Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Fel y cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, mae Llywodraeth Cymru, Trysorlys ei Mawrhydi a Swyddfa Cymru wedi dechrau trafodaethau ar y materion a nodir yn adroddiad Holtham mewn perthynas ag ariannu Cymru.
Bydd y trafodaethau’n cynnwys gwaith i ennill dealltwriaeth o:
- dueddiadau o ran gwariant yng Nghymru;
- astudiaethau blaenorol sydd wedi’u cynnal ynghylch anghenion Cymru;
- y ffordd y mae’r pwerau benthyca presennol yn cael eu defnyddio.
Ar ôl inni ystyried y tueddiadau gwario a’r astudiaethau o anghenion blaenorol, ac yn amodol ar gytundeb Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU bod problem yn bodoli, bydd y cam nesaf yn edrych ar y dewisiadau ar gyfer diwygio.
Bydd y trafodaethau hyn yn parhau ochr yn ochr â gwaith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, y disgwylir i Ysgrifennydd Gwladol Cymru wneud datganiadau pellach yn ei gylch cyn bo hir.