Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai
Gwnaeth Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (y Ddeddf) roi pwerau newydd i Weinidogion Cymru er mwyn eu galluogi i reoli ac amddiffyn yn well amgylchedd morol Cymru. Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dull llawer iawn mwy unedig o reoli ein moroedd mewn modd cynaliadwy. Bwriedir gwneud hyn drwy gyflwyno trefniadau cynllunio morol statudol, cryfhau a chysoni trefniadau deddfu morol a darparu pwerau cadwraeth newydd. Gwnaeth y Ddeddf hefyd gyflwyno darpariaethau newydd ynghylch rheoli pysgodfeydd.
Mae'r Datganiad hwn yn cyflwyno'r diweddaraf ynghylch cyflawni'r tair agwedd ar y rhaglen forol - cynllunio morol, trwyddedu morol ac ardaloedd morol gwarchodedig.
Cynllunio Morol
Mae cynllunio morol yn agwedd allweddol ar y Ddeddf ac mae'n holl gyfrifoldebau a'n pwerau morol yn gysylltiedig ag ef.
O safbwynt datblygu cynlluniau morol y cam cyntaf yw sicrhau bod pedair gweinyddiaeth y DU yn mabwysiadu Datganiad Polisi Morol ar gyfer y DU gyfan. Ar ôl cysylltu llawer â rhanddeiliaid ac ymgynghori â'r cyhoedd mae'r datganiad bellach wedi'i fabwysiadu gan y pedair gweinyddiaeth heddiw. Mae'r Datganiad Polisi Morol yn amlinellu'r fframwaith polisi cyffredinol ar gyfer y bobl sy'n gwneud penderfyniadau ac mae'n sail ar gyfer datblygu holl gynlluniau morol y DU.
Ar 16 Chwefror gwnes lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ar gynllunio morol yng Nghymru - Datblygu cynaliadwy ar gyfer moroedd Cymru: Ein dull o ymdrin â chynllunio morol yng Nghymru. Yma rydym yn ceisio sylwadau ynghylch y modd y dylem ymgymryd â gwaith cynllunio morol yng Nghymru - a pha faterion allweddol y mae angen i ni eu hystyried wrth i ni ddechrau llunio'r cynlluniau morol.
Bwriedir sicrhau cynllun cenedlaethol ar gyfer ardaloedd y glannau ynghyd â chynllun cenedlaethol ar gyfer ardaloedd ar y môr yng Nghymru erbyn 2012/2013. Cynllunio ar lefel genedlaethol yw'r ffordd orau o sicrhau dull integredig ar gyfer gwneud polisïau a strategaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn addas ar gyfer ardal forol Cymru. Hoffem dderbyn sylwadau ynghylch y dull o gynllunio ar lefel is-genedlaethol, gan ystyried anghenion penodol ardaloedd a broydd.
Mae'n rhaid i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ddod i law erbyn 11 Mai 2011. Bydd yr adborth yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru i fwrw ymlaen â'r broses gynllunio.
Trwyddedu Morol
Ar 6 Ebrill daw'r system trwyddedu morol i rym yng Nghymru. Bydd hyn yn arwain at system drwyddedu fwy syml, drwy uno systemau presennol Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd a Deddf Amddiffyn yr Arfordir. Rwyf wedi cymeradwyo cyfres o is-ddeddfwriaeth sy'n dwyn i rym yng Nghymru ddarpariaethau trwyddedu morol y Ddeddf. Cyflwynwyd y rhain ger bron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2011. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid gydol y broses o ddatblygu'r pecyn deddfwriaethol ac rydym yn croesawu'r ymwneud a'r adborth parhaus ynghylch y system drwyddedu newydd.
Ardaloedd Morol Gwarchodedig
Yn ddiweddarach eleni bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn sefyllfa i gwblhau'n derfynol ei strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Bydd angen cadarnhad ynghylch sut y caiff ardaloedd morol gwarchodedig eu defnyddio fel un o'r dulliau ar gyfer ceisio gwarchod a gwella ecosystemau morol. Bydd angen amlinellu hefyd sut yr ydym yn bwriadu rheoli'n well ein hardaloedd morol gwarchodedig er mwyn sicrhau y caiff holl fanteision dynodi eu gwireddu. Dyma'r neges allweddol a ddeilliodd o'r ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch y strategaeth ddrafft a bydd adolygiad Cyngor Cefn Gwlad Cymru o'r modd y rheolir Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cyfrannu ato yn ogystal.
Yng Nghymru rydym eisoes wedi cyfrannu'n sylweddol at rwydwaith ar gyfer y DU ond teimlwn y dylwn ategu ein hardaloedd gwarchodedig presennol drwy ddynodi rhai Parthau Cadwraeth Morol a warchodir yn ofalus iawn, gan ddefnyddio'r pwerau newydd o dan y Ddeddf. Dros y 12 mis diwethaf mae Prosiect Cadwraeth Morol Cymru wedi datblygu canllawiau ynghylch dewis safleoedd fel bod modd adnabod y safleoedd hyn yn nyfroedd Cymru. Y bwriad yw cynnal cam nesaf y prosiect yr haf hwn, a bydd yn golygu pennu safleoedd posibl i ymgynghori â'r cyhoedd yn eu cylch, gan ddefnyddio'r canllawiau ynghylch dewis safleoedd.