Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Heddiw (29 Medi 2011), rwy’n gwneud cyhoeddiad sy’n rhoi rhagor o fanylion am ein Hadolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed yng Nghymru.
Ar 14 Chwefror, cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ei fod yn agor trafodaeth ar y cymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru. Un o’n haddewidion maniffesto oedd y byddem yn symleiddio’r system gymwysterau.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod gennym gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed sy'n bodloni anghenion Cymru, ac sy'n cael eu deall a'u gwerthfawrogi. Rydym am weld ein pobl ifanc yn mynd ar ôl y cymwysterau a’r rhaglenni dysgu sy’n eu gwasanaethu nhw orau, yn ogystal ag economi Cymru.
Bydd yr adolygiad yn cyfrannu at y weledigaeth hon drwy weithio gyda phartneriaid i adnabod y cymwysterau mwyaf perthnasol ac i wneud argymhellion ynglŷn â sut gallwn sicrhau bod y cymwysterau hyn:
- ar gael i ddysgwyr;
- yn ddealladwy a bod pobl yn ymddiried ynddynt;
- yn dal gwerth go iawn; ac
- yn parhau i fod yn addas i’w pwrpas.
Wrth asesu pa mor berthnasol yw cymwysterau, bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar y gwerth i ddysgwyr o ran paratoi ar gyfer y camau nesaf mewn addysg, cyflogaeth neu hunangyflogaeth, a chael mynediad at y camau hyn, yn ogystal â'r gwerth a roddir ar gymwysterau gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.
Rydym am gael gwybod pa gymwysterau sy’n dal y gwerth mwyaf, pa rai sy’n fwyaf perthnasol ac y dylid eu hannog, a pha rai y mae’n bosib bod angen rhybuddion iechyd arnynt, neu y mae angen eu rhoi o’r neilltu. Bydd yr adolygiad yn casglu tystiolaeth o ystod o ffynonellau a rhanddeiliaid.
Mae’r adolygiad yn amlwg yn berthnasol i nifer o feysydd eraill megis:
- Y System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol (NPFS), sy’n cael ei hadolygu ar wahân.
- Ein Prosiect Gwybodaeth am y Farchnad Lafur, a fydd yn ceisio cysylltu gwybodaeth am gyrsiau, llwybrau gyrfa, a chyfleoedd yn y farchnad lafur i sicrhau bod dysgwyr yn cael arweiniad da wrth wneud dewisiadau pwysig ynglŷn â dysgu a gyrfa.
- Mesuriadau perfformiad a ffactorau eraill a allai ddylanwadu ar ysgolion a cholegau wrth iddynt benderfynu pa gymwysterau i'w cynnig.
I sicrhau bod pobl yn ymddiried yn ein cymwysterau, ac yn eu deall, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein cymwysterau’n cael eu hasesu’n briodol. Bydd yr adolygiad yn ystyried asesu yn eang. Er enghraifft, bydd yn rhoi cyfle i ni fwrw golwg mesuradwy ac ystyriol ar faterion allweddol megis rôl TGAU Modylol yn y dyfodol, ac a ddylem symud tuag at raddio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ai peidio.
Cyn hir, byddaf yn cyhoeddi Cadeirydd yr Adolygiad Cymwysterau, a fydd yn dod â thîm o randdeiliaid allweddol at ei gilydd. Bydd yr adolygiad yn cyflwyno adroddiad terfynol ddiwedd 2012.