Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Yn ystod fy natganiad llafar i’r Cynulliad ddydd Mercher 16 Mawrth cyhoeddais fy mhenderfyniad i ymyrryd yn fwy llym yng Nghyngor Sir Ynys Môn yn dilyn argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Fel rhan o’r ymyrryd, cyhoeddais fy mod wedi penodi dau gomisiynydd i redeg Cyngor Sir Ynys Môn o ran arfer swyddogaethau gweithredol y Cyngor ar fy rhan.
Cyhoeddais hefyd fy mod yn bwriadu penodi Mr Mick Giannasi fel Comisiynydd wedi iddo ymddeol o’r Heddlu ddiwedd mis Mawrth. Dylech fod yn ymwybodol fy mod bellach yn penodi Mr Giannasi yn swyddogol o 1 Ebrill ymlaen.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi fy mod wedi penodi dau Gomisiynydd arall i ddechrau ar unwaith, sef:
- Margaret Foster – cyn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf
- Gareth Jones – Aelod Cynulliad Aberconwy sy’n ymddeol
Yn olaf, rwy’n cael ar ddeall bod Mr David Bowles am adael ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cyngor Sir Ynys Môn ddiwedd mis Ebrill.
I sicrhau parhad rwyf hefyd wedi penderfynu arfer pwerau sydd ar gael i mi i benodi Mr Richard Parry Jones fel Pennaeth Gwasanaeth Taledig Cyngor Sir Ynys Môn o 1 Mai ymlaen nes yr hysbysir yn wahanol. Mr Jones yw cyfarwyddwr addysg a hamdden presennol y Cyngor ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl.
Rwy’n ddiolchgar i Mr Bowles am ei benderfynoldeb, ei ymroddiad a’r ffordd y mae wedi llywio’r Cyngor drwy gyfnod arbennig o anodd. Rwy’n falch bod Mr Jones wedi cytuno i gymryd y rôl hon ac rwy’n siŵr y bydd yn cefnogi gwaith y Comisiynwyr a’r Aelodau i ddatblygu’r awdurdod a sicrhau cydymffurfiaeth â’m cyfarwyddyd.