Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yn adnodd gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio i alluogi pobl i ddysgu’n effeithiol. Mae athrawon ac ysgolion eisoes wedi croesawu technoleg ac wedi buddsoddi mewn amryw o ffyrdd o’i defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Ond, ychydig o enghreifftiau o ragori sydd yna, ac mae’n bwysig i athrawon ac ysgolion Cymru ddysgu o’r enghreifftiau gorau hynny. Roedd yr adroddiad, How the best performing school systems come out on top (McKinsey, 2007) yn nodi bod rhai o’r systemau gorau wedi dod o hyd i ffyrdd i alluogi athrawon i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Roedd yr adroddiad yn dweud hefyd, mewn llawer o’r systemau gorau, bod athrawon yn cydweithio, gan gynllunio eu gwersi gyda’i gilydd, a helpu ei gilydd i wella. Mae hyn yn galluogi athrawon i ddatblygu’n barhaus.
Mae rhwydweithiau athrawon, er enghraifft rhwydwaith Addysg Cymru (addcym), eisoes yn datblygu dulliau o gydweithio. Pam ddylai pob athro orfod dysgu drwy arbrofi â dulliau addysgu newydd pan fo arferion addysgu, sydd wedi cael eu treialu, eisoes yn cael eu defnyddio’n llwyddiannus gyda thechnoleg? Mae ein hathrawon yn uchel eu parch gennyf i, ac rwy’n siŵr y byddai o fudd iddynt rannu eu gwybodaeth â phobl eraill. Byddai hynny yn cynnwys arfer a theori addysgu, yn ogystal â chynnwys yr ystafell ddosbarth. Mae angen i athrawon sy’n datblygu cynnwys allu ei rannu â phobl broffesiynol eraill, er mwyn iddynt hwy allu ei addasu a’i ddefnyddio yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain. Mae technoleg yn cynnig digon o gyfle i ni wneud hynny.
Roedd maniffesto Llafur Cymru yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu amgylchedd dysgu rhithwir i Gymru. Yn fwy nag erioed o’r blaen, erbyn hyn, mae plant, rhieni, dysgwyr ac athrawon yn disgwyl bod modd iddynt ddod o hyd i ddeunyddiau addysgu a threfniadol ar-lein. Ers 2002, mae gan Gymru wefan sydd wedi bod yn gweithredu ar hyd y llinellau hyn, sef NGfL Cymru. Yn y cyfamser, mae’r Brifysgol Agored hefyd wedi bod yn arloesi wrth gynnig deunyddiau dysgu ar-lein. Mae’r deunyddiau sydd i’w cael ar y rhyngrwyd hefyd yn cynyddu diolch i Youtube ac iTunes U. Mae’r ffordd y mae pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd wedi newid. O ganlyniad, mae’n amser ailystyried beth sydd ei angen ar Gymru i ddatblygu dulliau dysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth.
Dylem ganolbwyntio ar feddalwedd ac ar rannu eiddo deallusol ar draws y system. Dylid gwneud hynny pa un a yw ar gyfer addysgu yn yr ystafell ddosbarth; ar gyfer sicrhau bod cydweithio yn digwydd rhwng sefydliadau yn y cyfnod 14 i 19 oed; fel cymorth ar gyfer pontio rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd; neu at ddibenion Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Gan fod cyllidebau cyfalaf Llywodraeth Cymru o dan bwysau o ganlyniad i benderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan lywodraeth y DU, nid oes diddordeb gennyf mewn ychwanegu rhagor o gostau cyfalaf TGCh at yr hyn yr ydym yn ei ysgwyddo eisoes. Ond, mae diddordeb gen i mewn gwario arian mewn ffyrdd gwahanol, a fydd yn sicrhau canlyniadau gwell. Rwyf wedi gweld arfer arloesol gan rai awdurdodau lleol wrth iddynt brynu adnoddau TGCh, ac mae rhai eraill hefyd wedi bod yn greadigol wrth fuddsoddi mewn caledwedd. Er enghraifft, os ceir prawf bod cael cyfrifiadur llechen ym mhob ystafell ddosbarth yn fwy effeithiol na chael ystafelloedd cyfrifiaduron, ac rwy’n pwysleisio bod rhaid bod rhaid bod yna brawf o hynny, byddwn i’n disgwyl i ysgolion ystyried hynny wrth gynllunio ar gyfer buddsoddi mewn TGCh yn y dyfodol.
Rwy’n ymwybodol o’r materion sy’n gysylltiedig â chynhwysiant digidol. Nid dim ond ystyried a ydy plant ac athrawon yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg sydd ei angen, ond rhaid ystyried hefyd a ydy’r dechnoleg ar gael iddynt. Wrth symud tuag at ystafelloedd dosbarth digidol, dylid annog pobl i ddefnyddio adnoddau ar-lein, ond rhaid sicrhau na fyddant yn cael eu heithrio rhag defnyddio’r adnoddau gorau ar gyfer addysgu a dysgu.
Mae’r rhain yn faterion yr hoffwn ymchwilio iddynt ymhellach. Rwyf i o’r farn mai addysgwyr, sy’n gallu dweud yn hyderus beth sy’n gweithio orau yn yr ystafell ddosbarth, yw’r unigolion mwyaf addas i ateb y cwestiynau hyn. Pan fo hynny’n briodol, gallai gweithwyr proffesiynol sydd ar flaen y gad yn y maes TGCh, ac yn arbennig y rheini sy’n gweithio i gwmnïau uwch-dechnoleg blaengar, herio penderfyniadau’r addysgwyr. Bydd gweithwyr o faes TGCh yn gallu gwerthfawrogi’r ystod gyfan o gyfleoedd sydd ar gael i ni.
O ganlyniad, rwy’n cyhoeddi grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn cynnal adolygiad o’r defnydd a wneir o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth. Bydd yr adolygiad yn ystyried:
- Sut y byddai modd datblygu cynnwys digidol o safon uchel ar gyfer yr ystafell ddosbarth ddigidol, a sicrhau bod y cynnwys hwnnw ar gael i bawb;
- Sut y mae NGfL yn cael ei ddefnyddio, ac a oes yna ffordd fwy effeithiol o gyflawni amcanion NGfL;
- A fyddai system darparu cynnwys ar sail cyfrifiadura cwmwl (er enghraifft, model iTunes U) yn gallu gweithio ochr yn ochr â Rhith-amgylchedd Dysgu (VLE) i Gymru, a sut y byddai modd i hynny weithio;
- Sut y byddai modd cynhyrchu cynnwys cyfrwng Cymraeg a chynnwys cyfrwng Saesneg o safon uchel;
- Sut y byddai modd datblygu Eiddo Deallusol Cymreig y byddai modd ei ddefnyddio i ddarparu cynnwys addysgu digidol;
- Sut y gallai athrawon ddatblygu eu sgiliau addysgu digidol i ddefnyddio TGCh i drawsnewid ysgolion.
Rwyf wedi gofyn i Janet Hayward, pennaeth Ysgol Gynradd Tregatwg, i gadeirio’r grŵp hwn. Janet oedd pennaeth Ysgol Gynradd Ynys y Bari pan enillodd yr ysgol honno wobr genedlaethol BECTA ar gyfer Rhagori mewn TGCh yn 2010.
Mae aelodau eraill y grŵp yn cynrychioli ystod o arbenigwyr sector, ac rwyf wrth fy modd o gael cyhoeddi bod yr unigolion canlynol wedi ymuno i ymgymryd â’r dasg bwysig hon:
- Bruce Steele – Rheolwr Gyfarwyddwr, Hyperspace Ltd
- Sioned Wyn Roberts – Cynhyrchydd Teledu Llawrydd
- Julie Barton – Aelod, Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru, Ofcom
- Andrew Green – Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Dr Sangeet Bhullar – Cyfarwyddwr Gweithredol, WISE KIDS
- Stuart Ball – Rheolwr Prosiect, Microsoft Partners in Learning
- Alan Morgans – Cyfarwyddwr, Tinopolis
- Ty Golding – Dirprwy Bennaeth, Ysgol Gynradd Ynys y Bari
- Dylan Jones – Pennaeth, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Bari
Rwyf am i Janet a’r grŵp ganolbwyntio ar ystyried pa ddeunyddiau digidol sy’n gweithio yn yr ystafell ddosbarth, a sut y gallwn sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn gallu cyflawni yn ddigidol. Y nod yw gwella perfformiad. Fel y dywedais yn fy araith, ‘Mae addysgu’n gwneud gwahaniaeth’ ym mis Chwefror, perfformiad sy’n ein sbarduno. Bydd pob mater arall yn dod yn ail i hynny.
Rwy’n disgwyl i’r grŵp hwn adrodd ar ei ganfyddiadau i mi erbyn 31 Ionawr 2012, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed ei argymhellion.