Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Heddiw, cafodd rheoliadau drafft, a fydd yn sefydlu rôl newydd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) mewn perthynas â’r fframwaith rheoleiddio ffioedd dysgu addysg uwch yng Nghymru o 2012/13, eu gosod gerbron y Cynulliad. Bydd Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011 yn cael eu gwneud drwy ddilyn gweithdrefn penderfyniad negyddol.
Yn Cymru’n Un, y rhaglen ar gyfer llywodraethu Cymru, ymrwymodd Gweinidogion Cymru i ehangu cyfranogiad pob oedran mewn addysg bellach ac addysg uwch. Ar 30 Tachwedd 2010, cyhoeddais y byddai sefydliadau AU yn gallu codi ffioedd dysgu hyd at £9,000 y flwyddyn o 2012/13. Roedd hynny ar yr amod y byddant yn gallu dangos eu bod wedi ymrwymo i ehangu mynediad ac i amcanion strategol eraill. Rhaid iddynt wneud hyn drwy gynlluniau ffioedd sydd wedi eu cymeradwyo gan CCAUC.
Mae’r rheoliadau drafft yn dynodi CCAUC fel yr awdurdod perthnasol at ddibenion Adran 30 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. O 2012/13, bydd CCAUC yn cymeradwyo a gorfodi cynlluniau ffioedd sefydliadau sy’n dymuno codi ffioedd dysgu sy’n uwch na’r swm sylfaenol ar gyfer cyrsiau llawnamser i israddedigion, sef £4,000.
Bydd cynnwys a pharhad cynlluniau ffioedd yn cael eu rhagnodi gan y Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau Wedi Eu Cymeradwyo) drafft, sydd eisoes wedi cael eu gosod gerbron y Cynulliad. Gyda hyn, bydd CCAUC yn cael canllawiau gan fy Adran i ar y broses cynllunio ffioedd.
Mae fy swyddogion wedi ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol ar y trefniadau i gyflawni hyn. Rwyf innau hefyd wedi ystyried yr adborth a dderbyniwyd ar bennu cwmpas y rheoliadau drafft.