Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae hanes hir a disglair i Brifysgol Cymru, ac fel sefydliad mae wedi helpu i greu a diffinio’r Gymru fodern. Graddau Prifysgol Cymru sydd gan nifer o Aelodau’r Cynulliad a miloedd o bobl ym mhob cwr o’r byd ac mae hynny’n destun balchder iddynt.
Yn y blynyddoedd diwethaf, gwaetha’r modd, mae enw da’r Brifysgol a fu unwaith yn uchel ei pharch wedi profi sawl ergyd. Cafodd Prifysgol Cymru ei beirniadu dro ar ôl tro, a hynny dros gyfnod o flynyddoedd bellach, am fethiannau niferus o ran y modd y caiff y sefydliad ei lywodraethu. Mewn datganiadau blaenorol gennyf, dyddiedig 21 Mawrth a 21 Mehefin 2011, rhoddais wybod i’r Aelodau am y pryderon parhaus a difrifol ynghylch trefniadau dilysu allanol y Brifysgol yn ogystal â’i ffordd o reoli ei mentrau cydweithredol. Rydw i wedi galw lawer gwaith ar Gorff Llywodraethu’r Brifysgol i gymryd cyfrifoldeb am y methiannau hyn a chymryd camau ar frys lle bo’n ofynnol.
Yr wythnos diwethaf, gwelsom Brifysgol Cymru yn wynebu beirniadaeth lem unwaith yn rhagor yn sgil honiadau difrifol ynghylch rhai sefydliadau y caiff eu cymwysterau eu dilysu gan y Brifysgol. Bydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn cyhoeddi datganiad arall ynghych cynllun Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS) maes o law.
Fel yr atgoffais y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mehefin, dadleuodd Adroddiad diweddar McCormick fod angen dulliau llywodraethu da yn genedlaethol ac yn sefydliadol i sicrhau bod system addysg uwch Cymru yn medru cystadlu â sefydliadau o bob rhan o’r byd, ei bod yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth a’i bod yn ymateb i anghenion dysgwyr - anghenion sy’n newid yn gyson. Dywedodd McCormick hyn am Brifysgol Cymru am ei bod yn derbyn cyn lleied o arian cyhoeddus, “… hi yw’r peth tebycaf sydd gan Gymru i sefydliad preifat ym maes addysg uwch. Er hynny, mae’n sefydliad sy’n gwneud defnydd o ased cenedlaethol – brand Cymru gyfan – ac eto nid oes ganddi unrhyw atebolrwydd cenedlaethol”.
Y casgliad y daeth McCormick iddo yn y pen draw yw na allai Prifysgol Cymru barhau ar ei ffurf bresennol ac y dylai naill ai gael ei diwygio’n sylweddol neu gael ei dirwyn i ben.
Yr wythnos diwethaf, dechreuodd yr Is-Ganghellor newydd yn ei swydd o fewn Prifysgol Cymru a dymunaf bob llwyddiant i’r Athro Medwin Hughes yn ei swyddogaeth newydd.
Mae’r cyhoeddusrwydd andwyol parhaus ynghylch Prifysgol Cymru, fodd bynnag, yn niweidiol nid yn unig i’r sefydliad ond i’r sector addysg uwch yng Nghymru ac i Gymru gyfan.
Yn sgil yr honiadau pellach a wnaed yn y wasg yr wythnos diwethaf, credaf nad oes modd i Brifysgol Cymru barhau o dan ei harweinyddiaeth bresennol. Dylem o leiaf fedru disgwyl i’r rhai sydd mewn swyddi uchel o lywodraethu yn ein sefydliadau addysg uwch oruchwylio’n effeithiol weithrediad eu prifysgolion a chymryd cyfrifoldeb llawn am yr hyn sydd yn eu gofal.
Galwaf felly ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei sefyllfa er lles y sefydliad ac er lles Cymru. Nid ar chwarae bach rydw i’n dweud hyn, ond ni allwn gael cyfres o achosion o gamreoli yn tanseilio’r sector addysg uwch cyfan yng Nghymru.