Jane Davidson , y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Fel y mae Aelodau’n sylweddoli eisoes, cafodd ymrwymiad ei wneud yn rhaglen Cymru’n Un i sefydlu menter i gefnogi awdurdodau lleol, ac annog gweithredu gwirfoddol, i wella ansawdd yr amgylchedd lleol. Ym mis Ebrill 2008, yn sgil yr ymrwymiad hwnnw, lansiwyd y fenter Trefi Taclus. Nod Trefi Taclus yw galluogi pobl Cymru i gymryd cyfrifoldeb am ansawdd eu hamgylchedd lleol eu hunain, er mwyn iddynt allu chwarae eu rhan i greu Cymru lân, ddiogel a thaclus.
Ers sefydlu Trefi Taclus, dair blynedd yn ôl, mae Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol wedi derbyn £12 miliwn i gynnal prosiectau a mentrau a fydd yn mynd ati’n weithredol i hyrwyddo ansawdd amgylchedd lleol cymunedau ledled Cymru. Rwy’n falch bod gwerthusiad annibynnol wedi dangos bod Trefi Taclus yn gwneud gwir wahaniaeth i’r cymunedau hynny.
Mae’r adroddiad gwerthuso, sydd i’w weld ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn tynnu sylw at y gwelliannau a wnaed i’r amgylchedd lleol, ac mae’n manylu hefyd ar y manteision i bawb oedd ynghlwm wrth y gweithgarwch. Ymhlith y manteision, rhoddwyd hwb i synnwyr o falchder a hunaniaeth y cymunedau; codwyd ymwybyddiaeth o faterion sy’n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol; ac, yn bwysicach oll, gwelwyd newid mewn ymddygiad.
Ers diwedd mis Chwefror 2011, mae’r arian a roddwyd i Cadwch Gymru’n Daclus i ymgymryd â’r elfen o Trefi Taclus sy’n ymwneud ag ennyn diddordeb y gymuned wedi eu galluogi i weithio gyda 158,722 o wirfoddolwyr. Mae’r gwirfoddolwyr hynny wedi neilltuo 453,149 o oriau o’u hamser i helpu i wneud Cymru yn genedl lanach. Yn ogystal â hynny, cynhaliwyd 14,975 o sesiynau glanhau ar y cyd â Cadwch Gymru’n Daclus. Mae Cadwch Gymru’n Daclus hefyd wedi helpu grwpiau i gymryd cyfrifoldeb dros 880 o ardaloedd ar draws Cymru, gan gynnwys parciau, afonydd, traethau ac ardaloedd trefol.
Mae’n rhoi cryn foddhad imi gyhoeddi bod Cadwch Gymru’n Daclus, rhwng mis Ebrill 2009 a diwedd mis Chwefror 2011, wedi cwblhau gwaith ar 1,054 o brosiectau rhandir. Roedd y prosiectau hynny yn cynnwys creu rhandiroedd cwbl newydd, trawsnewid rhandiroedd a oedd wedi cael eu hesgeuluso, a gwella mynediad ac ansawdd y gwaith plannu ar draws pob rhan o Gymru. Yn rhinwedd fy rôl fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, rwyf wedi bod yn weithgar iawn wrth ymgyrchu dros ddarparu rhandiroedd ledled Cymru, at ddefnydd personol yn ogystal ag at ddefnydd cymunedau. Yn fy marn i, mae’r ffigur hwn yn hynod galonogol.
Rwy’n falch bod gwella ansawdd yr amgylchedd lleol yn dal i fod yn flaenllaw ar agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd dros £10 miliwn yn cael ei ddarparu dros y tair blynedd nesaf i ddiogelu dyfodol y fenter Trefi Taclus. Yn ôl y dystiolaeth sydd gennym, mae’r arian a fuddsoddwyd hyd yma wedi cael cryn effaith ar ansawdd amgylcheddau lleol ar draws Cymru. Ers 2007-08, yn ôl gwaith annibynnol i fonitro glanweithdra strydoedd, a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus, mae cyfartaledd y Mynegai Glanweithdra wedi cynyddu bob blwyddyn. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn Adroddiad Barn y Dinasyddion, a gafodd ei gyhoeddi ar 15 Mawrth 2011. Mae’r adroddiad hwnnw yn dangos, yn 2009-10, fod 78% o’r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg yn fodlon â’r gwasanaeth glanhau strydoedd yr oeddynt yn ei dderbyn. Yn 2007-08, roedd y ffigur hwnnw’n 68%. O ystyried y ddau ffigur hwn, mae’n amlwg bod strydoedd Cymru yn dod yn lanach, ac rwy’n siŵr bod Trefi Taclus wedi chwarae rôl hanfodol yn yr ymdrech i wneud y gwelliannau hyn.
Rwy’n siŵr y bydd Trefi Taclus yn parhau i drawsnewid yr amgylchedd lleol a newid ymddygiad pobl ar draws Cymru yn gyffredinol.