Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Gorffennaf 2010, lansiais yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, rhaglen un flwyddyn i ddatblygu a gweithredu cynllun er mwyn symud adnoddau addysg cefn swyddfa i wasanaethau rheng flaen. Yr Adolygiad hwn oedd fy ymateb i'r adroddiad a gomisiynais gan PwC ar gost gweinyddu'r system addysg yng Nghymru. Casgliad yr adroddiad oedd bod 32% o arian cyhoeddus addysg wedi'i wario ar wasanaethau strategol a chymorth yn 2008-2009. Awgrymwyd yn adroddiad PwC y gellid symud cyfran fawr o'r adnodd hwnnw i wasanaethau rheng flaen, a nodwyd deg damcaniaeth o ran sut y gellid gwneud hyn. Nod yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen oedd troi'r damcaniaethau hynny yn gamau gweithredu, drwy nodi lle y byddai’n gwneud gwahaniaeth ar unwaith a datblygu camau gweithredu tymor hir a chanolig i'w cyflwyno’n gyffredinol ar draws pob sector addysg.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad un flwyddyn yn ddiweddarach, sy'n nodi diwedd y rhaglen honno. Mae'r adroddiad yn nodi'r hyn sydd wedi'i wneud a'r camau nesaf. Bydd cynllun cyflawni yn cael ei weithredu yn awr drwy gynlluniau busnes craidd fy Adran a rhanddeiliaid eraill.
Ochr yn ochr â'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, comisiynais hefyd grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i archwilio strwythur gwasanaethau addysg yng Nghymru, ac eithrio addysg uwch. Cyhoeddwyd ei adroddiad ar 29 Mawrth 2011. Mae hwn yn gyfraniad pwysig yn yr ymdrech i symud adnoddau i reng flaen addysg. Ond mae'n fwy na hynny. Mae'n edrych ar y system gyfan yn y tymor hir. Prif amcan y grŵp adolygu oedd sicrhau bod y system addysg yn cael ei strwythuro mewn ffordd a fydd yn sicrhau bod cyrhaeddiad dysgwyr yn parhau i wella ledled Cymru.
Erbyn hyn, rwyf wedi cyhoeddi ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion yn yr adroddiad hwnnw. Fel y dywedais yn y cyfarfod llawn ddoe, rwy'n eu derbyn nhw i gyd. Lle mae angen i'm Hadran i weithredu argymhellion, byddwn yn gwneud hynny fel rhan o'n busnes craidd, ochr yn ochr â'r ffocws ar y rheng flaen ac fel rhan o’r ffocws hwnnw. Bydd angen ystyried manylion gweithredu rhai o'r argymhellion ymhellach. Byddaf yn gwneud rhagor o ddatganiadau ar rai o'r argymhellion maes o law. Yn achos yr argymhellion y mae angen i eraill, yn bennaf, eu gweithredu, byddwn yn annog, yn cefnogi a, lle bo angen, yn herio pobl.