Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Yn y Gyllideb Derfynol a gymeradwyodd y Cynulliad ar 8 Chwefror, neilltuwyd cyllid o Gronfeydd wrth Gefn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y cyllid hwn yn eu helpu i ddygymod â’r heriau a ddaw yn sgil y setliad ariannol anodd. Cafodd £14 miliwn ei neilltuo ar gyfer 2011-12, a fydd yn cynyddu i £40 miliwn yn 2012-13 a 2013-14.
Ym mis Chwefror, cyhoeddom y byddai £5 miliwn o’r cyllid hwn ar gyfer 2011-12 yn cael ei ddyrannu i Addasu (Adapt), gwasanaeth sy’n cynnig un pwynt cyswllt ar gyfer newid gyrfa. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn nodi sut bydd gweddill y cyllid ar gyfer 2011-12 yn cael ei ddyrannu.
Caiff y £9 miliwn sy’n weddill ei weinyddu trwy’r Gronfa Buddsoddi i Arbed. Bydd yn cefnogi mudiadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cyrff yn y trydydd sector, i symud i ddulliau mwy effeithlon, mwy effeithiol a mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau.
Trwy ddatblygu’r dull ar gyfer yr holl wasanaeth cyhoeddus a ddilynodd y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi, bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau arloesol sy’n trawsnewid sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Fel rheol, bydd y cyllid yn annog mudiadau i gydweithredu oddi mewn i sectorau a rhyngddynt. Bydd hefyd yn eu hannog i rannu’r gwersi a ddysgwyd yn ogystal ag arferion gorau.
Defnyddir trefniadau’r Gronfa Buddsoddi i Arbed i ddyrannu’r cyllid hwn am fod y Gronfa yn ffordd syml ac ymatebol o ddarparu cyllid. Oherwydd ei allu i fuddsoddi mwy, ei gyrhaeddiad daearyddol a sectoraidd, ac am ei bod yn cyd-fynd â’r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesedd, gall y Gronfa Buddsoddi i Arbed ddyrannu’r cyllid ychwanegol yn gyflym ac mewn ffordd strategol. Mae wedi’i phrofi’i hun yn ffordd o ddyrannu cyllid i ystod eang o brosiectau, ac wedi datblygu trefniadau ar gyfer monitro a gwerthuso canlyniadau prosiectau.
Gan fwyaf, darperir y cyllid ar ffurf cyllid refeniw, ond gellir ystyried cymorth cyfalaf hefyd. Bydd angen ad-dalu’r cyllid hwn. Serch hynny, i gydnabod y gall rhai prosiectau arwain at fanteision ehangach nad ydynt yn arbedion effeithlonrwydd y gellir eu troi’n arian parod, bydd rhywfaint o hyblygrwydd yn hyn o beth er mwyn darparu cyllid nad oes angen ei ad-dalu os caiff meini prawf penodol eu bodloni. Darperir mwy o fanylion am y broses ac amserlen geisiadau maes o law.