John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Cyhoeddwyd ymgynghoriad pellach heddiw ar fagu cŵn. Mae hwn yn dilyn fy natganiad ar 28 Mehefin, pan yr ymrwymais i lunio Rheoliadau newydd i reoli pobl sy’n magu cŵn.
Dywedais yn fy natganiad ym mis Mehefin bod codi safonau ym maes lles anifeiliaid yn parhau yn bwysig i’r Llywodraeth, ac mae delio â bridwyr cŵn diegwyddor sy’n difetha enw da bridwyr cŵn cyfrifol yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth uchel. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid.
Rydym wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyntaf. Hefyd, dros yr haf bum yn gwrando’n ofalus iawn ar y pryderon a fynegwyd gan amrywiol sefydliadau am fanylion y ddeddfwriaeth arfaethedig. Rydym wedi newid y Rheoliadau drafft i adlewyrchu’r pryderon hynny. Ar yr un pryd bu’n rhaid inni sicrhau bod unrhyw newidiadau yn cyd-fynd â safonau lles uchel, a’u bod yn cadw egwyddorion allweddol Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn y ddeddfwriaeth a’r Canllawiau ar Faterion Statudol Gweinidogion.
Y newidiadau allweddol ers yr ymgynghoriad cyntaf yw:
- newid i’r trothwyon, fel y bydd angen i unrhyw berson sydd â 3 gast sy’n magu ac sy’n magu 3 neu ragor o doreidiau y flwyddyn gael trwydded bridiwr cŵn;
- cyfyngu ar werthu. Bydd angen i unrhyw un sydd â 3 gast sy’n magu ac sy’n hysbysebu 3 o doreidiau ar werth y flwyddyn, sydd wedi’u geni ar y safle neu beidio, neu sy’n eu cyflenwi o fewn unrhyw gyfnod 12 mis gael eu trwyddedu;
- bydd newid yn y gymhareb ofynnol staff i gŵn i un gwas ar gyfer 30 o gŵn.
- bod ci bridio bellach wedi’i ddiffinio. Mae’n rhaid cadw cofnodion a gosod microsglodion ar gŵn bridio; a
- bydd yn rhaid i safleoedd trwyddedig gael trwydded flynyddol.
Un o’r gofynion parhaus ar gyfer bridwyr cŵn trwyddedig yw gosod microsglodion ar yr anifeiliaid ar y safle, ac ar gŵn bach cyn iddynt symud oddi ar y safle / gael eu gwerthu. Rydym yn ystyried goblygiadau ehangach ei gwneud yn ofynnol i osod microsglodyn ar bob ci ar hyn o bryd, a bydd hynny’n destun ymgynghoriad ar wahân maes o law.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.