Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Heddiw rydym yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) 2010-15.
Lansiwyd Cynllun Gweithredu YES ym mis Tachwedd 2010 ac mae’n strategaeth ar y cyd rhwng yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a’r Adran Addysg a Sgiliau. Mae’r Cynllun Gweithredu yn canolbwyntio ar bobl ifanc a sut maent yn cael eu cyflwyno i entrepreneuriaeth – codi eu hymwybyddiaeth, datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, ysgogi syniadau a darparu gwybodaeth a chymorth ymarferol i’r rhai sy’n ceisio dechrau busnes.
Rhoi’r Cynllun Gweithredu ar waith:
Mesurir unrhyw gynnydd yn erbyn y 10 Cam Gweithredu a nodir yn y Cynllun. Dyma rai o’r uchafbwyntiau i’w nodi:
Cam Gweithredu 1: Lansio Syniadau Mawr Cymru fel ymgyrch i ymgysylltu â phobl ifanc a phartneriaid ac ennyn eu brwdfrydedd
Lansiwyd Syniadau Mawr Cymru yn swyddogol yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd ym mis Tachwedd 2010 i fod yn brif gyfrwng cyfathrebu i bobl ifanc sy’n ystyried dechrau busnes ac i bartneriaid sy’n eu cefnogi.
Cam Gweithredu 2: Cynnal gweithgareddau a digwyddiadau penodol i feithrin diddordeb mewn entrepreneuriaeth ac annog pobl ifanc i fod yn entrepreneuraidd, yn arbennig y rheini sy’n ddi-waith a/neu’n economaidd anweithgar
Mae tri grŵp entrepreneuriaeth peilot wedi cwrdd â chleientiaid y Porth Ieuenctid. Caiff rhagor o fodiwlau eu cynnal yn ystod mis Mawrth 2012.
Mae gofyniad mynediad newydd wedi’i nodi i ddysgwyr Adeiladu Sgiliau ennill cymhwyster menter neu uned gyfatebol. Dechreuodd y Rhaglenni cyflogadwyedd newydd – Camau at Waith i oedolion, cytundebau hyfforddi i bobl ifanc a phrentisiaethau, ar 1 Awst 2011.
Cam Gweithredu 3: Annog busnesau i ymgysylltu â phobl ifanc a sefydliadau academaidd
Mae 356 o entrepreneuriaid yn gysylltiedig â Rhaglen Modelau Rôl Dynamo i ysgogi ac ysbrydoli pobl ifanc. Mae’r gweithgarwch wedi’i ymestyn i gynnwys gweithgareddau Ymddiriedolaeth y Tywysog, ac mae cysylltiadau â phob math o sefydliadau yn cael eu hystyried, gan gynnwys timau troseddau ieuenctid, grwpiau cymunedol a phartneriaethau ieuenctid.
Mae datblygu Rhwydwaith Menter Prifysgol Gweithgynhyrchu Uwch yn cael ei ystyried gyda Phrifysgol Glyndŵr, Coleg Glannau Dyfrdwy, Airbus, Toyota a’u cadwyni cyflenwi, mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Genedlaethol Entrepreneuriaeth mewn Addysg.
Cam Gweithredu 4: Darparu canllawiau ar-lein i Ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach ar ddysgu entrepreneuriaeth a’i datblygu
Mae canllawiau a phecynnau ar-lein yn cael eu datblygu i alluogi ysgolion a cholegau i ddatblygu continwwm o ddysgu entrepreneuraidd a byddant ar gael ar-lein erbyn Ebrill 2012.
Cyflwynwyd safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgwyr ym Medi 2011. Caiff gwefan Dysgu Cymru ei lansio ym Medi 2012 ac mae’r gwaith o ddatblygu a dewis deunydd i hybu Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn mynd rhagddo.
Cam Gweithredu 5: Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd dysgu drwy brofiad sydd ar gael i bobl ifanc i archwilio entrepreneuriaeth ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe wrthi’n datblygu Cynllun Gweithredu YES rhanbarthol, ac ym mis Rhagfyr 2011 cynhaliwyd Symposiwm Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg/Entrepreneuriaeth dan arweiniad Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol y De-orllewin.
Mae prosiect Llwyddo’n Lleol, sydd dan arweiniad Cyngor Gwynedd, wedi’i ymestyn ar draws Ynys Môn, Sir Ddinbych a Chonwy i helpu pobl ifanc i roi cynnig ar eu syniadau busnes a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i sefydlu eu mentrau eu hunain.
Cam Gweithredu 6: Hyrwyddo rhagoriaeth o ran dysgu ac arwain entrepreneuriaeth drwy rannu a meincnodi arfer da yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
Mewn partneriaeth â’r Ganolfan Genedlaethol Entrepreneuriaeth mewn Addysg, mae 7 o staff Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn cymryd rhan yn Rhaglen Addysgwyr Entrepreneuriaeth Ryngwladol 2011-12, ac mae 3 Dirprwy Is-Ganghellor wedi ymrestru ar Raglen Arweiniad Entrepreneuraidd Prifysgolion 2012.
Cam Gweithredu 7: Paratoi pobl ifanc i gymryd y cam nesaf tuag at ddechrau busnes
Fel rhan o ymgyrch Syniadau Mawr, mae digwyddiadau peilot yn cael eu trefnu i helpu pobl ifanc ddatblygu eu syniadau busnes. Mae’r peilot yn cynnwys 5 digwyddiad agored ym Merthyr, Caerdydd, Abertawe, Sir Benfro a Bangor ynghyd â 3 digwyddiad pwrpasol pellach sydd wedi eu hanelu at grwpiau penodol o bobl ifanc. Cynhelir y digwyddiadau Chwefror – Ebrill 2012.
Mae gweithdai â ffocws, canolfannau menter a rhaglenni cymorth cynnar mewn Addysg Bellach ac Uwch yn cynnig yr amgylchedd i bobl ifanc nodi ac ymchwilio syniadau entrepreneuraidd.
Cam Gweithredu 8: Cynorthwyo pobl ifanc i ddod yn hunangyflogedig
Mae elfen hunangyflogaeth Twf Swyddi Cymru, sy’n targedu pobl ifanc ddi-waith 16-24 oed, yn cael ei threialu ym Mlaenau’r Cymoedd ac ym Môn a Menai. Mae bwrsariaethau ar gael i entrepreneuriaid ifanc.
Cam Gweithredu 9: Sicrhau bod gwasanaethau cymorth yn canolbwyntio ar fusnesau newydd sydd â photensial uchel, yn arbennig mewn sectorau allweddol â blaenoriaeth ac ymysg graddedigion
Mae cymorth dechrau busnes sydd wedi’i deilwra’n benodol, yn cynnwys bwrsariaethau ariannol, ar gael i raddedigion sy’n ceisio cychwyn busnes sydd â’r potensial i dyfu, ac mae wedi’i integreiddio i ddarpariaeth newydd Cymorth Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru.
Cam Gweithredu 10: Manteisio ar brofiad ac arbenigedd y gymuned fusnes i gefnogi entrepreneuriaid ifanc
Mae’r opsiynau ar ddarparu gwasanaeth mentora busnes ar gyfer mentrau bach a chanolig yng Nghymru yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Mae hyn hefyd yn cysylltu ag argymhelliad yn yr adroddiad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ficrofusnesau i ddatblygu cynllun mentora a hyfforddi ar gyfer Cymru gyfan.
Yr effaith hyd yma:
Mae’r data isod yn dangos amgylchedd cadarnhaol i weithgarwch entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru:
- Newid Agweddau – mae pobl ifanc o dan 25 oed yn fwy tebygol o fod eisiau gweithio iddynt hwy eu hunain (52%) na’r grŵp oedran 16-64 oed arferol (39%) (Arolwg Omnibws Cymru 2011)
- Entrepreneuriaeth Cam Cynnar a Dechrau Busnes – yn Adroddiad y Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang (GEM) ar gyfer 2010, nodir bod cyfradd gweithgarwch entrepreneuraidd cam cynnar yng Nghymru ar gyfer unigolion rhwng 18 a 24 oed yn 6.7%, sy’n uwch na chyfartaledd y DU o 3.3%
- Yn ôl Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch – Busnes 2011, mae 5% o boblogaeth Addysg Uwch y DU mewn prifysgolion yng Nghymru, ond maent yn cynhyrchu 9% o’r busnesau newydd a ddechreuir yn y DU gan raddedigion ac 11% o gwmnïau gweithredol sy’n para am 3 blynedd neu fwy.
Panel Cynllun Gweithredu YES
Mae Panel Cynllun Gweithredu YES wedi’i sefydlu dan gadeiryddiaeth David Russ, Cyfarwyddwr Rheoli Menter a Diwydiant Siambr Fasnach Casnewydd a Gwent. Hyd yma, mae’r Panel wedi cyfarfod ddwywaith i dderbyn gwybodaeth ar gynnydd, i ddarparu cyfarwyddyd ac arbenigedd strategol ac i roi cyngor ar sut orau i adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni.
Mae rhagor o fanylion ar Gynllun Gweithredu YES ar gael ar Busnes Cymru.