Llywodraeth y Cynulliad; asesydd annibynnol a pherson gyda phrofiad o hybu’r defnydd o’r Gymraeg a/neu iaith arall.
Gofynnodd y Prif Weinidog i mi gynnull panel dethol a oedd yn seiliedig ar y darpariaethau yn y rheoliadau ac rwyf erbyn hyn mewn sefyllfa i gyhoeddi enwau’r unigolion a fydd yn aelodau o’r panel dethol. Caiff y panel ei gadeirio gan Dr. Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Adran Addysg a Sgiliau a chafodd Rhodri Glyn Thomas AC ei enwebu gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Rwy’n falch bod Syr Roderick Evans wedi cytuno i ymuno â’r panel fel rhywun sydd â phrofiad o hybu’r defnydd o’r Gymraeg, yn enwedig o fewn y system gyfreithiol. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Mrs Elspeth Mitcheson sydd wedi cytuno i fod ar y panel fel asesydd annibynnol sydd wedi’i hachredu gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Gallaf hefyd gadarnhau y bydd rôl Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei hysbysebu yr wythnos hon ac mai 15 Awst fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Bydd hysbysebion yn ymddangos yn y Western Mail, Golwg, Y Cymor, Daily Post; arlein yn Jobs Wales a Golwg 360 ac ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu hysbysebu’r rôl holl-bwysig hon yn gynnar ac edrychaf mlaen at glywed beth fydd penderfyniad y Prif Weinidog o ran yr ymgeisydd llwyddiannus yn yr hydref.