Yaina Samuels
Gwobr Dinasyddiaeth enillydd 2014
Mae Yaina wedi goresgyn dibyniaeth ar heroin ac mae bellach yn esiampl i eraill. Sefydlodd Nu-Hi Ltd, menter gymdeithasol sy’n darparu gweithdai addysg a hyfforddi ynghylch camddefnyddio sylweddau i bawb yng Nghaerdydd. Gweledigaeth y cwmni yw addysgu, rhoi gwybodaeth a grymuso unigolion, teuluoedd a chymunedau i reoli materion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau.
Mae mudiad Yaina yn defnyddio sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr pobl a fu ar un adeg yn gaeth i gyffuriau. Mae’r refeniw sy’n cael ei gynhyrchu drwy’r hyfforddiant yn cael ei ddefnyddio i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i helpu gyda phob agwedd o’r busnes. Yaina sy’n rhedeg Nu-Hi ond nid yw’n cymryd cyflog.
Mae’n gweithio fel swyddog cymorth gyda’r hwyr ac yn rhedeg Nu-Hi yn ystod y dydd. Mae’n cadw swyddfa er mwyn i’r gwirfoddolwyr deimlo’n rhan o gymuned.
Mae Yaina yn frwd dros godi ymwybyddiaeth ynghylch camddefnyddio sylweddau yng Nghymru ac Affrica.