Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Rwyf am i Aelodau gael gwybod y diweddaraf am hynt fy ymholiadau i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC) a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) ar faterion sy’n ymwneud â gweithgareddau tramor Prifysgol Cymru.
Mae Cadeirydd CCAUC wedi ysgrifennu ataf i ddweud bod CCAUC wrthi’n cymryd camau i sicrhau bod Prifysgol Cymru’n cael dod yn rhan o brosesau archwilio a sicrhau ansawdd y Cyngor. Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, mae’n hynod bwysig sicrhau bod ansawdd Addysg Uwch yng Nghymru o safon rhagoriaeth – ac mae hynny’n cynnwys Prifysgol Cymru. Bydd ei hymgorffori o fewn prosesau CCAUC yn gam pwysig yn hynny o beth.
Mae Prif Weithredwr y QAA wedi ysgrifennu i ymateb i nifer o ymholiadau gennyf ynghylch trefn arolygu QAA – yn enwedig sut y mae’n gwerthuso darpariaeth Prifysgol Cymru. Da gennyf weld felly bod y QAA wedi cynhyrchu canllawiau newydd i Brifysgolion Prydain ar gyfer cynnal partneriaethau tramor. Dywedodd Mr McClaren wrthyf hefyd bod y QAA wrthi’n ailystyried cwmpas a methodoleg gwaith arolygu’r QAA, hynny o ganlyniad i broblemau diweddar gyda phartneriaethau tramor Prifysgol Cymru. Byddaf yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau.
Mae rôl Prifysgol Cymru, heddiw ac yn y dyfodol, ac ansawdd ei darpariaeth yn faterion pwysig. Rwyf yn awr yn aros am ymateb pellach gan CCAUC ynghylch ei ymchwiliadau ym mis Ionawr i waith dilysu tramor y Brifysgol ac ar adroddiad John McCormick ym mis Chwefror ar rôl y Brifysgol yn y dyfodol, fel rhan o’r Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch. Bydd aelodau’n cael eu hysbysu am unrhyw ddatblygiadau.