Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw, cyhoeddais Gyllideb Atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-12.
Prif bwrpas y Gyllideb Atodol hon yw alinio strwythurau cyllidebol 2011-12 â’r newidiadau ym mhortffolios a chyfrifoldebau’r Gweinidogion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai. Mae hefyd yn amlinellu nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.