Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 10 Medi 2012, cyhoeddais ail ymgynghoriad ar gynigion i gofrestru’r gweithlu addysg yng Nghymru. Rwyf heddiw yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi manylion pellach o’r cynigion ar gyfer cofrestru’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru, a byddaf yn deddfu ar ei gyfer yn y Bil Addysg (Cymru) sydd ar ddod. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol wrth i gynigion gael eu datblygu i sicrhau bod y cynllun cofrestru yn addas at y diben.
Mae’r rhain yn newidiadau pwysig ac yn rhan o’r pecyn o ddiwygiadau yr wyf yn bwriadu eu dwyn ymlaen ar gyfer addysg yn ystod y tymor hwn o Lywodraeth Cymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.