Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwyf yn ysgrifennu i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am gynnydd y Fforwm Clinigol Cenedlaethol (y Fforwm).
Fel yr esboniais yn fy llythyr dyddiedig 4 Hydref, sefydlir y Fforwm i ddarparu cyngor clinigol i Fyrddau Iechyd Lleol, drwy eu Prif Weithredwyr, ar eu cynigion ar gyfer newid gwasanaethau. Cynhelir cyfarfod ffurfiol cyntaf y Fforwm ddydd Mawrth 22 Tachwedd yng Nghaerdydd gyda chyfarfodydd misol dilynol hyd at haf 2012. Trefnwyd y cyfarfodydd fel eu bod yn digwydd mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru a chynhelir y ddau gyfarfod nesaf yn Hywel Dda a Betsi Cadwaladr, ym mis Rhagfyr a mis Ionawr yn y drefn honno.
Mae Prif Weithredwyr GIG Cymru wedi gwahodd yr Athro Mike Harmer i gyd-Gadeirio'r Fforwm ac mae ef yn trafod â Chyfarwyddwyr Meddygol Cenedlaethol Lloegr a'r Alban i nodi cyd-Gadeirydd addas a all ddod â phrofiad o ail-gyflunio gwasanaethau ar raddfa fawr i'r rôl. Fel y gwŷr llawer ohonoch, yr Athro Harmer yw Cadeirydd presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
Bydd y canlynol yn darparu cynrychiolwyr clinigol i'r Fforwm:
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Grwpiau Cynghori Arbenigol Cenedlaethol Pwyllgor Meddygol Cymru
- iechyd plant
- iechyd merched
- iechyd meddwl
- meddygaeth
- llawdriniaeth
- anesthesia / gofal critigol
- practis cyffredinol
- Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol Cenedlaethol, Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru
- Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol Cenedlaethol, Pwyllgor Cynghori Therapïau Cymru
- Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol Cenedlaethol, Pwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru
- Neddyg teulu (a enwebir gan Gymdeithas Feddygol Prydain)
- Nyrs (a enwebir gan y Coleg Nyrsio Brenhinol)
- Bydwraig (a enwebir gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd)
- Deoniaeth yr Ôl-raddedigion
- Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru
- Cyfarwyddwr Cenedlaethol Law yn Llaw at Iechyd
- Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru
- Cadeirydd Pwyllgor Fferyllol Cymru
Mae Cyfarwyddwr Cenedlaethol Law yn Llaw at Iechyd hefyd yn trafod â'r Sefydliad Iechyd Gwledig ynglŷn â'r rôl y gall ei chwarae o ran llywio gwaith y Fforwm. Lleolir y Sefydliad yn y Drenewydd ac mae ganddo enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth ym maes hyrwyddo iechyd a lles mewn lleoliadau gwledig.
Ni fydd gan y Fforwm bwerau gwneud penderfyniadau a chaiff ei gylch gwaith llawn ei gytuno yn y cyfarfod ar 22 Tachwedd. Fodd bynnag, deallaf y bydd Prif Weithredwyr yn disgwyl i'r Fforwm ganolbwyntio ar y cwestiynau cyffredinol canlynol:
- A yw gwasanaethau presennol yn cyflawni'r canlyniadau rydym yn anelu atynt?
- Sut y dylid trefnu gwasanaethau clinigol a mathau eraill o gymorth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau yn yr hirdymor i Gymru gyfan?
- A yw'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau yn canolbwyntio ar gleifion?
- Sut y gallwn sicrhau y gellir cyflawni cynlluniau gwasanaethau?
- Sut y dylid cysoni gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y boblogaeth gyfan?
Disgwyliaf i bob un o'n Byrddau Iechyd ymgysylltu'n llawn â'u cymunedau a'u rhanddeiliad lleol cyn i'w cynigion terfynol gael eu cyhoeddi. Rôl y Fforwm fydd rhoi sicrwydd bod unrhyw drefniadau newydd yn ddiogel o safbwynt clinigol a'u bod yn diwallu anghenion pobl leol. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, mae gan ein Cynghorau Iechyd Cymunedol rôl allweddol i'w chware i sicrhau'r drafodaeth ehangaf posibl â chymunedau lleol o fewn y prosesau agored a chydweithredol a bennir gan Fyrddau Iechyd Lleol.
Yn fy Rhagair i Law yn Llaw at Iechyd: Gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a gyhoeddwyd ar 1af Tachwedd, nodais fod arfer clinigol yn newid a bod angen sicrhau gwasanaethau cynaliadwy ar frys. Mae maint yr her yn golygu bod yn rhaid i bob un ohonom, gwleidyddion, y GIG a sefydliadau partner, cymunedau a dinasyddion, fwrw ati ar y cyd a sicrhau, gyda'n gilydd, system iechyd newydd gwell i bob claf yng Nghymru.
Aelodau'r Fforwm a gadarnhawyd hyd yn hyn yw;
- Yr Athro Mike Harmer (cyd-Gadeirydd) Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
- Andrew Carruthers Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Law yn Llaw at Iechyd
- Dr Keith Griffiths Cyfarwyddwr Therapïau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Dr Helen Matthews Seiciatrydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Yr Athro Gallen Deon Ôl-raddedig
- Nigel Davies Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol (Obstetreg a Gynaecoleg)
- Dr Paul Hughes Cyfarwyddwr Meddygol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Dr Mike Tidely Cadeirydd, Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru
- Mr Roger Morgan Cyfarwyddwr Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- Dr Keith Griffiths Cadeirydd, Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru
- Sarah Plummer Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol (Anesthesia/Gofal Critigol)
- Iolo Doull Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol (Pediatreg)
- Robert Sainsbury Coleg Nyrsio Brenhinol
- Sandra Morgan Pwyllgor Cynghori Therapïau Cymru
- Neil Statham Meddyg Teulu (a enwebwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain)
- Peter Bradley Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Iechyd Cyhoeddus
- Helen Rogers Coleg Brenhinol y Bydwragedd
- Richard Moore Cadeirydd, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol (Meddygaeth)
- Jo Williams Rheolwr Prosiect
- Jill Paterson Pwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru
- Jane Herve Pwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru
- Karl Bishop Cadeirydd, Pwyllgor Deintyddol Cymru
- Alan Axford Grŵp Gweithredu'r Cynllun Iechyd Gwledig