Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau
Yn y Pwyllgor Menter a Dysgu ar 17 Chwefror 2011, gwnes ymrwymiad i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i Aelodau'r Cynulliad ynghylch y cynllun ProAct.
Ym mis Mehefin 2009, comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gwmni Cambridge Policy Consultants i werthuso'r cynllun ProAct. Cwblhawyd gwerthusiad ffurfiannol cynnar ym mis Ionawr 2010, a daeth y gwerthusiad terfynol drafft i law ym mis Ionawr 2011. Rydym yn disgwyl i ganfyddiadau'r gwerthusiad gael eu dilysu'n derfynol cyn bo hir. Cyn i adroddiad terfynol y gwerthusiad gael ei gyhoeddi, hoffwn rannu mwy o wybodaeth ag Aelodau'r Cynulliad.
Fel y gwyddom, yn ystod ail hanner 2008 llithrodd economi Cymru'n gyflym i mewn i ddirwasgiad dwfn. Bu rhaid i lawer o gwmnïau cyfarwydd a phrofiadol dorri nôl. Roedd rhai ohonynt yn ei chael yn anodd parhau.
Roedd y gadwyn gyflenwi yng Nghymru yn wynebu sefyllfa anodd a heriol. Ar y naill law roedd angen goroesi o ddydd i ddydd, ac ar y llaw arall roedd angen bod yn barod i gystadlu pan fyddai'r economi'n gwella. Roedd yn rhaid torri costau ac o fewn dim o dro roedd rhai cwmnïau wedi gorfod cyflwyno trefniadau gweithio cyfnod byr. Diswyddodd llawer o gwmnïau rai o'u staff. Mewn nifer o achosion doedd fawr o ddewis ond dirwyn y cwmni i ben.
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati'n gyflym i ddatblygu ProAct fel ymateb i'r dirwasgiad.
Diben y cynllun oedd annog busnesau i gadw'u staff a defnyddio'u capasiti sbâr yn ystod y dirywiad economaidd i hyfforddi staff mewn meysydd a fyddai'n gwella gallu'r busnes i gystadlu pan ddeuai'r adferiad economaidd.
Roedd cam cyntaf y cynllun ProAct yn canolbwyntio ar y sector modurol. Gwnaed hynny oherwydd y cwymp sydyn ledled y byd mewn gwaith cynhyrchu moduron, a'r niwed parhaol posibl y gallai goblygiadau hynny ei gael ar gyfleusterau gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Ym mis Mawrth 2009, agorwyd ProAct i fusnesau ym mhob sector. Cyflwynodd nifer sylweddol o gwmnïau yn y sector adeiladu a gweithgynhyrchu gais am gymorth o'r cynllun.
Mae'r cymorth ariannol a ddarparwyd gan ProAct yn cynnwys swm sylweddol o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd. Pan gaeodd ProAct i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2010, roedd dros £27 miliwn wedi'i ymrwymo i gynorthwyo 254 o fusnesau.
Cynorthwyodd ProAct dros 10,000 o unigolion i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn gwella perfformiad busnes ac yn eu helpu i gadw'u swyddi.
Erbyn diwedd Rhagfyr 2010, roedd llawer o'r cwmnïau a gymerodd ran yn dweud bod ProAct wedi diogelu swyddi, ac roedd nifer yn nodi y bu cymorth ProAct yn allweddol i greu swyddi newydd.
Rydw i wrth fy modd ag ymateb y gymuned fusnes i effeithiau cadarnhaol ProAct. Mae'n bwysig ein bod yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i lywio'r modd rydym yn darparu a thargedu rhaglenni yn y dyfodol.
Mae cwmnïau a gymerodd ran yn y cynllun ProAct wedi pwysleisio manteision buddsoddi mewn sgiliau, ac wedi canmol llwyddiant ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r dirwasgiad yn hynny o beth.
Roedd rhai agweddau ar y Rhaglen Datblygu'r Gweithlu, fel y Llinell Ffôn Sgiliau Busnes a'r rhwydwaith o Gynghorwyr Datblygu Adnoddau Dynol, yn allweddol i lansio a gweithredu'r cynllun yn sydyn.
Bu'r bartneriaeth gref rhwng staff ProAct, Rheolwyr Perthynas Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, Cynghorwyr Datblygu Adnoddau Dynol a chyrff cynrychioli cyflogwyr yn fodd cyflym o gyrraedd y busnesau hynny a ddioddefodd waethaf yn sgil y dirwasgiad.
Er mwyn ategu llwyddiant ProAct, lansiwyd Sgiliau Twf Cymru ym mis Ebrill 2010 i gynorthwyo busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd i dyfu yn sgil yr adferiad economaidd byd-eang. Hyd yma, mae 81 o fusnesau wedi cyflwyno cais llwyddiannus am gymorth. Bydd hyn yn helpu 10,000 yn rhagor o weithwyr.
I gloi, roedd ProAct yn gynllun a ddatblygwyd ac a ddarparwyd yn ystod y dirwasgiad dyfnaf mewn 80 o flynyddoedd. Mae'r canlyniadau rwyf wedi ei nodi uchod yn drawiadol, ac maent yn destament i'r hyn y gellir ei wneud drwy roi arweiniad cadarn a bod yn benderfynol o lwyddo.
Mae'r canlyniadau'n dweud y cyfan. Mae ProAct wedi diogelu swyddi, ond mae hefyd wedi creu rhai newydd ac wedi helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol a chynhyrchiol. Ar ben hynny, mae wedi atal rhai cwmnïau rhag cau. Ar y sail hwnnw, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.
Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i baratoi a gweithredu ProAct. Mae'n dangos yn glir bod Llywodraeth y Cynulliad yn gallu bodloni anghenion cyflogwyr ar fyr rybudd, ac ar yr un pryd sicrhau manteision am ei buddsoddiad.