Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Heddiw, rwy’n cadarnhau’r pecyn cyllid a gynigir i fyfyrwyr addysg uwch sy’n dilyn cwrs yn y flwyddyn academaidd sy’n dechrau fis Medi 2013.
Cymorth cynhaliaeth
Ers cyhoeddi Adolygiad Jones yn 2010, rhewyd y pecyn cymorth cynhaliaeth hael a gynigir i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru fel arfer.
Er bod y trafferthion economaidd ac ariannol yn parhau, rydym yn awyddus i ddal ati i gefnogi ein myfyrwyr yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn credu na ddylai cyllid fyth fod yn rhwystr i gael addysg brifysgol. Felly, rwy’n sicrhau y bydd cynnydd uwch na chwyddiant yn lefel y cymorth cynhaliaeth a gynigir yn y flwyddyn academaidd 2013/14 i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau.
Dyma enghreifftiau o’r hyn a fydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau astudio ar 1 Medi 2013 neu ar ôl hynny:
- grant cynhaliaeth – uchafswm o £5,161;
- benthyciad cynhaliaeth – uchafswm o £5,150 (gan ddibynnu ar incwm y cartref) neu £7,215 os ydych yn astudio yn Llundain; a
- diddymu rhan (hyd at £1,500) o fenthyciad cynhaliaeth myfyrwyr pan fyddant yn dechrau ei ad-dalu.
Bydd manylion llawn am y cynnydd yn y benthyciadau ar gyfer costau byw a gynigir i’r gwahanol gohortau o fyfyrwyr ar hyn o bryd yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Cymorth gyda ffïoedd dysgu.
Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddais drefniadau newydd ar gyfer cymorth ffïoedd dysgu a chymorth i fyfyrwyr yng Nghymru. Mae myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru fel arfer yn gymwys i gael grant nad yw’n dibynnu ar brawf modd i’w helpu gyda ffïoedd dysgu. Bydd y grant yn talu costau ychwanegol ffïoedd waeth ble y bydd y myfyriwr yn dewis astudio yn y DU.
Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys yr ymrwymiad canlynol:
“Gweithredu ein haddewid na fydd unrhyw fyfyriwr [israddedig amser llawn] sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn talu ffioedd uwch, mewn termau real, yn ystod oes y weinyddiaeth hon na phe byddent wedi bod yn fyfyrwyr yn 2010-11. Bydd hyn yn berthnasol waeth ble mae’r myfyriwr yn dewis astudio, p’un ai yng Nghymru neu rywle arall.”
O fis Medi 2013 ymlaen, yn unol â’r ymrwymiad hwnnw:
- £9,000 fydd uchafswm y ffi ddysgu y caiff sefydliadau yng Nghymru ei chodi yn y blynyddoedd academaidd 2013/14, 2014/15 a 2015/16 (yn amodol ar fodolaeth cynllun ffïoedd cymeradwy);
- Bydd uchafswm y benthyciad ffïoedd dysgu i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn cynyddu’n unol â chyfradd chwyddiant ym mhob blwyddyn academaidd. £3,575 fydd uchafswm y benthyciad ar gyfer 2013/14;
- Bydd myfyrwyr yn parhau’n gymwys i gael grant nad yw’n dibynnu ar brawf modd i dalu elfen ychwanegol y ffi ddysgu.
Mae’r pecyn cymorth hael hwn, sydd ar gael i’n myfyrwyr ni, yn fforddiadwy ac yn ymarferol.
Rwy’n disgwyl gosod rheoliadau ar gyfer gweithredu’r newidiadau i’r cymorth, a gynigir i fyfyrwyr ar gyfer 2013/14, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru maes o law.
Caiff o ddogfen hon ei chyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r Aelodau. Pe byddai’r Aelodau’n dymuno imi wneud datganiad arall neu i ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn fodlon gwneud hyn.