Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae’n bleser gen i gyhoeddi rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf mewn adeiladau ysgolion ledled Cymru a fydd yn werth £1.4 biliwn.
Dyma gam cyntaf rhaglen fuddsoddi ar gyfer yr hirdymor.
Yn dilyn y datganiad a gyflwynais ym mis Gorffennaf, mae awdurdodau lleol wedi ailasesu eu Rhaglenni Amlinellol Strategol ac wedi blaenoriaethu eu cynigion ar gyfer buddsoddiad ar sail anghenion ac amgylchiadau lleol. Y bwriad yw rhoi blaenoriaeth i’r angen i wella cyflwr adeiladau a mynd i’r afael â nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion. Bwriedir hefyd fuddsoddi arian i ateb gofynion ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, addysg cyfrwng Cymraeg a darpariaeth ar gyfer addysg ffydd.
Mae’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn ffrwyth partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfarwyddwyr Esgobaethol y Sector Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir a CholegauCymru. Mae holl aelodau’r bartneriaeth wedi cytuno ar raglen a fydd yn sicrhau bod holl awdurdodau lleol Cymru yn derbyn cymorth cyfalaf gwerth cyfanswm o £700 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru dros gyfnod o saith mlynedd.
Bydd y buddsoddiad hwn yn ychwanegol at y buddsoddiad cyfalaf gwerth £415 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei ddarparu drwy’r rhaglen Arian Pontio. Mae’r rhaglen hon, a ragflaenodd Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, yn tynnu at ei therfyn a bydd yn dod yn rhan o’r rhaglen newydd hon a fydd yn dod i rym yn 2014-15. Mae’n hanfodol fod awdurdodau lleol yn dechrau cynllunio eu prosiectau nawr. Bydd Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Bwrdd y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, yn ceisio sicrhau bod y rhaglen yn cael ei gweithredu’n gynt a mynd i’r afael â phrosiectau ysgolion unigol pan fydd cyllid cyfalaf ychwanegol ar gael.
Mae Atodiad A yn cynnwys gwybodaeth am y dyraniadau i’r awdurdodau lleol. Mae’n rhaid pwysleisio mai prosiectau amlinellol yw’r rhain ar hyn o bryd, a gallai eu manylion gael eu newid ymhellach wrth i’r cynigion gael eu datblygu, wrth iddynt wynebu’r broses statudol o ymgynghori ag ysgolion (lle y bo angen) ac wrth iddynt gael eu hasesu ymhellach pan gyflwynir achosion busnes. Dyma arfer da ar waith.
Mae’r ffaith bod awdurdodau lleol wedi datgan eu hymrwymiad i’r rhaglen a’u bwriad i’w datblygu yn galonogol iawn. Mae gen i bryderon, fodd bynnag, nad yw pob awdurdod lleol yn bodloni polisi Llywodraeth Cymru o ran Trawsnewid Pob Oed. Bydd cydlyniant rhaglenni rhai awdurdodau lleol yn cael ei herio ymhellach yn ystod y cam datblygu nesaf.
Erbyn 2014-15 bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru bron 50% yn is mewn termau real o’i chymharu â 2009-10. Canlyniad anochel hyn yw fod yn rhaid i Fwrdd y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif flaenoriaethu ar sail yr adnoddau sydd ganddi.
Byddaf yn parhau i gydweithio â’r Gweinidog Cyllid er mwyn ceisio sicrhau rhagor o arian cyfalaf, a gallai hyn gynnwys datblygu ffynonellau cyllid gwahanol. Mae’n hanfodol fod cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cydweithio fel y gallwn gyflawni’r prosiectau a’r rhaglenni strategol a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar economi Cymru, o ran cyflogaeth uniongyrchol ac addysgu gweithlu’r dyfodol.
Mae’r £1.4 biliwn rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn gyfraniad pwysig at y Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru, ac mae’n pennu ac yn blaenoriaethu ein buddsoddiad mewn ysgolion drwy’r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Hoffwn hefyd nodi fy mwriad heddiw i ddatblygu cynllun buddsoddi ar gyfer y sector Addysg Bellach sy’n cyd-fynd â’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gysylltu â phob Sefydliad Addysg Bellach er mwyn trafod eu blaenoriaethau o ran buddsoddi.
Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae’n hanfodol sicrhau buddsoddiad cyfalaf, fel y gallwn sicrhau gwell deilliannau addysgol, a hefyd wella economi ein cymunedau. Mae cyhoeddiad heddiw’n pwysleisio ymrwymiad llwyr Llywodraeth Cymru i wella bywydau pobl Cymru.