Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.
O dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, mae materion wedi codi ynghylch yr arfer lle gall dau ffermwr gwahanol hawlio taliad o dan wahanol gynlluniau ar yr un darn o dir. Ni chaniateir hawlio ddwywaith ar yr un tir o dan gynllun Glastir a fydd yn weithredol o 1 Ionawr 2012.
Rwyf wedi bod yn ystyried y goblygiadau tymor hwy ar hawlio ddwywaith ar yr un tir ac rwy’n bwriadu cyflwyno rheolau newydd i’w gweithredu o 2012.
Nod cyflwyno’r rheolau hyn yw ei gwneud yn haws i Gymru ddangos tystiolaeth ei bod yn cydymffurfio â gofynion yr UE mewn achos yn ymwneud â hawlio ddwywaith ar yr un tir. Y bwriad yw pennu mai dim ond fel eithriad y caniateir hawlio ddwywaith ar yr un tir a bydd angen i’r ddwy garfan roi tystiolaeth i ddangos ei bod yn gymwys i gael arian o dan Gynllun y Taliad Sengl a chynllun amaeth-amgylcheddol (gan gynnwys Glastir a chynlluniau Organig), fel y bo’n briodol, ar yr un tir drwy gydol y flwyddyn. Rhaid i ffermwyr symud i ffwrdd o’r arfer o hawlio ddwywaith er mwyn osgoi’r cymhlethdodau anochel sy’n ymwneud â thystiolaeth eu bod yn gymwys i gael taliadau. Lle hawlir ddwywaith mewn perthynas â thaliadau Cynllun y Taliad Sengl a thaliadau Ardal Lai Ffafriol, fy mwriad yw sicrhau mai dim ond i’r ffermwr sy’n gwneud y gwaith amaethyddol ar y tir a hawlir y gellir rhoi’r taliad.
Rwyf wedi cyfarwyddo’r swyddogion i ymgynghori â phrif gynrychiolwyr y diwydiant ar y rheolau arfaethedig newydd gan ofyn iddynt sicrhau bod y rheolau cysylltiedig yn effeithiol ac yn gymesur. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn adolygu’r ymateb. Gwnaf innau benderfyniad terfynol ym mis Hydref 2011.