Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Mae ein diwydiant diodydd yn rhan bwysig o’n diwydiant bwyd, ac rydym yn gweld ein cwrw, seidr, peri, gwin a gwirodydd yn ennill mwy a mwy o barch a bri ledled y byd.
Rydym wedi gwneud ein hymrwymiad i gefnogi’r diwydiant yn amlwg trwy ein help i ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd a diod o Gymru a thrwy gryfhau dolenni’r gadwyn fwyd lle medrwn ac arallgyfeirio a chryfhau’r economi wledig trwy hyrwyddo cynnyrch a phrosesau newydd a blaengar a chwilio am farchnadoedd newydd.
Ym mis Medi 2011, cynhaliais yn Aberystwyth yr uwch-gynhadledd gyntaf ar y diwydiant diodydd i benderfynu ar uchelgeisiau’r sector, ei botensial i dyfu a beth allai’r Llywodraeth ei wneud ymhellach i gefnogi diwydiant diodydd Cymru.
Rwyf am wneud yn siwr mai’r diwydiant sy’n arwain unrhyw strategaeth newydd a’i bod yn ymateb i bryderon a gofynion y diwydiant. Byddaf yn cynnal cynadleddau tebyg yn y dyfodol i wneud yn siwr bod polisïau a gwaith Llywodraeth Cymru’n parhau i fynd i’r afael ag anghenion y diwydiant.
O ganlyniad uniongyrchol i’r uwch-gynhadledd, mae menter i ddatblygu’r fasnach wedi’i datblygu i roi gwybodaeth arbenigol benodol i Sector Diodydd Cymru, fel gwybodaeth am farchnadoedd, marchnata a brandio, ac am allforio. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu ym mis Ionawr 2012 fydd yn datgelu manylion llawn y fenter.