Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Fe’ch hysbysir fy mod heddiw wedi penodi Theodore Huckle, Cwnsler y Frenhines (QC) yn unol ag adran 49(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i arfer swyddogaethau’r Cwnsler Cyffredinol yn unol â darpariaethau’r adran honno.
Ganed Mr Huckle, Cwnsler y Frenhines, ym Mlaenafon ac mae’n uwch gyfreithiwr sydd wedi derbyn Sidan eleni ac sy’n gweithio o fewn cylch Cymru a Chaer.
Byddaf yn cyflwyno cynnig ddydd Mercher 8 Mehefin yn gofyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r enwebiad.