Gwenda Thomas , y Dirprwy Weinidog dros Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fy natganiad a gyhoeddais yn gynharach y mis hwn ynghylch cyhoeddi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru dywedais y byddwn yn mynd ati ar fyrder i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer gwella'r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Mae rhagor o integreiddio yn agwedd allweddol ar y broses drawsnewid. Golyga hyn fod gwasanaethau yn seiliedig ar ymddiriedaeth arbennig rhwng defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol medrus, lle y caiff pobl eu gwerthfawrogi a lle clywir eu llais.
Mae'r rhain oll yn nodweddion o'n Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd. Diben y timau hyn yw hyrwyddo newidiadau er mwyn gweddnewid y modd y mae'r gwasanaeth yn ymwneud â theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth ac sy'n aml yn wynebu anawsterau niferus a allai olygu bod eu plentyn yn wynebu risg.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y bydd dwy o ardaloedd arloesi ychwanegol yn cael eu sefydlu yn 2011/12. Ar y cyd â'r ardaloedd arloesi presennol; Merthyr a Rhondda Cynon Taf, Casnewydd a Wrecsam sy'n darparu Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar y cyd â Byrddau Iechyd Cwm Taf, Aneurin Bevan a Betsi Cadwaladr ers mis Medi 2010, bydd yr ardaloedd arloesi ychwanegol yn ein cynorthwyo i wireddu'r weledigaeth lle y mae modd manteisio ar y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ble bynnag yr ydych yng Nghymru. Er mwyn cadarnhau ein hymrwymiad rydym hefyd wedi cyhoeddi heddiw Fap o sut y gallai'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd gael ei drefnu ar draws ardaloedd daearyddol Cymru. Gallai hyn gynnwys hyd at 11 o dimau integredig cymorth i deuluoedd a byddwn yn ymgynghori ynghylch y trefniadau manwl maes o law.
Mae'n rhaid canmol yr ardaloedd arloesi presennol am y modd y maent wedi mynd i'r afael â thasg mor fawr a'u llwyddiant wrth arwain y newid hwn ar draws ffiniau sefydliadol, diwylliannol, proffesiynol a ffiniau o ran gwasanaethau er lles plant a theuluoedd.
Mae effaith y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd o ran cynorthwyo teuluoedd i wireddu eu nodau ac wrth sicrhau bod cymorth ehangach ar gael drwy wasanaethau sy'n bodloni anghenion y teulu cyfan yn eithriadol. Mae'r llwyddiannau cynnar y mae'r ardaloedd arloesi wedi eu crybwyll yn cynnwys brwdfrydedd teuluoedd i ddod yn rhan o'r rhaglen, eu hawydd i newid eu ffordd o fyw a'r ffaith bod y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yn dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ei lwyddiannau cynnar yn tystio i ymroddiad y timau o ymarferwyr medrus iawn, sydd wedi'u hyfforddi mewn technegau ymyrraeth sy'n adeiladu ar nodweddion positif a chryfderau teuluoedd er mwyn cyflwyno newidiadau tymor byr a thymor hir. Mae'r Byrddau Integredig Cymorth i Deuluoedd o fewn yr ardaloedd arloesi hefyd wedi cynnig arweiniad cadarn wrth i'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd gael ei weithredu'n effeithiol. Bydd hi'n cymryd amser i'r diwylliant gwasanaeth newydd ymwreiddio yn y gwasanaethau sy'n cefnogi'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Bydd gan y Bwrdd Integredig Cymorth i Deuluoedd rôl allweddol yn hyn o beth.
Mae'r cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n derbyn gofal ynghyd â'r data o'r cyfrifiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch plant mewn angen yn atgyfnerthu ein penderfyniad i ganolbwyntio i ddechrau ar gamddefnydd rhieni o sylweddau. Camddefnydd o'r fath, ar y cyd ag iechyd meddwl a thrais domestig, yw'r prif reswm dros bryderon ynghylch plentyn ac atgyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol. Mae angen mynd ati ar fyrder i dorri cylch amryfal anfanteision er mwyn mynd i'r afael â'r canlyniadau gwael mewn addysg yn gynharach ynghyd ag anghenion iechyd a lefelau uchel o dlodi sy'n bodoli o fewn y boblogaeth o blant mewn angen (tua 25,000).
Caiff y trefniadau ar gyfer gwahodd awdurdodau lleol ar y cyd â'u partneriaid o fewn Byrddau Iechyd Lleol i gyflwyno cais i fod yn ardal Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd eu cyhoeddi ar wefan y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol 2011-12. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau mynediad daearyddol at y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i gynigion oddi wrth awdurdodau lleol (consortia - o leiaf dau) mewn ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol lle nad yw'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar gael ar hyn o bryd. Bydd grant o £0.55m ar gael ynghyd ag adnoddau eraill gan gynnwys cymorth â hyfforddiant i awdurdodau lleol o fewn consortia sydd wrthi'n arloesi â'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar y cyd â'u Bwrdd Iechyd Lleol.
Gwn fod Aelodau'r Cynulliad yn gefnogol iawn o'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Mae'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yn unigryw i Gymru a dengys bwerau datganoli wrth i ni fynd at i wella gwasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau ar gyfer plant, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Hoffwn/Hoffem ddiolch i bob un ohonoch am hyn.