Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Ar 12 Hydref, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer diwygio’r PAC. Pan gytunir arni, caiff ei rhoi ar waith ar 1 Ionawr 2014. Bydd y diwygiadau’n ymwneud â’r taliadau uniongyrchol i ffermwr a chynlluniau datblygu gwledig 2014-2020.
Rwy’n croesawu’r bwriad i gadw fframwaith dwy golofn bresennol y PAC. Mae Colofn 1 yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol a chymorth i’r farchnad ac mae Colofn 2 yn ymdrin â datblygu gwledig.
Rwy’n croesawu hefyd bod dal cydnabyddiaeth trwy’r taliadau uniongyrchol, bod y PAC am helpu incwm ffermwyr, cefnogi gynhyrchiant bwyd a sicrhau canlyniadau amgylcheddol. Bydd y cynigion ar gyfer datblygu gwledig yn rhoi mwy o hyblygrwydd nag ar hyn o bryd ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i lunio Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru fydd yn gallu ateb gofynion Cymru a’n cymunedau gwledig. Yn fwy penodol, unwaith y gwelwn y pecyn terfynol, mater i Lywodraeth Cymru fydd penderfynu sut y bydd y diwygiadau’n cael eu cynnal yng Nghymru.
Dyma fydd prif elfennau’r cynigion:
Taliadau Uniongyrchol
- Bydd Cynllun y Taliad Sengl yn newid ei enw i’r Taliad Uniongyrchol. Bydd yn cynnwys Taliad Sylfaenol gyda thaliad ‘Gwyrdd’. Bydd yna daliad mandadol i ffermwyr ifanc. Bydd opsiwn hefyd i fabwysiadu Cynllun i Ffermwyr Ifanc a thaliadau ychwanegol ar gyfer ardaloedd sy’n dioddef ‘cyfyngiadau naturiol’.
- Daw’r holl daliadau o’r uchafswm ariannol (y ceiling) sydd wedi’i neilltuo i Gymru. Pennir union uchafswm Cymru yng nghyllideb 2014-2020 yr UE (y Fframwaith Ariannol Amlflynyddol) a chyfanswm y gyllideb ar gyfer y PAC.
Dim ond ffermwyr fydd wedi derbyn y Taliad Sengl yn 2011 fydd yn cael taliad yn 2014 ond fe fydd eithriadau e.e. trwy’r Gronfa Genedlaethol. - Bydd taliadau’n seiliedig ar arwynebedd yn cael eu cyflwyno o 2014 a bydd pob taliad yn seiliedig ar arwynebedd erbyn 2019. Yn 2014, bydd 40 y cant o bob taliad yn seiliedig ar arwynebedd.
Hyblygrwydd rhwng Colofnau
- Bydd aelod-wladariaethau’n cael trosglwyddo hyd at 10 y cant o’u huchfaswm cenedlaethol blynyddol i gynnal gweithgarwch datblygu gwledig sy’n cael ei ddarparu o dan Golofn 2.
- Bydd gan wledydd, gan gynnwys y DU, yr hawl i drosglwyddo i Golofn 1 hyd at 5 y cant o arian yr UE a ddaw iddi o dan Golofn 2.
Yr Amgylchedd
- I gael y Taliad Sylfaenol, bydd yn rhaid i ffermwyr ateb gofynion mandadol sy’n ymwneud â chylchdroi cnydau, tir pori parhaol ac ardaloedd ecolegol.
- Bydd yr Elfen Werdd yn cynrychioli 30 y cant o’r uchafswm ariannol i Gymru. Bydd tir organig a thir wedi’i ddynodi’n gymwys am daliad.
Ffermwr Actif
- Ni chaiff taliad ei wneud os bydd cyfanswm blynyddol y taliadau uniongyrchol yn llai na 5 y cant o gyfanswm incwm menter y fferm o weithgareddau anamaethyddol yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf neu os na ellir profi bod lefel ofynnol o weithgarwch amaethyddol wedi’i gynnal.
Y Gronfa Genedlaethol
- Y flaenoriaeth yw cefnogi ffermwyr ifanc. Ariennir y gronfa trwy gymryd hyd at 3 y cant o’r uchafswm ariannol ar gyfer y Taliad Sylfaenol.
Ardaloedd a chanddynt Gyfyngiadau Naturiol
- Mae taliadau opsiynol ar gael ar gyfer ardaloedd lle ceir cyfyngiadau naturiol. Bydd angen cytundeb ar natur y cyfyngiadau hyn ar lefel Brydeinig. Ariennir y taliad opsiynol trwy gymryd 5 y cant o’r uchafswm cenedlaethol.
Cynllun Ffermwyr Bach
- Caiff ffermwyr sy’n hawlio €100 neu fwy neu sydd â mwy nag 1 hectar o dir comin ddewis cymryd rhan yn y Cynllun Ffermwyr Bach, Byddant yn gymwys am daliad blynyddol o rhwng €500 a €1000. Ni fydd y safonau trawsgydymffurfio mor llym ac ni fydd angen bodloni’r Elfen Werdd.
- Mae’r rheoliadau cyfredol yn dweud bod y cynllun hwn yn orfodol.
Cymorth Cysylltiedig Gwirfoddol
Mae’r mecanwaith hwn yn cael ei ariannu gan hyd at 10 y cant o’r uchafswm blynyddol a’i ddiben yw rhoi cymorth ychwanegol i gynnal lefelau cynhyrchu mewn sectorau ffermio bregus sydd ag ystyriaethau economaidd, cymdeithasol a/neu amgylcheddol pwysig. Ceir yr arian ar ei gyfer trwy dynnu hyd at 10 y cant o’r uchafswm ariannol.
Cynigion colofn 2
- Mae’r cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig newydd Cymru yn rhai eithaf syml ac fel y saif y ddeddfwriaeth ddrafft ar hyn o bryd, ychydig o destun gofid sydd.
- Rwy’n falch o weld bod trefn yr echelau wedi cael mynd a bod mwy o hyblygrwydd ynghylch sut i ddefnyddio arian yr UE. Mae gofyn i sicrhau bod o leiaf 25 y cant o arian yr UE yn cael ei neilltuo i gefnogi ac o leiaf 5 y cant i weithgareddau LEADER.
Mae gofyn hefyd am strategaeth gyffredin o ran defnyddio arian yr UE o dan y Cynllun Datblygu Gwledig, Cronfeydd Strwythurol a Chronfa Pysgodfeydd Ewrop. Unwaith eto, rwy’n croesawu hyn gan ei fod yn adlewyrchu sut y bydd Llywodraeth Cymru am ddatblygu dull ystyrlon ar gyfer buddsoddi’r arian Ewropeaidd hwn er lles Cymru a’n cymunedau.
Mae cyfiawnhad llwyr dros droi at daliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd. Nid yw’n ymarferol awgrymu bod taliadau sy’n seiliedig ar gynhyrchiant yn 2000-2002 yn para’n ddilys. Y broblem i Gymru yw bod yn rhaid i’r holl daliadau’n gael eu troi’n rhai sy’n seiliedig ar arwynebedd mewn cwta 5 mlynedd ac o 2014, bydd disgwyl i’r elfen sy’n seiliedig ar arwynebedd fod yn 40 y cant. Byddaf yn gofyn am gyfnod pontio hirach ac yn bendant mai mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu sut bydd y newid i 100 y cant yn digwydd.
Mae’r cynigion ‘gwyrdd’ yn haearnaidd a byddai’n well gennyf weld y Comisiwn yn rhoi mwy o opsiynau a thrwy hynny, mwy o hyblygrwydd o ran dewis. Byddaf hefyd am gael gadarnhad na chaiff y gwaith da sydd wedi’i wneud yng Nghymru trwy’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol a Glastir, ei danseilio.
O safbwynt cynigion Colofn 2, gallaf yn fras croesawu’r rheini. Her bwysig yn hyn o beth yw sicrhau bod Cymru, ac yn wir y DU, yn derbyn cyfran decach o’r arian Ewropeaidd fydd yn cael ei ddarparu.
Mae’n debyg na chaiff penderfyniadau terfynol eu gwneud tan ddiwedd 2012. Cychwynnwyd y drafodaeth ar gyfeiriad y PAC yn y dyfodol gan Gyngor Gweinidogion Amaeth yr UE yn Luxemburg ar 20 Hydref. Euthum i’r cyfarfod fel rhan o dîm negodi Gweinidogion yr DU, a dyna fydd fy mwriad ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol. Yr un pryd, byddaf yn cynnal fy neialog gydag ASEau a’r Comisiwn i wneud yn siwr bod anghenion Cymru a ffermio yng Nghymru yn cael eu cynrychioli’n gryf a theg fewn fframwaith y DU.
Mae’n rhaid cydnabod ei bod yn bwysig deall manylion y PAC. Un testyn siom mawr yn y cynigion yw bod y Comisiwn fel pe bai am ychwanegu at gymhlethdod gweinyddu’r PAC. Daw hyn â beichiau ychwanegol i Lywodraeth Cymru ac ar ffermwyr hefyd. Byddaf ym weld safbwynt tîm negodi DU yn pwyso am fwy o symlrwydd yn y pecyn diwygio nag sydd ar hyn o bryd.
Mae’n fater i’r cofnod cyhoeddus nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â barn Llywodraeth y DU ar leihau cyfanswm cyllideb yr UE a chyllideb y PAC yn benodol. Er y gwahaniaeth hwn, rwyf wedi ymrwymo i weithio’n adeiladol gyda Gweinidogion yn Llundain ac yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau canlyniad ymarferol i’r DU – ac i Gymru. Byddaf am wneud yn siwr bod Cymru’n cael chwarae rhan bositif ac adeiladol o ran llywio safbwynt a dull gweithio’r DU. Rwyf hefyd wedi’i gwneud yn glir i Weinidogion Llywodraeth y DU mai uchelgais Cymru yw bod yn aelod llawn o dîm y DU.
Byddaf yn sicrhau bod yr holl Aelodau yn cael chwarae eu rhan lawn wrth i’r Llywodraeth ffurfioli ei hymateb i’r cynigion hyn.
Yn ogystal, mae Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi sefydlu Grŵp Gorffen a Gorchwyl i ystyried y cynigion ar gyfer y PAC. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r Pwyllgor i hwyluso hynny a rhoi’r holl wybodaeth fydd ei hangen ar Aelodau i’w helpu wrth eu gwaith. I gadw’ch bysedd i gyd ar byls, byddaf yn gwneud datganiadau rheolaidd fel bod yr holl aelodau’n gwybod beth sy’n digwydd.