John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Mae codi safonau lles anifeiliaid yn parhau i fod yn bwysig i'r Llywodraeth, ac ystyrir bod ymdrin â bridwyr cŵn diegwyddor sy’n dod ag enw drwg i fridwyr cŵn cyfrifol yn flaenoriaeth uchel. Mae hyn yn gyson ag amcanion y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid.
Cyflwynodd Deddf Lles Anifeiliaid 2006 y cysyniad o'r ddyletswydd i ofalu am anifeiliaid anwes, sydd wedi’I chymhwyso ers amser hir yn achos anifeiliaid fferm, ynghyd â'r 'pum angen' – amgylchedd addas i fyw ynddo; diet iach; y gallu i ymddwyn yn normal; cwmni priodol; a chael eu hamddiffyn rhag poen, anaf a chlefyd.
Nid yw'r rheoliadau presennol ar gyfer bridio cŵn, Deddf Bridio Cŵn 1973 (fel y'i diwygiwyd), yn mynd i'r afael â'r gofynion hyn yn benodol.
Ystyriwyd y materion hyn gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Fridio Cŵn a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2009, a gwnaeth argymhellion mewn dogfen ymgynghori a gafodd ei chyhoeddi fis Hydref diwethaf.
Mewn egwyddor, roedd pawb yn cytuno â gwella safonau lles anifeiliaid ond roedd sawl barn wahanol ynglŷn â’r manylion.
Rwy'n awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth newydd yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd ynghylch lles ac nad yw'n rhoi gormod o bwysau ar y bridwyr hynny sy'n diwallu'r anghenion a nodir yn y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn llawn. Felly, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion drafod gyda phawb sydd â buddiant er mwyn nodi eu pryderon a'u cynigion a, lle bo'n berthnasol, ystyried y rhain mewn deddfwriaeth ddrafft newydd.
Cynhelir trafodaethau yn ystod y misoedd nesaf a bwriedir cynnal ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn ystod yr hydref.