Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Mae’r trafod a fu yn ddiweddar am Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon am ddyfodol ein swyddfeydd ledled Cymru.
Rwy’n awyddus i esbonio’r sefyllfa a chadarnhau bod Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i gadw swyddi yng Nghaernarfon, Caerfyrddin, y Drenewydd a Llandrindod. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, staff a’r Undebau Llafur i sicrhau y caiff yr ymrwymiad hwn ei gyflawni yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol ac effeithlon.
Lle bo hynny’n briodol rydym yn ystyried cyfleoedd i leoli staff gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, a byddwn yn gweithio gyda staff i’w hannog i wneud y defnydd gorau o’n polisïau gweithio’n hyblyg, megis desgiau poeth, gweithio o gartref a defnyddio adeiladau eraill Llywodraeth Cymru.
Trwy sicrhau bod gennym wasanaethau mewn sawl rhan o Gymru gallwn barhau i fod o fewn cyrraedd. Rydym yn cyfrannu’n uniongyrchol at yr economi leol ac rydym yn cynnig cyfleoedd da i gael gwaith. Priodol felly fyddai inni adolygu ein hanghenion o ran ein hystadau yn rheolaidd i sicrhau bod gennym yr adeiladau gorau posibl i gefnogi ein hamcanion ehangach.
Caiff y papur ar y Strategaeth Leoli ei ystyried gan y Cabinet ar 26 Gorffennaf. Wedi cytuno ar y papur byddwn yn bwrw ymlaen i ymgynghori gyda staff a’r Undebau Llafur ynghylch y cyfleoedd yn y safleoedd allweddol hyn.