Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i flaenoriaethu ymyriadau’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol presennol, sydd bellach wedi’i gwblhau a’i gyhoeddi. Drwy flaenoriaethu elfennau o’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, rydym yn bwrw ymlaen â buddsoddiadau a fydd yn gwneud i system drafnidiaeth Cymru weithio’n well er mwyn mynd i’r afael â thlodi, gwella lles pobl a chynorthwyo twf economaidd. Rydym yn realistig ynghylch yr hyn y gallwn ei gyflawni, a byddwn yn defnyddio ein hadnoddau yn ddoeth fel eu bod yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i fywydau pobl. Ein nod yw ei gwneud yn haws i bobl symud o le i le a gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth, fel bod pawb yn gallu cael mynediad at y pethau angenrheidiol – swyddi, gofal iechyd, addysg, gofal plant, ffrindiau a theulu.
Byddwn yn mynd i’r afael â thlodi drwy roi sylw i’r problemau symudedd a hygyrchedd a wynebir gan bobl sy’n byw mewn tlodi. Byddwn yn sicrhau bod ein buddsoddiad sylweddol ni gyda chontractwyr yn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn lleol. Byddwn yn gwneud y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru’n fwy cynaliadwy. Gwneir hyn drwy raglenni eang sy’n effeithio ar lawer o bobl, megis canolfannau teithio cynaliadwy a gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, ac hefyd drwy fân ymyriadau megis gosod goleuadau mwy ynni-effeithlon ar rai rhannau o’n cefnffyrdd i leihau’r costau trydan.
Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i’r buddsoddiadau sy’n cyfrannu at dwf yr economi – y rhai fydd yn mynd i’r afael â thagfeydd trefol, yn gwella’r mynediad at ardaloedd allweddol ac yn cynyddu capasiti ein ffyrdd allweddol dwyrain-gorllewin a’u gwneud yn fwy dibynadwy. Er mwyn gwneud y rhwydwaith ffyrdd yn fwy effeithlon byddwn yn rhoi sylw i’r problemau beunyddiol y mae pobl yn eu hwynebu. Byddwn yn defnyddio dulliau mwy ystwyth o ddatrys problemau sylfaenol – mae ein gwaith diweddar wedi profi bod dulliau gweithredu mwy arloesol yn gallu datrys problemau yn llawer cyflymach wrth ddefnyddio synnwyr cyffredin. Gwneir hyn oll o fewn cyd-destun ehangach ein Rhaglen Lywodraethu a fydd yn golygu datblygu cynlluniau eraill yn y dyfodol i gefnogi mentrau allweddol megis mynd i’r afael â thlodi, creu Ardaloedd Menter, gwella’r mynediad at ofal iechyd ac addysg a galluogi datblygiad y rhanbarthau dinesig.
Byddwn yn canolbwyntio ar gael y gorau o’n rhwydwaith ffyrdd presennol drwy sicrhau bod gwaith cynnal a chadw a gwella ffyrdd yn cael ei gynllunio’n dda. Yn y tymor byr i ganolig, byddwn yn buddsoddi i sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd a’n system trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio’n fwy effeithlon. Rydym wedi blaenoriaethu rhaglen o ymyriadau prydlon er mwyn lleihau’r anawsterau teithio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau i osod arwyneb newydd ar ffyrdd ledled Cymru er mwyn lleihau problemau tyllau yn y ffyrdd.
Rydym wedi blaenoriaethu buddsoddiadau a fydd yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a deniadol i ddefnyddwyr. Byddwn yn ystyried y dulliau o ddarparu gwybodaeth deithio ac yn meddwl am ddulliau newydd o ddyroddi tocynnau. Rhoddir blaenoriaeth i Gerdyn Hawliau Teithio Cymru a bydd cynlluniau peilot newydd yn cael eu lansio i gydgysylltu’r gwasanaethau bws a rheilffordd ym Mangor a Chasnewydd.
Rydym yn awyddus i gynnal system reilffyrdd modern ac effeithlon yng Nghymru. Ein bwriad yw gwneud gwasanaethau rheilffordd yn fwy hygyrch fel bod rhagor o’n cymunedau ni’n gallu dewis system reilffyrdd o ansawdd uchel sydd hefyd yn fforddiadwy. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen cynllunio ar gyfer twf yn y defnydd o’r rheilffyrdd a cheisio gwneud y rheilffyrdd yn fwy effeithiol ar yr un pryd. Rydym yn arwain y gwaith o baratoi achos busnes ar gyfer trydaneddio llinell y Great Western o Abertawe i Gaerdydd a Rheilffyrdd y Cymoedd, gan gydweithio’n agos â Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU. Trydaneiddio rhwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd fyddai’r cam cyntaf tuag at ddarparu system reilffyrdd ‘metro’ wirioneddol integredig yn Ne Cymru. Wrth edrych ymhellach tua’r dyfodol, bydd ein cynllunio strategol yn canolbwyntio ar ddatblygu systemau trafnidiaeth integredig rhanbarthol.
Rydym ni fel Llywodraeth yn cael dylanwad cynyddol ar ddyfodol y rheilffyrdd yng Nghymru; rydym yn gweithio i ennill rhagor o gyfranogiad uniongyrchol yn y dulliau o gynllunio a chyflenwi rhwydwaith rheilffyrdd modern. Byddwn yn defnyddio pob un o’r pwerau sydd gennym i ddylanwadu ar y rhwydwaith a’r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.
Byddwn yn parhau i wella gwasanaethau bws Cymru. Rydym wedi blaenoriaethu’r cymorth a roddir i weithredwyr gwasanaethau bws fel bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yn diwallu anghenion y defnyddwyr, heddiw ac yn y dyfodol. Mae gan wasanaethau bws y potensial i ddarparu dull hyblyg o gysylltu cymunedau â safleoedd megis gorsafoedd trenau, gweithleoedd, safleoedd gofal iechyd a sefydliadau addysgol. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar wasanaethau bws fel eu prif ddull teithio, a byddwn yn cydweithio â’r darparwyr gwasanaethau i oresgyn y rhwystrau sy’n wynebu defnyddwyr: cost, y prosesau dyroddi tocynnau, amserlennu, amledd a’r llwybrau teithio. Bydd hyn yn golygu cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol, trafnidiaeth gymunedol a’r diwydiant bysiau i wneud gwell defnydd o bartneriaethau o ansawdd, a, lle bo’n briodol, estyn gwasanaethau megis Bwcabus a TrawsCymru.
Mae buddsoddi mewn cerdded a beicio yn hollbwysig er mwyn rhoi dewisiadau ymarferol i bobl deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith neu i ganolfan addysg, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Rydym wedi symleiddio’r ethos sydd wrth wraidd ein buddsoddiadau, a byddwn yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd diogel a deniadol i bobl feicio, fel bod ganddynt ragor o ddewisiadau teithio ar gael iddynt. Rydym yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth a fydd yn creu dyletswydd i ddatblygu’r seilwaith sydd ei angen i’w gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio yn ein trefi. Bydd hyn yn rhan o’n dull gweithredu ehangach ni i fynd i’r afael â thlodi a thagfeydd trefol drwy greu dewisiadau realistig eraill sy’n gallu cymryd lle’r car ar deithiau byr.
Ochr yn ochr â’n cynlluniau ar gyfer y tymor hirach, rydym wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer cynlluniau bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol i fywydau pobl sy’n byw a gweithio yn yr ardaloedd hynny. Mae hyn yn dangos yn glir bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a thrafnidiaeth yn gyffredinol, yn canolbwyntio ar ddatrys y problemau trafnidiaeth y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd.
Byddwn yn buddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd i gefnogi twf yr economi, mynd i’r afael â thlodi a chynyddu lles pobl:
- Gwelliannau diogelwch i’r A465 rhwng Hirwaun a Dowlais Top.
- Gwella ffordd ymadael cylchfan Abercynon ar yr A470.
- Ar yr A4059 yn Aberpennar, gwella’r mynediad i ganol y dref ac ysbyty newydd Cwm Cynon.
- Mesurau i leihau tagfeydd ar yr A55, Pont Britannia.
- Mynediad i Stad Ddiwydiannol Cynffig.
- Ffordd fynediad i Stad Ddiwydiannol Wrecsam (Cam 2).
Byddwn yn buddsoddi i wella diogelwch gyrwyr, teithwyr, cerddwyr a beicwyr:
- Cyffordd Pont Abraham i Cross Hands.
- CCTV cynnal a chadw gaeaf ar yr A465, Cwm Clydach
- Cyffordd Pont Maerdy ar yr A483, Llandysilio.
- Cyffordd Moat Lane ar yr A483, Caersws.
- Gwella’r groesfan ar yr A458 yng Nghanol tref y Trallwng.
- Rheilins Pont Droed y Rheilffordd ar yr A487, Machynlleth.
- Gwella’r groesfan i gerddwyr ar yr A479, Talgarth.
- A494 Tan yr Unto, Rhuthun.
- Adnewyddu’r ffensys diogelwch ar yr A55.
- Yr A494, Meiarth Bach.
Byddwn yn buddsoddi i wella’r cyfleusterau ar gyfer cerdded a beicio:
- Y seilwaith i gerddwyr a beicwyr ar safle Coleg Meirion Dwyfor, Caernarfon
- Llwybr beicio Morfa Conwy, yr A55 (Cam 2)
- Cynlluniau cerdded a beicio Gwynedd rhwng Tywyn a Bryncrug.
- Dewisiadau Doethach – cyllid ar gyfer standiau beiciau mewn ysgolion a chyfarpar cyfalaf ar gyfer cynllunio teithio.
- Llwybr Ddyffryn Dyfrdwy rhwng Llangollen a’r Berwyn.
- Cynllun Ysgol Gyfun y Barri i ddarparu Llwybrau Diogel yn y Gymuned
- Merthyr Connect 2, yn creu llwybr di-dor i gerddwyr a beicwyr deithio rhwng cymunedau ardal Merthyr Tudful.
- Cynllun Rhwydwaith Beicio’r Royal Oak yn y Cymoedd, rhwng Blaenau Gwent a Thorfaen.
- Camlas Mynwy ac Aberhonddu (Llwybr 49 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol), gwelliannau i’r llwybr tynnu rhwng Mamhilad a Glanfa Goitre.
Mae’r cynlluniau hyn yn dangos sut rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi’n ddoeth er mwyn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl i fywydau pobl ledled Cymru.
Nid datganiad o egwyddorion yn unig yw hwn. Wrth flaenoriaethu’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, rydym yn nodi pa raglenni gaiff eu gweithredu a phryd, gan alluogi’r cyhoedd i fynnu atebolrwydd a sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â’n gair.