Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
Ysgrifennaf atoch i'ch hysbysu y byddaf yn cyhoeddi heddiw gylch gwaith Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Grŵp Arweinyddiaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.
Fel y gwyddoch, gwnes lansio ar 17 Chwefror Bapur Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddyfodol Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru – Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer gweithredu. Mae'n canolbwyntio ar nifer bach o newidiadau mawr, gan gynnwys y ffaith y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn rhagor o gyfrifoldeb am lywio cyfeiriad gwasanaethau a chydweithio â rhanddeiliaid er mwyn datblygu cyfres glir o ganlyniadau cenedlaethol.
Mae'r Papur yn nodi y caiff Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ei sefydlu o dan arweiniad Gweinidog. Bydd y Fforwm yn cynnwys arweinwyr gwleidyddol rhanddeiliaid cenedlaethol allweddol a chynrychiolwyr gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Bydd yn derbyn cymorth gan Grŵp Arweinyddiaeth Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol o dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Mae'r cylch gwaith yr wyf yn ei gyhoeddi yn golygu y bydd modd cynnal deialog a thrafodaethau a bydd yn sicrhau'r arweiniad ar gyfer hyrwyddo newidiadau. Y cam nesaf fydd ystyried manylion y cylch gwaith, yr aelodaeth a sut y caiff penodiadau eu gwneud.