Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha
Heddiw, rwy’n agor yr ymgynghoriad ar Gynllun y Sector Gweithgynhyrchu, Gweini a Manwerthu Bwyd i fynd i’r afael â Gwastraff. Hwn fydd y trydydd cynllun mewn cyfres o gynlluniau sy’n egluro beth yn union y bydd Cymru yn ei wneud fel cenedl i wireddu ein huchelgais i ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff erbyn 2025, a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi’r diweddaraf i chi am y cynnydd anhygoel yr ydym wedi ei wneud, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o ran y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â’n gwastraff.
Daw’r cynnydd hwnnw i’r amlwg yn y twf a fu yn ein cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol. Yn 2000-01, roedd Cymru yn ailgylchu 7 y cant o’i gwastraff trefol. Yn ôl ein ffigurau diweddaraf, roedd y gyfradd ailgylchu yn 45 y cant ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2010. Mae cyfanswm yr holl wastraff yr ydym yn ei gynhyrchu yn parhau i ostwng hefyd.
Yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2010, roedd 3 awdurdod lleol yng Nghymru yn ailgylchu 52 y cant o’u gwastraff trefol. Os bydd yr awdurdodau hynny yn parhau i berfformio cystal bob blwyddyn, maen nhw eisoes ar y trywydd iawn i fodloni eu targed statudol ar gyfer 2012-2013, neu hyd yn oed ragori ar y targed hwnnw. Bu cynnydd mawr yng nghyfraddau ailgylchu llawer o awdurdodau lleol hefyd, a hynny yn sgil mabwysiadu gwasanaethau ailgylchu newydd. Bu’r cynnydd mwyaf nodedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef cynnydd o 18 o bwyntiau canrannol ar y ffigur ar gyfer yr un adeg y flwyddyn flaenorol.
Er bod y ffigurau hynny yn drawiadol, mae llawer o waith o’n blaenau eto cyn cyrraedd y targed o ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff erbyn 2025. Dyna pam Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno targedau statudol ar gyfer ailgylchu gwastraff trefol. Roedd y ddeddfwriaeth hon yn rhan o Fesur Gwastraff (Cymru), a gafodd ei basio gan y Cynulliad ym mis Tachwedd 2010. Hwn oedd y Mesur cyntaf i gael ei basio o dan Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) yr Amgylchedd.
Rydym eisoes wedi cael llwyddiant drwy ddefnyddio targedau statudol i wyro gwastraff oddi wrth safleoedd tirlenwi. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu Cynllun Lwfansau Tirlenwi i wyro gwastraff sy’n pydru’n naturiol, gan gynnwys gwastraff bwyd, oddi wrth safleoedd tirlenwi. Ers i’r cynllun hwn gael ei lansio ym mis Hydref 2004, mae pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bodloni pob targed; nid oes unrhyw un ohonynt wedi cael eu dirwyo.
Mae’r Cynllun Sector Trefol, ynghyd â’r Glasbrint ar gyfer Casgliadau sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwnnw, yn nodi manylion yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddisgwyl gan awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Mae’n manylu hefyd ar yr hyn y bydd y llywodraeth yn ei wneud i’w cynorthwyo. Mae rhaglen rheoli newid, a fydd yn helpu awdurdodau lleol i fabwysiadu’r gwasanaethau ailgylchu mwyaf cynaliadwy a chosteffeithiol, ac a fydd hefyd yn cynhyrchu’r deunydd eildro (neu’r cynnyrch terfynol) o’r ansawdd uchaf, yn ganolog i’n cynlluniau.
Mae hyn yn bwysig oherwydd, gan ddibynnu ar ansawdd deunydd eildro, gallai fod yn bosibl ei brosesu yma yng Nghymru, ac osgoi gorfod ei anfon dramor. Ar 10 Mawrth, wrth lansio ymgynghoriad y Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd, cyfarfûm ag Andrew Izod, Rheolwr Gyfarwyddwr Excel Industries yn Rhymni. Dywedodd Andrew wrth gynghorwyr fod ei fusnes, er mwyn cynhyrchu ei brif gynnyrch, sef deunydd i inswleiddio atig, yn ddibynnol ar lif cyson o bapur newydd wedi’i ailgylchu o ansawdd uchel. Yn ddelfrydol, hoffai gael yr holl ddeunydd crai o Gymru. Fodd bynnag, nid yw hynny’n bosibl oherwydd bod y deunydd eildro o ansawdd isel, a hynny oherwydd bod y papur yn cael ei gasglu ar y cyd â deunyddiau eraill sy’n cael eu hailgylchu. Felly, rhaid iddo brynu’r deunydd crai dramor, ac mae hynny’n golygu bod ei fusnes yn wynebu mwy o gost. Er mwyn ei helpu, rhaid sicrhau bod papur newydd yn cael ei gadw ar wahân, ac yn cael ei gasglu ar wahân gan yr Awdurdod Lleol.
Nid yw hon yn sefyllfa unigryw. Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd Llywodraeth y Cynulliad rybudd gan weithgynhyrchwr strapiau plastig fod cost mewnforio naddion plastig wedi’u hailgylchu o dramor yn cael effaith andwyol ar ei fusnes. Ar y pryd, roedd y rhan fwyaf o’r poteli plastig a allai fod wedi cael eu defnyddio i greu deunydd crai ar gyfer y cwmni hwn yng Nghymru naill ai’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi, neu’n cael eu hallforio i Tsieina. Darparodd fy Adran i arian o’r Gronfa Mynediad i Cyfalaf Ranbarthol i sefydlu cyfleuster newydd ar gyfer didoli plastigau. Mae’r cyfleuster hwn yn cadw plastigau yma yng Nghymru er mwyn i ddiwydiannau allu eu defnyddio fel deunydd crai, a bydd hefyd yn creu swyddi newydd yn un o gymunedau’r Cymoedd.
Mae’r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd yn nodi’r cynigion ar gyfer datblygu ymhellach farchnad ar gyfer deunyddiau eildro yma yng Nghymru. Bydd hynny’n caniatáu i ni arwain y ffordd yn fyd-eang o ran y diwydiant rheoli adnoddau. Bydd bodloni holl dargedau’r cynllun yn gyfrifol am arbedion gwerth £88 miliwn bob blwyddyn erbyn 2025.
Heddiw, byddaf yn ymweld â’r cyfleuster treulio anaerobig newydd yn ffatri fwyd RF Brookes, ger Casnewydd, i gyhoeddi’r ymgynghoriad ar Gynllun y Sector Gweithgynhyrchu, Gweini a Manwerthu Bwyd. Mae treulio anaerobig, sef y dull mwyaf cynaliadwy o reoli gwastraff bwyd, yn rhan bwysig o’n strategaeth gwastraff, a’r nod yw gwneud defnydd llawn ohono erbyn 2013.
Eisoes, Cymru yw’r unig wlad yn y DU â phob un o’i chynghorau yn casglu bwyd neu fwyd a gwastraff gwyrdd ar wahân. Rhwng 2009 a 2011, cafodd £34 miliwn ei roi gennym i ymestyn y gwasanaeth hwn. Erbyn hyn, mae o leiaf 80 y cant o gartrefi yn manteisio ar y gwasanaeth hwn, a’r nod yw cynnig y gwasanaeth hwn i bawb. Mae casglu gwastraff bwyd ar wahân yn golygu bod modd ei wyro oddi wrth safleoedd tirlenwi. Mae gwastraff o’r fath yn pydru mewn safleoedd tirlenwi, ac yn cynhyrchu methan, sef un o’r nwyon tŷ gwydr, sydd 23 gwaith yn gryfach na charbon deuocsid. Yn hytrach na’i anfon i safleoedd tirlenwi, rydym am anfon gwastraff bwyd i safleoedd treulio anaerobig, sy’n cynhyrchu tanwydd adnewyddadwy a gwrtaith gwerthfawr. Rydym wedi sefydlu rhaglen helaeth i gefnogi’r gwaith o sefydlu safleoedd treulio anaerobig newydd yng Nghymru. Mae casglu bwyd ar wahân hefyd yn helpu deiliaid cartrefi i weld faint o wastraff bwyd y maen nhw’n ei gynhyrchu, fel bod modd iddynt gymryd camau i newid hynny. Mae teulu cyffredin yn gwastraffu £12 yr wythnos drwy daflu bwyd, sydd mewn cyflwr digon da i’w fwyta, i’r bin.
Fodd bynnag, mae’n bwysig nad cyfrifoldeb deiliaid cartrefi yn unig yw’r baich o leihau gwastraff bwyd a phecynnu. Ar y cyd, mae’r Sectorau Gweithgynhyrchu, Gweini a Manwerthu Bwyd yn gyfrifol am 40 y cant o’n gwastraff diwydiannol a masnachol. At hynny, gwastraff bwyd sydd â’r ôl-troed ecolegol mwyaf; ac mae’n gyfrifol am 30 y cant o ôl-troed ecolegol ein gwastraff diwydiannol a masnachol yn gyffredinol. Mae’r Sectorau Gweithgynhyrchu, Gweini a Manwerthu Bwyd, yn cynnig lleihau gwastraff o 1.2 y cant bob blwyddyn. Mae’n canolbwyntio hefyd ar y deunyddiau sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd, neu’r rhai mwyaf hawdd eu hailgylchu; sef bwyd, papur a chardfwrdd, plastig, gwydr, metel a phren. Y nod yw ailgylchu gwastraff sych fel gwydr, papur a chardfwrdd a phlastigau, a thrin gwastraff bwyd drwy broses treulio anaerobig.
Ynghyd â Tuag at Ddyfodol Diwastraff, y cynllun gwastraff eang ei gwmpas i Gymru, mae’r cynlluniau sector yn cynnig cyfarwyddiadau clir ar gyfer bodloni’r targed o ailgylchu 70 y cant o wastraff erbyn 2025, a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Mae’r rhain yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a gafodd eu gosod gan Yn Gall Gyda Gwastraff, cynllun cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â gwastraff, ac maent yn seiliedig ar dystiolaeth.
Gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yw’r allwedd i’n llwyddiant. Dyma pam yr ydym o blaid casglu gwastraff sydd wedi’i ddidoli ar gyfer ei ailgylchu ar garreg y drws. Dyma pam hefyd yr ydym o’r farn ei bod hi’n well casglu gwastraff bwyd ac ailgylchu yn wythnosol a chasglu gwastraff sydd dros ben (neu wastraff ‘bagiau du’) bob pythefnos. Yn bwysicach oll, dyna pam yr ydym yn cydnabod nad ydym yn gwneud digon drwy ailgylchu, hyd yn oed ar lefelau uchel, os na ydym hefyd yn lleihau’r gwastraff yr ydym yn ei gynhyrchu yn gyffredinol.
Rydym yn un o dair gwlad yn unig ledled y byd sydd â dyletswydd statudol i fod yn gynaliadwy, felly mae’r ffordd rydym yn mynd i’r afael â’n gwastraff yn adrodd cyfrolau. Rwy’n falch o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud o ran rheoli gwastraff cynaliadwy. Rwy’n falch hefyd fod ein penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail yr hyn sydd orau i Gymru. Yn fwy na dim, rwy’n falch bod Cymru yn arwain y ffordd, gan gynnig enghraifft o reoli gwastraff cynaliadwy ar waith.