Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 1 Gorffennaf fe roddais ddiweddariad i’r Aelodau ar sefyllfa ariannol y darparwr gofal preswyl, Southern Cross. Rwy’n dymuno rhoi diweddariad pellach yn awr.
Ddoe fe wnaeth Southern Cross gyhoeddiad i’r Gyfnewidfa Stoc er mwyn rhoi diweddariad ar y broses o ailstrwythuro’r cwmni. Wedi hynny, cyhoeddodd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol fod ei gyfranddaliadau wedi’u hatal dros dro. Er nad yw manylion yr ailstrwythuro hwn wedi’u cwblhau eto, mae’r cwmni wedi cadarnhau bod ei holl landlordiaid wedi cyhoeddi eu bwriad i adael Southern Cross a, lle nad oeddent hwy eu hunain eisoes yn ddarparwyr cartrefi gofal, i ganfod gweithredwyr newydd ar gyfer eu cartrefi. Caiff hyn ei wneud dros y pedwar mis nesaf mewn modd trefnus, wedi’i gynllunio ac ar sail consensws, gan gynnal yr holl daliadau i’r credydwyr a throsglwyddo holl staff y cartrefi gofal gyda’u hamodau gwasanaeth cyfredol. Nid yw Southern Cross yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac ni fydd yn cau unrhyw gartrefi yn ystod y cyfnod trosiannol. Y bwriad yw trosglwyddo’r cartrefi i’r landlordiaid a’r gweithredwyr newydd mewn modd trefnus.
Yn y trafodaethau y mae fy swyddogion wedi’u cael gyda chynrychiolwyr Southern Cross mae’r cwmni wedi ailddatgan ei addewid y bydd unrhyw newid i’w drefniadau presennol yn cael ei gyflwyno mewn modd sy’n sicrhau parhad ac ansawdd y gofal ar gyfer ei breswylwyr. Mae Southern Cross yn ysgrifennu at ei holl staff a’r awdurdodau lleol perthnasol gyda manylion y cyhoeddiad hwn.
Rwy’n sylweddoli bod hyn yn siŵr o beri gofid i breswylwyr, eu teuluoedd a staff Southern Cross. Mae’r trefniadau sy’n ymwneud ag ailstrwythuro’r cwmni yn parhau i ddatblygu wrth iddo ef a’i bartneriaid busnes gytuno ar y ffordd orau ymlaen. Rwy’n croesawu’r adroddiad cynnydd gan y cwmni ond mater iddynt hwy yw hyn, nid Llywodraeth Cymru.
Hoffwn ailddatgan mai’r hyn sydd bwysicaf i mi yw bod y cwmni, neu unrhyw ddarparwr newydd, yn cwrdd â’i ymrwymiadau i barhau i ddarparu gofal o safon uchel i breswylwyr, a chyflogi staff. Byddwn yn parhau i gael trafodaethau cyson â’r cwmni ar ei gynlluniau ailstrwythuro a’u heffaith yng Nghymru. Byddwn hefyd yn parhau i drafod gydag awdurdodau lleol a’r GIG y cynlluniau wrth gefn sydd ganddynt i’w defnyddio pe na bai’r broses ailstrwythuro hon yn llwyddo. Bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, fel y rheoleiddiwr, yn parhau i asesu a yw Southern Cross yn cwrdd â’i gyfrifoldebau i gynnal safon y gofal yn ei gartrefi ac, fel rhan o’i phroses gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, yn asesu priodoldeb darparwyr gofal amgen. Mae Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 yn rhoi’r grym i awdurdodau lleol ymyrryd a darparu gwasanaethau gofal i unrhyw un sydd ag angen brys.