Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn dalu teyrnged i Syr Ronald Waterhouse a fu farw yn gynharach y mis hwn. Pob cydymdeimlad i'w deulu ar yr adeg anodd hon.
Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cofio Syr Ronald yn cael ei benodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1996 i gadeirio Tribiwnlys Ymchwiliad Cam-drin Plant Gogledd Cymru. Wrth edrych ar y dystiolaeth o achosion o gam-drin plant mewn gofal ar draws cyn-siroedd Clwyd a Gwynedd ers 1974, gwrandawodd y Tribiwnlys ar dystiolaeth gan 575 o dystion rhwng mis Chwefror 1997 a mis Mawrth 1998.
Cyhoeddwyd adroddiad y Tribiwnlys "Ar Goll mewn Gofal" ym mis Chwefror 2000 a wnaeth 72 o argymhellion sydd wedi bod yn sylfaen ar gyfer gwella gwasanaethau plant yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Roedd adroddiad Syr Ronald yn chwyldroadol. Fe sbardunodd y broses o weddnewid gwasanaethau plant sy'n derbyn gofal drwy:
- greu swydd y Comisiynydd Plant
- y Rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf
- rheoleiddio lleoliadau gofal a'r gweithlu fel y'i nodir yn Neddf Safonau Gofal 2000
- amddiffyn plant yn helaethach a chryfhau eu llais drwy drefniadau eiriolaeth a chwythu'r chwiban.
Aeth Syr Ronald ati'n ddi-baid i hyrwyddo agenda lles plant sy'n derbyn gofal drwy fod yn noddwr i Voices from Care. Fis Rhagfyr diwethaf, ynghyd â Voices, nododd Syr Ronald fod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi 'Ar Goll mewn Gofal' er mwyn dathlu'r cynnydd a wnaed yng Nghymru, ond hefyd nodi na ddylai trasiedïau'r gorffennol ddigwydd byth eto.
Cynhelir gwasanaeth coffa cyhoeddus yn Llundain ym mis Mehefin.