Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Dirprwy Brif Weinidog
Mae’r diwydiant adeiladu yn werthfawr iawn i Gymru, ac mae’n rhan annatod o economi Cymru, gan helpu i sicrhau mwy o lewyrch a datblygu amgylchedd o safon.
Er nad yw’n un o’r chwe sector sy’n cael blaenoriaeth yn Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd, bydd y sector yn parhau i elwa ar gymorth Llywodraeth y Cynulliad; yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Wrth i ni fuddsoddi yn y chwe sector allweddol, ac wrth i ni ymrwymo i ddatblygu seilweithiau ffisegol Cymru, yn ogystal â meithrin ei gallu o ran TGCh a theleffoni symudol, bydd y diwydiant adeiladu yn gallu manteisio ar gyfleoedd newydd.
Gan ystyried y cyd-destun economaidd ehangach, wrth i’r dirwasgiad byd-eang ddirwyn i ben, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant adeiladu. Bydd hynny’n fodd o gynyddu i’r eithaf y cyfleoedd a fydd ar gael i’r diwydiant, a sicrhau bod Cymru'r unfed ganrif ar hugain yn gallu parhau i wneud cynnydd.
Gyda’r nod hwn mewn golwg, ar hyn o bryd, mae fy swyddogion a finnau yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol o’r diwydiant a gydag asiantaethau cymorth. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda Fforwm Amgylchedd Adeiledig Cymru i sicrhau y bydd anghenion y sector a blaenoriaethau polisi Llywodraeth y Cynulliad yn fwy cydnaws â swyddogaeth y Fforwm hwn yn y dyfodol, ac yn fwy cydnaws hefyd â’r modd y caiff ei ariannu. Rydym yn cydnabod bod cysylltiadau â’r diwydiant adeiladu yn ymestyn y tu hwnt i Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, a’u bod yn dal i ddatblygu er mwyn sicrhau dull o weithredu a fydd yn cynnwys adrannau ar draws y Cynulliad. Isod, ceir rhai enghreifftiau o waith trawslywodraethol sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Ar 18 Chwefror 2011, cyhoeddodd un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, ddatganiad ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru. Mae hi’n datblygu dull rhagweithiol o feithrin cysylltiadau mwy cadarn rhwng busnesau yng Nghymru a chaffael cyhoeddus. Fel ymateb uniongyrchol i’r adborth a gafwyd i’r ymgynghoriad ar Adnewyddu’r Economi, mae ei swyddogion wrthi’n diwygio’r broses cyn-gymhwyso ac yn treialu dull newydd o weithredu.
Yr wythnos ddiwethaf, ar y cyd â’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, cyhoeddais fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol gwerth £105 miliwn. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn rhoi hwb hanfodol i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru ar gyfer 2011-12. Bydd yn caniatáu i’r diwydiant fwrw ati â gwaith hanfodol, a bydd ein dinasyddion a’n heconomi ar eu hennill.
Drwy gyfrwng y cyngor sgiliau sector, Sgiliau Adeiladu yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector adeiladu i sicrhau ein bod yn darparu cymorth perthnasol a phriodol i fusnesau bach a chanolig sy’n perthyn i’r sector hwnnw. Rydym yn gwneud hynny drwy’r Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yn arbennig; gwasanaeth sy’n cynnwys cymorth a gynigiwyd cyn hyn gan Adeiladu Cymru.
Datblygu Sgiliau yw un o’r prif feysydd a fydd yn cael cymorth. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi datblygiad sgiliau adeiladu drwy brentisiaethau a chyrsiau hyfforddi. Cafodd ‘Llwybrau at Brentisiaethau’ ei gynllunio’n benodol ar gyfer hyn. Bydd y rhaglen hon yn cael ei hategu, o dan raglen Adnewyddu’r Economi, gan fentrau a chyfleoedd newydd i gyflogwyr gynnig prentisiaethau yng Nghymru. Yn olaf, bydd y sector hefyd yn elwa ar Raglen Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli (ELMS) yr Adran Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS), a fydd yn datblygu rheolwyr medrus a brwdfrydig.
Fel rhan o’r ymdrech i sicrhau bod Cymru’n fwy gwyrdd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant adeiladu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wella cynaliadwyedd adeiladau. Bydd datganoli Rheoliadau Adeiladu, sydd ar ddigwydd, yn rhoi hwb i’r ymdrech hon. Hefyd, mae £30 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng ngham cyntaf menter ‘Arbed’ Llywodraeth y Cynulliad, a fydd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella perfformiad ynni cartrefi mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae Gweinidogion a swyddogion yn ymgysylltu â’r diwydiant ar hyn o bryd drwy gyfres o fforymau ac asiantaethau cyflenwi sy’n cael cymorth gan y Cynulliad. Bydd hi’n bwysig nodi’r cyfleoedd sydd ar gael i ni gydweithio, ac osgoi dyblygu gwaith, gan gydnabod y bydd rhai meysydd polisi penodol yn galw am ymgysylltu’n fwy eto â’r rheini sy’n cynrychioli diwydiant sy’n amrywiol iawn.