Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw, mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi Datganiad yr Hydref ar y rhagolygon ar gyfer economi’r DU a chynlluniau trethu a gwario Llywodraeth y DU. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn amlinellu’r prif oblygiadau i Gymru.
Ar y cyfan, mae Datganiad y Canghellor yn golygu rhagor o gyni i Gymru a chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig. Mae newyddion da i Gymru yn y ffaith y byddwn yn derbyn cynnydd yn ein dyraniad cyfalaf, ond mae hyn wedi ei ariannu i raddau gan doriadau refeniw. Nid yw hyn, ychwaith, yn gwneud yn iawn am y toriadau blaenorol i’n cyllidebau cyfalaf.
Roedd Datganiad y Canghellor ac adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn sôn llawer am ragolygon economaidd y DU. Mae disgwyl i CMC grebachu 0.1% eleni ac yna gynyddu’n raddol dros y 5 mlynedd nesaf. Mae’r Canghellor yn ymateb i’r rhagolygon hyn – rhagolygon sy’n wannach na’r disgwyl – drwy dderbyn nad ydyw wedi cwrdd â’i dargedau ar gyfer y ddyled.
Bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru y tu hwnt i gyfnod yr Adolygiad o Wariant presennol yn dibynnu ar ganlyniad yr Adolygiad o Wariant a gynhelir y flwyddyn nesaf. Serch hynny, ar sail Datganiad y Canghellor, gallwn ddisgwyl rhagor o gyni. Er mwyn dileu’r diffyg ariannol, mae’r Canghellor wedi dweud y bydd toriadau go iawn yng ngwariant y DU ar wasanaethau cyhoeddus, a hynny’n parhau ym mlwyddyn ariannol 2017/18.
Yn y tymor byr mae rhai ychwanegiadau derbyniol iawn i Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer Twf a Swyddi dros y ddwy flynedd sy’n weddill o gyfnod yr Adolygiad o Wariant presennol. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i newid trywydd ac i gymryd camau pendant a diymdroi er mwyn cynyddu’r buddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau a fydd yn creu swyddi’n sydyn ac yn gwneud gwahaniaeth hirdymor i’n heconomi. Yn fwyaf diweddar, yng nghyfarfod y Gweinidogion Cyllid y mis diwethaf, anogais y Prif Ysgrifennydd i gymryd camau i’r perwyl hwn. Ac roedd y Datganiad ar y Cyd ddoe gan Brif Weinidogion Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn galw eto am fwy o fuddsoddiad cyfalaf. Mae’r cyfalaf ychwanegol y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi heddiw – sef £90 yn ychwanegol yn 2013-14 a £130 yn ychwanegol yn 2014-15 – yn rhywbeth i’w groesawu. Er nad yw’n cau’r bwlch a grëwyd gan y toriadau blaenorol mewn gwariant, mae’n dangos bod Llywodraeth y DU yn symud gam mawr yn nes at yr agwedd yr ydym wedi bod yn ei hyrwyddo ers tro byd.
Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i annog mwy o fuddsoddi yn isadeiledd Cymru. Dyna pam y cyhoeddwyd ddoe y byddem yn buddsoddi mwy na £500m o arian ychwanegol mewn ysgolion a heolydd dros y ddwy neu dair blynedd nesaf. Mae’r dyraniadau cyfalaf a gyhoeddwyd heddiw gan y Canghellor yn llai na’r rheini a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae’r gostyngiadau refeniw y mae’r Canghellor yn eu gwneud, gan gynnwys y toriadau pellach mewn budd-daliadau, yn destun gofid inni.
Ymddengys ar yr olwg gyntaf bod Datganiad yr Hydref, yn 2013-14, yn golygu cynnydd refeniw o £16,651m. Fodd bynnag, o edrych ar yr holl refeniw, gwelwn ei fod yn cynnwys y cyllid canlyniadol a gafwyd trwy Barnett ar gyfer estyn Cynllun Cymorth y Dreth i Fusnesau Bach. Mae Llywodraeth Cymru wedi hen alw am estyn y cynllun hwn. Pe bawn yn dewis cymryd rhan yn y cynllun ar lefel y DU, fel yr ydym wedi’i wneud o’r blaen, byddai’n rhaid inni wneud heb y cyllid canlyniadol. O ystyried hynny, y gwirionedd ar gyfer 2013-14 felly yw gostyngiad o £6.389m yn ein refeniw.
Mae’n dda clywed yn Natganiad yr Hydref bod Llywodraeth y DU am barhau â’i hymrwymiad i drafod yr opsiynau ar gyfer gwella’r M4 yn y De. Mae’r opsiynau ariannu’n cael eu hystyried a’r un pryd, mae trafodaethau’n mynd rhagddynt am argymhellion Comisiwn Silk a’r cyhoeddiadau diweddar ynghylch cyllido Cymru. Bwriad Llywodraeth y DU yw cyhoeddi ei hymateb cyntaf i Gomisiwn Silk yng ngwanwyn 2013.
Dywedodd y Canghellor bod Llywodraeth y DU wedi derbyn argymhellion cyrff adolygu cyflogau i beidio â mynd ar drywydd cyflogau rhanbarthol. Rydym yn falch o hynny a chroesawn hefyd y cyhoeddiad i neilltuo Lwfansau Cyfalaf Uwch i Ardaloedd Menter Glyn Ebwy a Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Bydd hynny’n hwb i’r busnesau yno sydd am fuddsoddi a thyfu. Newyddion calonogol hefyd i Gymru yw bod Casnewydd ymhlith y grŵp nesaf o ddinasoedd sy’n mynd i gael band eang sefydlog cyflym iawn, bod arian sylweddol yn cael ei fuddsoddi mewn gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe a bod cyfalaf yn cael ei neilltuo i’r Banc Busnesau newydd.