Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Yr wythnos nesaf byddaf yn cyhoeddi'r bandiau terfynol ar gyfer ysgolion uwchradd. Rwyf eisiau nawr nodi’r dull o weithredu ar gyfer ysgolion cynradd.
Mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried holl daith ein plant drwy'r system addysg a sicrhau ein bod yn cynnig darpariaeth o safon o oedran cynnar a bod y ddarpariaeth honno yn parhau yn gyson uchel i bobl disgybl hyd nes y byddant yn gadael byd addysg. Dyna'r rheswm paham y mae angen i ni fandio ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd. Y mae'r un egwyddorion yn gymwys. Mae'n rhaid i ni edrych yn wrthrychol ar ansawdd y ddarpariaeth ym mhob ysgol a nodi'r perfformiadau hynny y gallwn ddysgu ohonynt yn ogystal ag edrych ar awdurdodau lleol a chonsortia i weld a oes angen iddynt roi cefnogaeth ychwanegol neu beidio i'r ysgolion hynny sy'n tangyflawni.
Wrth fynd ati i ddatblygu system fandio ar gyfer ysgolion cynradd, yr wyf felly eisiau sicrhau dull o weithredu sy'n wrthrychol, sydd mor gyson â phosibl â'r dull o weithredu ar gyfer ysgolion uwchradd ac sy'n canolbwyntio ar fy mlaenoriaethau ar gyfer gwella llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith amddifadedd ar ddeilliannau addysgol.
O'u cymharu â'r model ar gyfer ysgolion uwchradd, mae'r heriau ar gyfer datblygu model gwrthrychol ar gyfer ysgolion cynradd yn fwy o lawer. Yr her fwyaf oll yw'r ffaith bod llawer mwy o ysgolion lle mae nifer llai o ddisgyblion.
Mewn ysgolion bach, ychydig iawn o ddisgyblion, os o gwbl, fydd yn cyfrannu at y mesurau perfformiad a gaiff eu defnyddio i gyfrif y bandiau. Golyga hynny y bydd mesurau perfformiad ysgolion bach yn amrywio'n aruthrol o flwyddyn i flwyddyn, a gallai'r newid fod mor eithafol â 100% a 0% mewn unrhyw flwyddyn, gan ddibynnu ar allu 1 disgybl neu griw bach o ddisgyblion.
Am y rheswm hwn bydd yr ysgolion lleiaf o ran maint yn cael eu heithrio o'r system fandio. Yn syml, nid yw'n bosibl llunio mesur cadarn a gwrthrychol o safbwynt ystadegau ar gyfer ysgolion mor fach â hyn. I ddechrau, byddwn yn edrych ar ddatblygu dull o weithredu ar gyfer eithrio ysgolion sydd â llai na deg o ddisgyblion sy’n cyfrannu at y mesurau perfformio a gaiff eu defnyddio i fandio. Mae hynny'n gyfystyr â thua 30% o'r ysgolion.
Bydd gan y mwyafrif o awdurdodau lleol ddull o weithredu eisoes ar gyfer pennu lefel y gefnogaeth y maent yn ei rhoi i'w hysgolion cynradd. Byddaf yn disgwyl i gonsortia dynnu holl ddulliau gweithredu'r awdurdodau lleol yn eu hardaloedd at ei gilydd a defnyddio'r wybodaeth am fandio ar gyfer yr ysgolion mwyaf ochr yn ochr â'r dulliau gweithredu ar gyfer yr ysgolion lleiaf. Er mwyn helpu'r consortia, byddwn yn darparu proffil sy'n seiliedig ar y mesurau perfformiad a ddefnyddiwyd ar gyfer bandio pob ysgol gynradd - gan gynnwys yr ysgolion hynny sy'n rhy fach i gael band wedi'i gyfrif ar eu cyfer.
Bydd angen i ni hefyd ystyried defnyddio cyfartaleddau 3 blynedd er mwyn sicrhau nad ydym yn defnyddio ffigurau sy'n amrywio'n fawr ar gyfer cyfrif y bandiau.
Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn y gallai'r band ar gyfer ysgolion cynradd sydd â chanolfannau adnoddau ar gyfer plant ag Anghenion Addysgol Arbennig fod yn is na'r hyn y byddent yn ei ddisgwyl pe na bai ganddynt ganolfan o'r fath. Mae hwn yn fater llawer mwy amlwg yn y sector cynradd na'r sector uwchradd oherwydd ar y cyfan, bydd nifer y disgyblion yn y ganolfan adnoddau yn gyfran llawer uwch o gyfanswm nifer y disgyblion.
Rwyf eisiau sicrhau bod y mater hwn yn cael ei gydnabod a dyna paham y byddwn yn sicrhau y bydd yr ysgolion hynny sydd â chanolfan adnoddau yn cael eu dynodi fel ysgolion o’r fath pan fyddwn yn cyhoeddi bandiau'r ysgolion cynradd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol ar hyn o bryd er mwyn nodi pa ysgolion sydd â chanolfannau adnoddau.
Ar hyn o bryd mae gennym tua 150 o ysgolion sydd naill ai'n ysgolion babanod yn unig neu’n ysgolion iau yn unig. Dim ond mesurau perfformiad ar gyfer naill ai Cyfnod Allweddol 1 neu 2 fydd yn gymwys ar eu cyfer hwy. Caiff y bandiau ar gyfer yr ysgolion hynny eu cyfrif drwy gymharu'r wybodaeth o'r Cam Allweddol perthnasol â pherfformiad yr holl ysgolion cynradd eraill yn unol â'r mesurau hynny.
Bydd y mesurau perfformiad yn seiliedig ar asesiadau'r athrawon yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2. Rwy'n ymwybodol iawn fod yna bryderon o ran cysondeb yr asesiadau hyn a'r prosesau cymedroli sy'n gysylltiedig â hwy. Dros y 2 i 3 blynedd nesaf byddwn yn adolygu'r asesiadau ac yn cyflwyno profion darllen a rhifedd newydd sy'n fwy cadarn. Tan hynny, byddwn yn defnyddio asesiadau'r athrawon yn sail ar gyfer cyfrif y bandiau gan eu bod yn ddigon cadarn i gynnig llawer o wybodaeth i ni. Byddai aros am ddwy flynedd i gael gwybodaeth well yn esgeulus oherwydd y gallwn fynd ati ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael gennym nawr i wella addysg ein plant. Am y rhesymau hynny, bandiau interim fydd y bandiau ar gyfer ysgolion cynradd am y ddwy flynedd gyntaf.
Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, consortia, athrawon, undebau athrawon, llywodraethwyr a rhieni yn gynnar yn y flwyddyn newydd i ddatblygu'r model ar gyfer bandio ysgolion cynradd. Bydd yr ysgolion yn derbyn eu bandiau dros dro cyn y Pasg. Byddwn wedyn yn darparu'r bandiau terfynol yn ystod tymor yr Haf.
Unwaith eto, rwy'n pwysleisio NAD proses ar gyfer labeli ysgolion, enwi a chodi cywilydd na chreu tabl cynghrair a allai achosi rhwyg rhwng ysgolion yw'r system ar gyfer bandio ysgolion. Diben bandio yw grwpio ysgolion ar sail gwahanol ffactorau er mwyn pennu blaenoriaethau ar gyfer y mathau gwahanol o gymorth a phennu’r rhai y gall y sector ddysgu ohonynt.