Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Yn fy natganiad llafar ac ysgrifenedig at Aelodau y tymor hwn ar ddatblygu unrhyw Raglenni Ewropeaidd yng Nghymru yn y dyfodol (2014-2020), addewais roi gwybod i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau pwysig.
Dw i eisoes wedi rhoi gwybod i'r Aelodau am farn gychwynnol Llywodraeth Cymru am reoliadau drafft y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n canolbwyntio ar ymyriadau er mwyn gwireddu gweledigaeth 'Ewrop 2020' ar gyfer twf call, cynaliadwy a chynhwysol. Mae'r rheoliadau yn bwnc da i'w drafod yn gyntaf gyda Llywodraeth y DU a'r Comisiwn.
Ni fyddwn yn gwybod am dro byd eto faint o arian y gallai rhannau gwahanol o Gymru ei sicrhau ar gyfer unrhyw raglenni Ewropeaidd yn y dyfodol, ond rydym yn gwybod bod angen i ni ddechrau cynllunio nawr – er mwyn sicrhau ein bod yn barod amdani yn 2014.
Yn ogystal â chydweithio'n agos â phobl bwysig ar lefel yr UE a'r DU, rydym yn parhau i weithio gyda'r Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd a rhanddeiliaid ledled Cymru i sicrhau bod y rhaglenni newydd yn mynd i'r afael â'r prif heriau a chyfleoedd sy'n wynebu Cymru ac yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus.
Wrth i ni ddechrau ar y broses gynllunio hon gyda'n gilydd, mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r Aelodau y bydd sefydliadau ledled y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector ynghyd a phartïon eraill sydd â diddordeb yng Nghymru, o 1 Rhagfyr ymlaen, yn cael cyfle cynnar i ddweud eu dweud am gyfeiriad strategol a blaenoriaethau rhaglenni Ewropeaidd y dyfodol.
Bydd cyfle i fynegi barn am y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, rhaglenni Datblygu Gwledig a Physgodfeydd, gan ei bod yn bwysig datblygu'r rhaglenni hyn mewn ffordd gydlynol i sicrhau'r effaith fwyaf bosibl i unrhyw fuddsoddiadau'r UE yng Nghymru yn y dyfodol.
Er bod yn rhaid i ni anelu'n uchel, mae angen i ni hefyd fod yn realistig o ran yr hyn y gall y rhaglenni Ewropeaidd ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r sawl her sy'n wynebu ein gwlad ar adeg pan fydd pwysau ariannol, cyllidebol a byd-eang a phwysau Ardal yr Ewro yn parhau i godi.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni benderfynu pa feysydd penodol y dylem fuddsoddi arian yr UE ynddynt er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael a helpu i fynd i’r afael a’r problemau sy’n parhau i effeithio rhannau o Gymru. Fel rhan o’r cyfle hwn i fynegi barn gofynnir i gyfranogwyr ystyried cwestiynau sy’n canolbwyntio ar feysydd fel sut i dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, sut i integreiddio rhaglenni amrywiol yr UE yn well ledled Cymru, sut i wella ar y trefniadau gweithredu ac i ganfod gwersi a ddysgwyd yn sgil rhaglenni presennol 2007-2013. Bydd yr ymatebion yn ein helpu i weld yn glir flaenoriaethau buddsoddi strategol y dyfodol a'r strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â'r rheini.
Byddaf hefyd yn gwrando ar safbwyntiau'r Aelodau: mae dadl yn y Cyfarfod Llawn ar raglenni Ewropeaidd y dyfodol wedi ei drefnu ar gyfer 10 Ionawr 2012.
Ar ôl i'r Aelodau a'n partneriaid helpu i lunio cyfeiriad strategol rhaglenni Ewropeaidd y dyfodol, bydd angen i ni ddatblygu rhaglenni drafft newydd. Cynigir y bydd y rhain yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn tua diwedd 2012, cyn i ni ddechrau trafod y manylion gyda'r Comisiwn Ewropeaidd.
Cyn hynny, byddwn yn eich annog chi i roi eich syniadau cynnar i ni drwy leisio eich barn, fel y gallwn ni gyd gymryd rhan mewn siapio y rhaglenni newydd ar gyfer lles pobl Cymru.
Mae'r ddogfen ar gyfer rhoi eich barn a'r holiadur ar gael ar wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (www.wefo.cymru.gov.uk). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 27 Ionawr 2012. Bydd adroddiad byr yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2012.