Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Bwyd Cymru ddydd Iau 12 Gorffennaf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne. Rwy’n ddiolchgar iawn i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru am gytuno i fynychu ac agor y gynhadledd. Mae ei Uchelder Brenhinol wedi bod yn gefnogwr cyson a chryf o gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru ac mae ei weledigaeth am sector fwyd gynaliadwy a llwyddiannus yn rymus ac yn llawn perswâd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau sector fwyd ffyniannus a chynaliadwy sy’n gallu cynnal cyflogaeth a ffyniant ym mhob cwr o Gymru. Rwy'n hyderus bod dyfodol hyfyw yn y tymor hir i'n diwydiant bwyd a diod, ond rwy'n ymwybodol bod sialensiau, yn ogystal â chyfleoedd, i'w hwynebu o hyd.
Pwrpas y gynhadledd a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf oedd rhoi cyfle i bobl o wahanol rannau o’r gadwyn gyflenwi bwyd i ddod ynghyd i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru gryfhau ei gwaith i gefnogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru. Rwy’n awyddus i wrando ar bobl o fewn y diwydiant a sicrhau bod eu syniadau yn siapio’r datblygiad yn y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio yn y dyfodol.Mae cyfleodd am newid yn awr - yn sgil diwygio’r PAC a’r angen am Gynllun Datblygu Gwledig newydd y tu hwnt i 2013. Mae Panel y Sector Bwyd a Ffermio yn darparu cyngor i’r Llywodraeth ar roi polisi datblygiad economaidd ar waith a byddaf yn canolbwyntio yn ystod yr Haf ar sut rwy’n disgwyl i’r Llywodraeth roi’r strategaeth fwyd ar waith. Byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig arall yn yr hydref a fydd yn cynnwys y syniadau a leisiwyd yn y gynhadledd ac yn rhoi’r weledigaeth yma ar waith yng Nghymru.